Fy Trivallis i

Enillwyr Cystadleuaeth Barddoniaeth y Gaeaf

11 February 2025

Ym mis Rhagfyr, gwahoddwyd trigolion cymunedau Trivallis ledled Rhondda Cynon Taf a Bae Caerdydd i arddangos eu creadigrwydd, eu syniadau a’u profiadau drwy gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth y Gaeaf.

 

Ym mis Rhagfyr, gwahoddwyd trigolion cymunedau Trivallis ledled Rhondda Cynon Taf a Bae Caerdydd i arddangos eu creadigrwydd, eu syniadau a’u profiadau drwy gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth y Gaeaf.

Diolch yn fawr iawn i bawb a anfonodd ymdrechion i’r pair. Fe wnaethon ni wir fwynhau darllen eich cerddi ar thema’r gaeaf.

Dyma’r enillwyr:

18+ oed

Cyntaf – Graham Thomas

Drwy’r Cymoedd, gafaelodd y gaea’n dynn

Afonydd yn rhuo’n un gorlif gwyn.

Stormydd gwyllt a di-baid, yn byddaru’r clyw,

A phrofi calonnau pob enaid byw.

 

Sachau’n llawn tywod, bwcedi’n llawn dŵr,

A gobaith yn bloeddio uwchlaw’r holl stŵr.

Cymdogion yn sefyll yn oerni’r glaw,

Yn gwlwm unedig rhag bygythiad a braw.

 

Goleuadau’n disgleirio, drwy ddüwch y nos,

Chwerthin plant yn boddi rhu nant a ffos.

Neuaddau cynnes llawn cân a hwyl,

Ac er gwaetha’r dyfroedd, awyrgylch gŵyl.

 

Er i’r llif a’r gwyntoedd fygwth y ddraig,

Roedd ysbryd Cymru yn gryf fel y graig.

Yma’n y Cymoedd, beth bynnag ddaw,

Mae pobl yn codi fel un, law yn llaw.

 

Wrth i’r wawr dorri’n aur ar y flwyddyn nesaf,

Anrhydeddwn waddol brawdgarwch y gaeaf.

 

Ail – Kevin King

Mae’r haul yn bell o’r gogledd, y troad ddaeth i’r rhod

Gyda’i ddyddiau byr a’i nosau hir, mae’r gaeaf wedi dod.

Y gaeaf gwyn a’i awyr glir, yn enwedig yn y nos,

Bysedd o rew yn cripian dros fynydd, dol a rhos.

Jac Barrug anweledig, ond gwyddom ei fod yno

Hetiau, menig, sgarffiau, sanau – dyna’r pethau doeth i’w gwisgo.

Pan ddaw yr eira weithiau yn flanced gwyn ei lliw,

Mae’r oedolion oll yn cwyno, ond mae’r plantos yn un criw

Yn codi dynion eira neu sglefrio lawr y bryn,

Neu’n taflu peli eira, eu gwynfyd yw’r byd gwyn.

Ond mae’r machlud ar y gorwel, bydd yn nos mewn dim o dro

A’r plant yn heidio adref ar ôl chwarae drwy y fro.

Bath cynnes braf, a phaned boeth, i gael gwres yn ôl i’w byd

A straeon llawn llawenydd am ddynion eira hud.

Daw’r gaeaf, er yn galed, â gwrid i fochau’r tir

A gobaith o’r tywyllwch – fe ddaw’r gwanwyn cyn bo hir.

 

Trydydd – Benjamin George

Landlord Landlord

 

Mae symud tŷ o hyd yn arswydo

Diolch i’r drefn fod Trivallis yno.

 

Mae iechyd meddwl yn fater o bwys,

Mae’n taro ym mhobman, a’i effaith yn ddwys.

 

Landlord, landlord, mae hyn yn argyfwng,

Fe soniais ers wythnos fod ‘na ddŵr yn gollwng.

 

Peidiwch â phoeni, mae popeth yn barod,

Y carpedi a phopeth wedi eu gosod

Mwynhewch eich Nadolig, does dim byd yn ormod.

 

Wedi’ch ysbrydoli?

Os ydych chi’n angerddol am ysgrifennu, ond nad yw barddoni at eich dant, beth am ysgrifennu erthygl ar gyfer ein gwefan?

Rydyn ni o hyd yn chwilio am straeon cymunedol cadarnhaol i’w rhannu. Fe fyddai’n bleser cynnig cyfle i chi rannu stori newyddion da o’ch ardal, yn eich geiriau chi!

Anfonwch eich erthygl, ac unrhyw luniau cysylltiedig, at comms@trivallis.co.uk