Fy Trivallis i

Diweddariad ar Ddatblygu: Taith o amgylch ein safleoedd newydd yng nghwmni Jon

2 June 2025

Yn ddiweddar, cawsom y cyfle i ddal i fyny â Jonathan, Rheolwr Adnewyddu Asedauyma yn Trivallis, a aeth â ni ar daith o amgylch rhai o'n prosiectau tai diweddaraf ar draws y rhanbarth.

Yn ddiweddar, cawsom y cyfle i ddal i fyny â Jonathan, Rheolwr Adnewyddu Asedauyma yn Trivallis, a aeth â ni ar daith o amgylch rhai o’n prosiectau tai diweddaraf ar draws y rhanbarth. Mae Jon wedi bod yn ymwneud yn agos â’r datblygiadau hyn a ariennir trwy’r Grant Tai Cymdeithasol (SHG) a’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) – cyllid a sicrhawyd gennym yn ôl ym mis Mawrth.

Dyma beth ddangosodd Jon i ni:

Teras y Ddraenen Wen, Perthcelyn

Cyflwynodd Jon ni i James o WK Partnerships, a rannodd newyddion cyffrous am y 9 cartref newydd a gynlluniwyd ar gyfer y fan hon – gan gynnwys byngalo a thai dwy ystafell wely. Dywedodd Jon wrthym eu bod wedi bod yn gweithio ar y prosiect hwn ers dros flwyddyn ac yn paratoi i ddechrau adeiladu yn gynnar ym mis Mehefin.

Stryd William, Pentre

Cawsom ein tywys gan Jon draw i’r safle llai hwn lle mae gwaith sylfaen eisoes wedi dechrau ar gyfer dau gartref eang pedair ystafell wely. Disgwylir i’r adeiladu gychwyn ym mis Awst.

Farm Road, Aberaman

Tynnodd Jon sylw at y cynnydd da sy’n cael ei wneud yn Farm Road, lle mae MYTY Homes yn dod yn eu blaen yn dda diolch i’r tywydd da yn ddiweddar. Dywedodd Phil o MYTY Homes y bydd bricwyr ar y safle cyn bo hir i gadw’r momentwm i fynd.

Lleiniau Sengl – Prestige Homes Wales

Yn olaf, dangosodd Jon i ni’r safle lle mae Prestige Homes Wales yn adeiladu pedwar cartref ffrâm bren. Y bwriad yw gorffen erbyn diwedd y flwyddyn ac yna symud ymlaen i’w prosiect mawr nesaf yn Llwydcoed – gan dawsnewid hen safle’r ysgol yn fflatiau a thai.

Mae angerdd Jon am y prosiectau hyn yn glir – mae’n falch o’r tîm a’r partneriaid sy’n ein helpu i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ar draws ein cymunedau. Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau wrth i’r datblygiadau hyn gymryd siâp.