Fy Trivallis i

Dathliad ‘FUNd Day’ Tonyrefail

21 July 2025

Dyfarnwyr cyllid lleol yn ymgynnull i ddathlu'r effaith gadarnhaol y mae eu grantiau bach wedi'i chael yn eu cymuned.

Dyfarnwyr cyllid lleol yn ymgynnull i ddathlu’r effaith gadarnhaol y mae eu grantiau bach wedi’i chael yn eu cymuned.

Ar 24 Mehefin, daeth aelodau o grwpiau lleol Tonyrefail at ei gilydd yng Nghanolfan Hamdden Tonyrefail i ddathlu’r gwaith ysbrydoledig y maen nhw’n ei wneud ac i rannu sut mae’r gefnogaeth a gawsant drwy grantiau FUNd Day Tonyrefail wedi gwneud gwahaniaeth.

Roedd y noson ddathlu, a oedd wedi’i threfnu gan grŵp partneriaeth sy’n cynnwys Trivallis, Siambr Fasnach Tonyrefail, Ysgol Gymunedol Tonyrefail, CBSRhCT, Newydd, Beacon (RHA gynt), Interlink RhCT, a Linc Cymru, yn gyfle i gydnabod cyflawniadau grwpiau dan arweiniad y gymuned y dyfarnwyd grantiau o £250-£500 iddyn nhw ym mis Ionawr 2025.

Trivallis Housing Landlord Wales Four adults, three women and one man, sit at a wooden table in a brightly lit room. The table has drinks, a laptop, notepad, and phones on it. Other people are visible in the background.

Roedd y FUNd Day gwreiddiol, a gynhaliwyd yn ôl ym mis Ionawr, yn cynnig dewis amgen i ddulliau traddodiadol o wneud cais am grant, gan ganiatáu i grwpiau cymunedol lleol ddod i gyflwyno cais am grantiau bach i’w helpu i barhau i adeiladu ar eu gwaith cymunedol gwych. Roedd yn ddiwrnod oedd yn cynnig dull amgen i wneud cais am grant, gan ei gwneud hi’n haws i grwpiau wneud cais.

Trivallis Housing Landlord Wales A woman stands speaking in front of a seated audience in a room. Behind her is a screen displaying details for the “Tonyrefail FUND Day Celebration Event” at Tonyrefail Leisure Centre, along with a projector and sound equipment.

Meddai Lisa Roberts, Partner Datblygu Cymunedol Trivallis: Ysbrydolwyd FUNd Day Tonyrefail gan brosiect partneriaeth llwyddiannus blaenorol a’r pryder a rennir ynghylch pa mor anodd yw hi i grwpiau cymunedol newydd neu ddibrofiad gael gafael ar gyllid. Yn hytrach na gofyn am geisiadau ffurfiol, cyfunodd partneriaid eu hadnoddau a gwahoddwyd grwpiau i ‘gyflwyno eu hangerdd’ trwy sgwrsio am eu grwpiau dros baned a chacen.

“Roedd digwyddiad heddiw yn dilyn yr un fformat anffurfiol, croesawgar, gan ddathlu sut mae’r arian wedi helpu pob grŵp a’r gymuned ehangach, gyda straeon, arddangosiadau, a llond gwlad o gacen. Mae wedi bod yn ddiwrnod cofiadwy, ysbrydoledig yng nghwmni pobl anhygoel sy’n caru eu cymuned.”

Mae’r digwyddiad dathlu hwn, sy’n llawn straeon personol, ac ysbryd cymunedol, yn tynnu sylw nid yn unig at yr effaith y mae’r grantiau eisoes wedi’i chael, ond sut mae’r dull hwn wedi gallu cyrraedd amrywiaeth ehangach o achosion da, mwy o lawer nag y byddai dulliau cais am gyllid nodweddiadol wedi eu cyrraedd.

Trivallis Housing Landlord Wales Four older adults sit at a round wooden table with white mugs and plates. Behind them, a person stands at a buffet table. The room has colorful green and purple walls and large mural artwork.

Dathlu llwyddiannau cymunedol

Ymhlith y grwpiau a anrhydeddwyd oedd:

