Fy Trivallis i

Diwrnod i’r Brenin yn Stad Pen-y-waun

21 March 2025

Ddydd Iau 06 Mawrth, daeth cymuned Pen-y-waun, ynghyd â thimau o Trivallis a Chyngor Rhondda Cynon Taf, at ei gilydd i gael effaith gadarnhaol ar yr ardal ar gyfer Diwrnod i’r Brenin ar y Stad.

Ddydd Iau 06 Mawrth, daeth cymuned Pen-y-waun, ynghyd â thimau o Trivallis a Chyngor Rhondda Cynon Taf, at ei gilydd i gael effaith gadarnhaol ar yr ardal ar gyfer Diwrnod i’r Brenin ar y Stad.

O docio gordyfiant, casglu sbwriel a chael sgyrsiau am yr hyn sydd o bwys i bobl, roedd y diwrnod yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pawb yn gweithio gyda’i gilydd gydag un nod cyffredin.

Trivallis Housing Landlord Wales Two people are trimming overgrown bushes along a sidewalk. One wears a yellow safety vest and uses a power trimmer. The other is farther back near a wooden fence. A house with solar panels is visible in the background under a blue sky.

Roedd Hwb Cana yn fan cyfarfod ar gyfer gweithgareddau’r diwrnod, ac i nodi eu lansiad fel Hwb Casglu Sbwriel Cymunedol gyda Cadwch Gymru’n Daclus, roedd yn lleoliad perffaith i blant ysgol a thrigolion lleol ddod ynghyd i gasglu sbwriel i nodi’r achlysur. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw gasglu sawl bag o sbwriel o’r strydoedd, tir y ganolfan gymunedol, y parc, a’r caeau chwarae.

Trivallis Housing Landlord Wales A group of people standing outside a white building with a sign that reads "HWB CANA." The building is surrounded by a black metal fence. Some individuals are holding red bags. The sky is clear and blue.

Dywedodd Gemma Conway, Swyddog Datblygu yn Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo:

“Roedd yn gyfle gwych i Hwb Cana gydweithio â Trivallis yn ystod eu Diwrnod i’r Brenin yn Stad Pen-y-waun, i lansio ein Hwb Casglu Sbwriel Cymunedol mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus a’r Gymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr (TRA).

“Diolch o galon i Ted o’r TRA am gysylltu ag Ysgol Gynradd Pen-y-waun a chynnwys y plant. Daeth criw anhygoel draw i helpu, gyda 68 o wirfoddolwyr yn helpu i gasglu 47 bag o sbwriel ac ailgylchu.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod gennym ein hoffer ein hunain i’r gymuned ei ddefnyddio pryd bynnag maen nhw ei angen!”

Trivallis Housing Landlord Wales A group of people in high-visibility vests are picking up litter in a grassy area. They are using red bags for collecting waste. Nearby, a child is walking towards the group, and another child is standing on a paved path. Bushes are in the background.

Eglurodd Hywel Tanner-Jones, Swyddog Prosiect Rhondda Cynon Taf yn Cadwch Gymru’n Daclus:

“Nod ein Hybiau Casglu Sbwriel yw gwneud bywyd mor hawdd â phosibl i unrhyw un sy’n ceisio cadw eu cymuned yn lân ac yn ddiogel i bawb eu mwynhau. Mae’r enghraifft hon yn un arbennig tu hwnt oherwydd yr holl bartneriaid sy’n cyfrannu at wneud i hyn ddigwydd.

“Roedd yn wych lansio’r Hwb ar ddiwrnod mor arbennig, gan weddnewid yr ardal. Alla i ddim aros i weld arwyr sbwriel eraill ym Mhen-y-waun a’r cyffiniau yn defnyddio’r offer.

Gallwch ddod o hyd i’ch Hwb agosaf drwy ymweld â gwefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru/litter-picking-hubs.”

Dywedodd Miss Jones o Ysgol Gynradd Pen-y-waun:

“Roedd yn fore gwych, cynhwysol a chynhyrchiol iawn, a wnaeth wahaniaeth enfawr i’r stad.”

Manteisiodd trigolion ar y cyfle hefyd i siarad â thimau Trivallis am yr hyn maen nhw’n ei fwynhau am fyw ym Mhen-y-waun a pha welliannau yr hoffen nhw eu rhoi ar waith yn yr ardal. Roedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol yn bresennol hefyd i ymgysylltu â thrigolion a thrafod materion yn ymwneud â’r stad.

Trivallis Housing Landlord Wales Two women stand in front of a brick wall and metal fence outside a building. One wears a police uniform, and the other wears a black jacket and green skirt. Behind them is a large banner with text, photos, and QR codes.

Agorodd Canolfan Gymunedol Pen-y-waun ei drysau hefyd i groesawu pawb i gymryd seibiant haeddiannol ar ôl eu gwaith caled ac roedd lluniaeth ar gael i bawb.

Trivallis Housing Landlord Wales Three people seated around a blue table in a room with light gray flooring. One person faces the others while they converse. There's a stack of chairs against the wall, and a fire extinguisher is mounted nearby. A fire point sign is visible on the wall.

Ar y diwrnod, ardal ganol Pen-y-waun gafodd y prif sylw ond mae bwriad dychwelyd i ymweld â’r ardaloedd eraill. Dim ond un rhan o’r ymdrechion parhaus oedd y diwrnod i wneud Pen-y-waun yn lle gwell nag erioed i fyw.

Os ydych chi’n byw ym Mhen-y-waun ac yn awyddus i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth, cysylltwch ag involvement@trivallis.co.uk

Cofiwch fod eich Swyddog Tai Cymunedol, Caru Davies yn yr ardal yn aml. Os ydych chi gair â hi ffoniwch 03000 030 888 neu e-bostiwch cynonnt@trivallis.co.uk