Fy Trivallis i

Dyrchafu Ei Stori

7 November 2025

Rhannu lleisiau menywod trwy Gelf

Rydyn ni’n gwahodd menywod a merched ledled y De-ddwyrain i fod yn greadigol a rhannu eu straeon!

Mae prosiect celf cymunedol Raising Her Story/Dyrchafu Ei Stori yn para rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Chwefror 2026. Gyda’n gilydd, byddwn yn creu ein bynting lliwgar sy’n adrodd straeon go iawn menywod a merched ein milltir sgwâr; straeon am gryfder, gobaith, a bywyd bob dydd.

Bydd pob darn o’r bynting yn rhan o arddangosfa gymunedol fawr i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth 2026.

 

Beth sydd ar y gweill

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cynnal gweithdai creadigol rhad am ddim dan arweiniad artistiaid benywaidd lleol. Mae croeso i chi ymuno â ni, dysgu sgiliau newydd, a rhannu eich stori trwy gyfrwng celf, geiriau neu fideo.

Byddwn hefyd yn rhoi pecynnau deunydd am ddim fel y gall pawb gymryd rhan; hyd yn oed os na allwch chi ddod i weithdy.

Erbyn diwedd y prosiect, bydd gennym gannoedd o ddarnau o’r bynting yn dangos lleisiau a straeon menywod a merched o bob cwr o’r De-ddwyrain.

 

Rhannu eich stori chi

Hoffem i brosiect Dyrchafu ei Stori ddathlu menywod bob dydd a’u profiadau.

Efallai yr hoffech rannu stori am:

  • Menyw sydd wedi eich ysbrydoli neu eich cefnogi chi
  • Rhywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eich bywyd
  • Eich profiadau chi fel menyw

Gallwch rannu eich stori mewn unrhyw ffordd sy’n gweithio i chi; yn ysgrifenedig, ar lafar, neu ei recordio. Yna bydd hyn yn cael ei ychwanegu at y gosodiad i gyd-fynd â’ch darn chi o’r bynting.

Mae stori pawb yn bwysig, boed fawr neu fach, tawel neu feiddgar. Gall eich llais ysbrydoli eraill a helpu i greu arddangosfa bwerus o greadigrwydd, cryfder a chysylltiad menywod ledled y De-ddwyrain.

 

Rydyn ni’n chwilio am artistiaid a grwpiau lleol

Byddem wrth ein bodd petai artistiaid lleol, ysgolion, a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan.

  • Artistiaid: Helpwch i arwain gweithdy creadigol neu greu eich bynting eich hun.
  • Grwpiau neu Ysgolion: Anogwch eich aelodau neu fyfyrwyr i fod yn rhan o brosiect creu bynting.
  • Aelodau’r gymuned: Dewch draw i fwynhau a bod yn rhan o rywbeth arbennig!

Mae croeso i bawb – waeth a ydych chi’n greadigol, yn chwilfrydig, neu ddim ond eisiau cysylltu ag eraill.

 

Trivallis Housing Landlord Wales A colorful poster with bunting and smiling women celebrating. The text, mostly in Welsh, invites women to share their stories as part of a creative project. The Trivallis logo is at the bottom.

 

Y Dathliad Mawr

Byddwn ni’n cyfuno’r holl ddarnau o’r bynting ym mis Mawrth 2026 ar gyfer dathliad mawr ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

– Perfformiadau gan fenywod lleol
– Siaradwyr a fydd yn rhannu straeon ysbrydoledig
– Ffilm fer sy’n dangos y daith
– Ac wrth gwrs, arddangosfa gymunedol lawn o’r bynting

Bydd yn ddiwrnod llawen i ddathlu menywod, creadigrwydd a chymuned ledled y De-ddwyrain.

 

Dewch i gymryd rhan

Gweithdai: Tachwedd 2025 – Chwefror 2026
Ledled y De-ddwyrain
Croeso i bob menyw a merch (gan gynnwys y rhai sy’n uniaethu fel menyw)

Awydd ymuno neu wybod mwy?
e-bostiwch comms@trivallis.co.uk

Gadewch i ni ddod at ein gilydd i fod yn greadigol a dyrchafu ei stori – un pwyth ar y tro.