Fy Trivallis i

Diwrnod Gweithredu Park View yn creu argraff fawr

7 February 2026

Cynhaliwyd Diwrnod Gweithredu ar y cyd llwyddiannus yn Park View ar 6 Chwefror 2026, gan ddod â'n timau a'n partneriaid o'r awdurdod lleol ynghyd i wneud gwahaniaeth go iawn i'r ystad.

Bu cydweithwyr o’r Tîm Ystadau, Tai Cymunedol (Tracy Harrison) a Chynnwys Cwsmeriaid (Lucy Lloyd) yn gweithio law yn llaw â Thimau Glanhau, Gorfodi ac Ymwybyddiaeth CBSRhCT ar gyfer diwrnod yn llawn dop o weithgareddau glanhau dwys a gwella’r amgylchedd.

Gyda’i gilydd, gwaredodd y timau swm sylweddol o wastraff swmpus a sbwriel gardd o bob rhan o’r ystad – tua saith llwyth lori, cyfanswm o tua 3.5 tunnell. Fe wnaethon nhw hefyd lanhau rheiliau, clirio a thacluso llwybrau a oedd wedi gordyfu, a sicrhau bod yr holl ffyrdd a phalmentydd yn cael eu sgubo’n drylwyr. Diolch i’r gwaith tîm hwn, cafodd  ardaloedd cyffredin eu hadfer a mynediad a diogelwch i breswylwyr eu gwella.

Diolch o galon i Nicholas Harries o Gofal Stryd CBSRhCT am ei waith trefnu chwim ac am y gefnogaeth. Aeth ati’n gyflym i ysgogi timau a llwyddwyd i gyflawni cymaint mewn cyfnod mor fyr. Mae’r gwaith partneriaeth effeithiol hwn wedi gwella sut mae’r gymuned yn edrych yn fawr iawn.

Mae Tracy eisoes wedi derbyn adborth cadarnhaol a diolch gan nifer o denantiaid, sydd wedi gwneud sylwadau ar y gwahaniaeth y mae’r glanhau wedi’i wneud i naws a golwg yr ystad. Diolch i bawb a gymerodd ran am eich gwaith caled a’ch gwaith tîm ac am helpu i gadw Park View yn lle sy’n fwy diogel, glân a chroesawgar i’r trigolion.