  • Prifysgol y Drydedd Oes (U3A) – Mae U3A, sy’n cyfarfod yn fisol yn y Ganolfan Hamdden, wedi defnyddio eu cyllid i logi lleoliad, gan gefnogi gweithgareddau fel clybiau llyfrau, grwpiau cerdded, sesiynau hanes teuluol, garddio, ac ymarfer siarad Cymraeg, ynghyd â theithiau bws a theithiau i’r theatr.
  • Clwb Pêl-droed Lles Tonyrefail – Derbyniodd gyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddi a chymorth cyntaf, gan helpu i uwchsgilio gwirfoddolwyr a sicrhau sesiynau mwy diogel ac effeithiol i chwaraewyr ifanc.
  • Côr Merched Tonyrefail – Defnyddiodd y côr ei grant ar gyfer llogi lleoliadau a thalu ffioedd y côr, gan eu galluogi i barhau i godi ysbryd y gymuned trwy gerddoriaeth.
  • Canolfan Gymunedol Thomastown – Grant ariannol i wella eu cyfleusterau, gan gynnwys cynlluniau i osod bwrdd arddangos awyr agored a raciau storio newydd. Mae’r ganolfan yn gwasanaethu fel canolbwynt ar gyfer digwyddiadau, dysgu a gweithgareddau diwylliannol.
  • Parc Sglefrio Tonyrefail – Dyfarnwyd cyllid i gefnogi cynlluniau ar gyfer ymestyn y parc sglefrio, gan greu mannau hamdden mwy cynhwysol i bobl ifanc yn Nhonyrefail.
  • Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Tref y Rhug – Sicrhawyd cyllid i ddatblygu cyfleuster addysg awyr agored, gan wella’r amgylchedd dysgu i blant lleol.
  • Cyfeillion Sant Ioan – Derbyniodd grant i helpu i adnewyddu cerrig beddi coffa, gan warchod treftadaeth leol ac anrhydeddu hanes cymunedol.
  • Grŵp Cymunedol yr Efail – Gyda chynlluniau i ddefnyddio’r grant i ddarparu gofod clyd, croesawgar i bobl ifanc yn yr ardal, gan gefnogi eu lles a’u cysylltiad cymdeithasol.
  • The Gentlemen Songsters – Defnyddiwyd y cyllid i brynu seinydd newydd, gan wella ansawdd eu perfformiadau mewn digwyddiadau cymunedol, gan gynnwys eu menter Côr yn y Gymuned. Mae’r arian yn hwyluso’r côr i fynd allan at grwpiau lleol, cartrefi gofal, digwyddiadau, neu leoliadau a chynnal sesiynau cyd-ganu – a chawsom flas bach yn y digwyddiad dathlu.
  • New Life Church – Derbyniodd gefnogaeth i barhau i gynnig brecwastau am ddim i breswylwyr bedwar bore’r wythnos, gan helpu i greu lle croesawgar a chynnes a phryd poeth, i unrhyw un sydd ei angen.

Clywodd y rhai a oedd yn bresennol gan rai o’r grwpiau a ariennir, gyda siaradwyr yn y digwyddiad a chlipiau fideo o berfformiadau. Daeth y digwyddiad i ben gyda chyfle i gyd-ganu, a chafwyd blas ar yr ymdeimlad o ysbryd cymunedol a llawenydd sydd wedi derbyn  hwb gan y grantiau.

Trivallis Housing Landlord Wales Four men sit around a round table in a spacious room with light-colored walls and large windows. They are wearing white shirts and have cups and papers on the table in front of them.

Meddai Wayne Richards, aelod o bwyllgor The Gentlemen Songsters a Chanolfan Gymunedol Thomastown:

“Roedd hi’n wych cwrdd â sefydliadau lleol eraill, dysgu am eu nodau, a rhannu heriau yn y digwyddiad dathlu.

“Mae’r cyllid wedi helpu’r Gentlemen Songsters trwy ddarparu offer ar gyfer ein prosiect Côr yn y Gymuned. Rydyn ni eisoes wedi perfformio mewn sawl lleoliad yn y gymuned gyda’n digwyddiad nesaf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddiwedd mis Gorffennaf. O ran Canolfan Gymunedol Thomastown, rydyn ni wedi defnyddio’r cyllid i uwchraddio ein cyfleusterau a denu mwy o bobl leol.

“Roedden ni’n gwerthfawrogi’r broses ariannu hawdd, lle cyflwynwyd ein syniadau am y prosiect wyneb yn wyneb heb ffurflenni cais hirfaith. Roedd Dathliad FUNd Day Tonyrefail yn syniad gwych a hoffwn ei weld yn cael ei ailadrodd; nid yn unig i ddathlu derbyn arian, ond i ddod â sefydliadau yn y gymuned at ei gilydd i rannu ein profiadau a hyrwyddo ein cynigion. Diolch am wneud iddo ddigwydd.”

Trivallis Housing Landlord Wales Six people sit around a circular wooden table with white cups in front of them, smiling at the camera. Other people sit at tables in the background in a large, well-lit room.

Dangosodd y digwyddiad i ba raddau’r oedd y grantiau wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Clywsom sut roedd y cyllid wedi helpu i ddod â phobl at ei gilydd, lleihau unigrwydd, creu cyfleoedd dysgu, a dathlu treftadaeth leol.