Fy Trivallis i

Mae gennym 23 o gynlluniau gwarchod yn Rhondda Cynon Taf, sydd ar gael i bobl dros 60 oed. Hefyd, mae gennym nifer o gynlluniau tai â chymorth i bobl sydd angen gofal cymdeithasol ychwanegol.

Beth yw llety gwarchod?

Mae byw mewn cynllun gwarchod yn golygu bod gennych eich cartref eich hun – gydag ystafelloedd gwely, lle byw, ystafell ymolchi a chegin. Ond mae buddion eraill i’r math hwn o gartref.

  • Dydych chi ddim ar eich pen eich hun
    rydych chi’n rhan o gymuned gyfeillgar, fel cael ffrindiau yn union drws nesaf.
  • Cymorth ychwanegol
    oes angen help llaw arnoch gyda rhywbeth? Dim problem! Mae Cydlynwyr y Cynllun yno i wneud yn siŵr eich bod yn cael help ychwanegol pan fydd ei angen arnoch chi, ac mae tîm ein Canolfan Gyswllt wrth law hefyd ar gyfer unrhyw waith trwsio.
  • Mae diogelwch yn ystyriaeth bwysig hefyd
    mewn tai gwarchod, mae camau ar waith i gadw popeth yn ddiogel. Hefyd, mae gwybod bod help ar gael os bydd ei angen arnoch yn rhoi tawelwch meddwl i chi.
  • Gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol
    mae pob dydd yn gyfle am ychydig o hwyl a chysylltiad, os ydych chi ei eisiau. P’un a yw’n noson ffilm, yn glwb crefftau, yn fore coffi neu’n rhywbeth arall, mae rhywbeth wastad yn digwydd yn ein hardaloedd cymunedol.

Felly, nid yw byw mewn tai gwarchod ddim ond yn ymwneud â chael rhywle i fyw, mae’n ymwneud â chael cartref cyfforddus, cymuned ofalgar, a’r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud bywyd yn wych.

Gwyliwch ein fideo ar fyw mewn tai â chymorth

Beth yw tai â chymorth?

Fel arfer, mae tai â chymorth i bobl ag anghenion sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol. Mae preswylwyr yn byw mewn fflatiau unigol, fel arfer gydag un ystafell wely, ystafell fyw, ystafell ymolchi a chegin. Mae lolfa sy’n cael ei rhannu, cyfleusterau golchi dillad, ac ystafelloedd ymolchi/cawodydd ychwanegol. Cânt eu darparu i ni mewn partneriaeth â’r Cyngor.

Yn ein llety â chymorth, mae’r Cyngor yn dewis darparwr cymorth sy’n aros ar y safle 24/7.

Mae ganddo’r un buddion â thai â chymorth, ond mae’r lle byw a’r cymorth wedi’u teilwra i anghenion y preswylwyr. Ynghyd â gweithgareddau cymdeithasol, mae cyfleoedd weithiau i gymryd rhan mewn gwirfoddoli gerllaw. Rydym ni am i bobl yn ein cynlluniau â chymorth fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymuned leol.

Sut ydw i’n cael cartref mewn cynllun tai gwarchod?

I wneud cais am un o’n cynlluniau tai gwarchod yn Rhondda Cynon Taf, mae’n rhaid i chi wneud cais ar CeisioCartrefRhCT. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei reoli gan y Cyngor lleol.

I wneud cais, bydd angen i chi gofrestru ar y wefan. Ar ôl i chi wneud cais, bydd tîm tai’r Cyngor yn eich rhoi chi mewn ‘band’, yn dibynnu ar eich amgylchiadau; bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r rhai sydd fwyaf mewn angen am gartref.

Cyn i chi gael cynnig terfynol o fflat, bydd tîm Trivallis yn ymweld â chi i wneud yn siŵr mai dyma’r opsiwn gorau posibl i chi a byddant yn rhoi cyfle i chi a’ch teulu ofyn cwestiynau.

Gwneud cais heddiw

Dechreuwch gais gyda CeisioCartref RhCT