Fy Trivallis i

At ba ddiben gallaf i ddefnyddio garej?

Gall rhentu garej fod yn ddefnyddiol am sawl rheswm.

Yn gyntaf, mae’n lle diogel i gadw eich cerbyd, gan ei amddiffyn rhag tywydd fel y glaw, yr haul ac eira. Mae hyn yn cadw eich cerbyd mewn cyflwr da ac mae’n arbed arian i chi ar waith trwsio posibl. Os yw dod o hyd i le parcio yn drafferth lle’r ydych chi’n byw, mae rhentu garej yn rhoi lle pwrpasol a dibynadwy i chi.

Ond nid dim ond ar gyfer ceir mae garejis – mae garej ar rent yn rhoi storfa ychwanegol ar gyfer offer, eitemau tymhorol neu nwyddau chwaraeon. Mae fel estyniad i’ch cartref, gan eich helpu i dacluso a chadw trefn ar bethau.

Hefyd, gall garej ar rhent fod yn weithdy personol i chi neu’n lle ar gyfer diddordeb, yn berffaith ar gyfer prosiectau DIY neu weithgareddau sy’n gofyn am ychydig mwy o le.

P’un a bod angen storfa arnoch chi, man parcio diogel neu le i weithio, mae rhentu garej oddi wrthym yn gwneud eich bywyd bob dydd yn haws ac yn fwy ymarferol.

Mae rhai pethau nad allwch ddefnyddio ein garejis ar eu cyfer. Ni allwch eu defnyddio i redeg busnes, cadw da byw, storio deunyddiau peryglus na’u his-osod.

 

Sut i wneud cais

Rydym ni wedi rhoi’r gorau i geisiadau am garejis am y tro gan fod ein rhestr aros eisoes yn enfawr.

Pan fyddwn ni’n gallu neilltuo garejis eto, byddwn ni’n ailagor ceisiadau ac yn rhoi gwybod i chi. Diolch am eich dealltwriaeth.

Ymuno â’n rhestr aros am garej