Fy Trivallis i

Dod â’r Neuadd Les yn ôl yn fyw

7 March 2025

Cwrdd â'r bobl anhygoel sy'n helpu i drawsnewid y Neuadd Les yn Beddau.

Ddydd Sadwrn, 1 Mawrth, daeth gwirfoddolwyr cymunedol a thîm casglu sbwriel Beddau a Thyn-y-Nant (Litter Free Beddau and Tynant) ynghyd i glirio gerddi cefn Neuadd Les Cwm a Llanilltud.

Roedd yn Ddydd Gŵyl Dewi braf a heulog, ac ym mhen dim llwyddodd y tîm i glirio’r holl sbwriel a oedd wedi cronni dros amser. Wrth iddynt weithio, bu’r gwirfoddolwyr yn rhannu eu hatgofion o’r neuadd ac yn trafod ei dyfodol.

Ers degawdau, mae’r Neuadd Les — a gafodd ei hadeiladu a’i hariannu gan lowyr lleol — wedi bod wrth galon y gymuned. O sioeau byw a dangosiadau ffilm i ddigwyddiadau cymdeithasol a diodydd ar ôl gwaith, mae wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl.

Nawr, dan arweinyddiaeth pwyllgor newydd, mae cyfle i adfer y gofod hwn a’i wneud yn lle i bawb. Y nod yw creu lleoliad sy’n diwallu anghenion pobl leol ac sy’n helpu i ddod â’r gymuned at ei gilydd eto.

Dim ond cam cyntaf oedd clirio’r sbwriel ar 1 Mawrth. Mae gwaith i’w wneud o hyd, a byddem yn falch o unrhyw help. P’un a oes gennych chi sgiliau cynllunio, cyllid, cynnal a chadw, codi arian, hyrwyddo, neu os hoffech chi’n syml iawn roi help llaw, byddai eich cefnogaeth yn werthfawr.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â ni drwy dudalen Facebook y pwyllgor neu cysylltwch â Lisa Thomas trwy e-bostio sec.cwmwelfare@outlook.com

Mae’r Neuadd Les wedi cefnogi’r gymuned ers blynyddoedd. Dyma gyfle i’r gymuned  gefnogi’r neuadd a dod â phobl yn agosach at ei gilydd.