Fy Trivallis i

Dewch i ddweud helo

3 February 2025

Mae Trivallis yn lansio gwasanaeth Tai Cymunedol newydd yn seiliedig ar ddull 'tîm o amgylch y tenant' cyffrous. Wedi'i ysbrydoli gan y syniadau gorau ym maes gofal cymdeithasol, dyma’r fenter gyntaf o'i math yng Nghymru.

Heddiw, mae Trivallis yn lansio gwasanaeth Tai Cymunedol newydd yn seiliedig ar ddull ‘tîm o amgylch y tenant’ cyffrous. Wedi’i ysbrydoli gan y syniadau gorau ym maes gofal cymdeithasol, dyma’r fenter gyntaf o’i math yng Nghymru.

Gyda dros 10,000 o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf a Bae Caerdydd, Trivallis yw un o gymdeithasau tai mwyaf Cymru. Mae’r gwasanaeth newydd yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau cryfach rhwng tenantiaid a’r tîm tai drwy gynnig cefnogaeth fwy personol, rhagweithiol a hawdd cael gafael arni. Er mwyn gwireddu hyn, mae Trivallis yn cyflwyno ardaloedd llai i staff eu gwasanaethu, gan gynyddu maint ei dîm, a chryfhau partneriaethau gyda grwpiau cymunedol. Y nod yw helpu tenantiaid i ofalu am eu cartrefi, eu lles a’u perthnasoedd cymunedol yn fwy effeithiol.

Mae Trivallis wedi dylunio’r gwasanaeth newydd gyda thenantiaid mewn golwg.

  • Cymorth mwy personol: bydd swyddogion tai cymunedol yn goruchwylio ardaloedd llai (350 o gartrefi yn lle 700), gan ganiatáu iddyn nhw feithrin perthnasoedd agosach a darparu cymorth rhagweithiol i denantiaid.
  • Timau cydweithredol: mae staff ar draws tai, diogelu, gosod tai a lles bellach yn gweithio gyda’i gilydd mewn timau lleol i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig.
  • Gwasanaeth di-dor: mae porth newydd i staff yn hwyluso cyfathrebu llyfn ac yn cynnig dull datrys problemau yn gynt i denantiaid, o atgyweiriadau i gymorth incwm.
  • Cysylltiadau cymunedol cryfach: bydd partneriaethau ag iechyd, addysg a gwasanaethau lleol yn cysylltu tenantiaid â’r cymorth cywir pan fydd ei angen arnyn nhw.
  • Datrys problemau yn rhagweithiol: bydd ymyrraeth gynnar yn helpu i fynd i’r afael â heriau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol cyn i bethau waethygu.

 

Y gobaith yw y bydd y dull newydd yn hwb i foddhad tenantiaid, yn lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn creu cymunedau cryfach ac iachach. Ar gyfer tenantiaid newydd, bydd cymorth ychwanegol yn eu helpu i ymgartrefu, cysylltu â’u cymdogion a theimlo’n gartrefol yn eu cymuned.

Meddai Duncan Forbes, Prif Weithredwr Trivallis:

“Mae ein gwasanaeth Tai Cymunedol newydd yn newid cyfeiriad llwyr i Trivallis. Rydyn ni wedi gwrando’n astud ar denantiaid ac ar staff ac wedi cydnabod bod ein model gwasanaeth blaenorol – lle’r oedd ardaloedd mawr o 600-700 o gartrefi fesul Swyddog Tai – wedi ei gwneud hi’n anodd darparu cymorth personol. Yn aml, roedd hi’n teimlo mai dim ond yno i ddatrys problemau oedden ni, gyda hyn yn cyfyngu ar ein gallu i weithio go iawn gyda thenantiaid. Roedd hi’n amlwg bod angen i ni newid er mwyn gallu diwallu anghenion ein tenantiaid a’n cymunedau yn well.

“Mae ein model tîm o amgylch y tenant newydd wedi cael ei ysbrydoli gan waith cyffrous a wnaed yn y sector gofal cymdeithasol, nad yw’r sector tai wedi rhoi’r sylw dyladwy iddo mewn gwirionedd. Mae wedi golygu trawsnewid ein timau’n llwyr, a buddsoddiad mawr yn ein gwasanaethau rheng flaen, ond rydyn ni’n hyderus y bydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n gwasanaethau tenantiaid ac yn gwella canlyniadau i denantiaid a chymunedau lleol.”