Fy Trivallis i

Datganiad Trivallis ar Ddatblygiadau Tai Newydd

21 July 2025

Mae Trivallis yn ymwybodol o wybodaeth ffug a chamarweiniol sy'n ymledu ar-lein am ei brosiectau tai, yn enwedig yn Mitchell Court, Tonypandy, a Phen-rhys. Dyma'r ffeithiau:

Pam mae Trivallis yn adeiladu mwy o gartrefi?
Mae Trivallis yn adeiladu mwy o gartrefi oherwydd bod prinder tai difrifol. Yn Rhondda Cynon Taf, mae bron i 5,000 o aelwydydd yn aros am dai cymdeithasol, ond dim ond tua 1,100 o gartrefi sydd ar gael bob blwyddyn. Mae llawer o bobl mewn angen brys yn gorfod aros cryn amser am gartref addas.

Hefyd, mae llawer o gartrefi hŷn Trivallis a adeiladwyd yn y 1950au a’r 60au angen llawer o fuddsoddiad er mwyn bodloni safonau heddiw. Mae’r rhain yn cael eu disodli gyda chartrefi modern, ecogyfeillgar, fel ym Mhen-rhys.

Nid oes gan waith adeiladu tai Trivallis unrhyw beth i’w wneud â mewnfudo.

Pwy sy’n cael y cartrefi newydd?
Mae cartrefi cymdeithasol yn cael eu dyrannu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf drwy system Ceisio Cartref RhCT. Mae blaenoriaeth i bobl sydd â’r angen mwyaf, fel pobl ddigartref, rhai â phroblemau iechyd difrifol, neu sy’n gadael gofal neu ysbyty. Hefyd, rhoddir blaenoriaeth i bobl sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog rheolaidd neu wrth gefn, ac sy’n ddigartref ers gadael y lluoedd arfog.

Nid yw’r gofrestr dai yn blaenoriaethu pobl am eu bod nhw’n ‘lleol’ yn unig – yn hytrach oherwydd eu bod nhw angen cartref ar frys. Mae dyrannu cartrefi i bobl sydd eu hangen fwyaf yn decach oherwydd ei fod yn sicrhau bod y rhai sy’n wynebu heriau difrifol, fel iechyd gwael, anabledd, neu ddigartrefedd, yn cael cymorth a chefnogaeth ar frys. Er bod yr elfen leol yn bwysig, dylai diwallu anghenion sylfaenol fel diogelwch, iechyd a sefydlogrwydd ddod yn gyntaf. Mae’r dull hwn yn helpu i greu cymuned fwy tosturiol a chefnogol i bawb.

Yn ymarferol, mae mwy na 19 o bob 20 o’r cartrefi a ddyrannwyd yn mynd i bobl sydd â chysylltiadau lleol â RhCT. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd 90% o’r bobl a gafodd dai cymdeithasol yn RhCT eisoes yn byw yma tra bod gan 6% gysylltiad lleol, fel gweithio yn RhCT neu aelodau’r teulu yn byw yma.

Nid yw pobl sy’n destun rheolaeth mewnfudo o dan Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996 yn gymwys i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ac mae Trivallis wedi’i wahardd yn gyfreithiol rhag eu lletya nhw.

Beth am waith atgyweirio cartrefi presennol?
Mae gwasanaeth atgyweirio Trivallis wedi gwella’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf a bydd yn parhau i wella pethau ymhellach. Mae’r amser atgyweirio ar gyfartaledd bellach ychydig yn llai na 15 diwrnod, gwelliant o 23% ar y llynedd. Roedd adolygiad annibynnol gan Housemark yn rhoi Trivallis ymhlith y 10% uchaf o landlordiaid sydd wedi gwella fwyaf o safbwynt gwaith atgyweirio ledled y DU. Mae’r lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid yn parhau’n uchel, gydag 84% yn hapus gyda’r gwasanaeth atgyweirio a 91% yn fodlon â’i grefftwyr ar y safle.

Mae cartrefi newydd yn haws i’w cynnal ac yn dod â mwy o rent. Mae’r incwm ychwanegol hwn yn helpu i dalu am waith atgyweirio a gwelliannau i eiddo hŷn. Felly, mae adeiladu mwy o gartrefi yn golygu y gall Trivallis ofalu am y rhai sydd ganddo eisoes.

Ydy rhenti Trivallis yn fforddiadwy?
Rhent cyfartalog Trivallis yw £476 y mis, sy’n is na chyfartaledd RhCT. Yn 2024, mabwysiadodd Trivallis y model Rhent Byw, sy’n cysylltu rhent ag incwm. Ni fydd rhenti newydd yn fwy na 23% o incwm aelwyd, sy’n golygu eu bod yn gwbl fforddiadwy.

Ydy Trivallis yn talu’r cyngor am ganiatâd cynllunio?
Fel pawb, mae’n rhaid i Trivallis dalu ffioedd ceisiadau cynllunio i’r Cyngor er mwyn talu am y  costau sy’n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio.

Mae bron pob datblygwr yn gwneud taliadau cyfreithiol i’r Cyngor unwaith y bydd safle wedi’i adeiladu. Mae’r Cyngor yn defnyddio’r rhain i dalu am wasanaethau lleol ar ystadau newydd fel casgliadau biniau, meysydd chwarae ac atgyweirio’r ffyrdd. Mae’r taliadau yn cael eu rheoleiddio’n dynn a’u rheoli’n briodol.

Pam adeiladu mwy o dai pan mae’n amhosib parcio, gweld meddyg, cael deintydd ac ati?

Pan fydd Trivallis yn adeiladu tai newydd, mae’n gweithio gyda’r Cyngor trwy gytundebau cyfreithiol er mwyn helpu i ariannu gwelliannau i wasanaethau lleol. Gall hyn gynnwys arian ar gyfer ysgolion newydd, ffyrdd gwell, mannau gwyrdd, a hyd yn oed cymorth tuag at wasanaethau iechyd hefyd. Mewn datblygiadau mawr fel Pen-rhys, mae’r cynlluniau yn cynnwys elfennau fel ysgol gynradd newydd a chyfleusterau cymunedol.

Hefyd, heb gartrefi newydd, does gan bobl, yn enwedig teuluoedd iau neu’r rhai mewn angen gwirioneddol, ddim unman i fyw yn lleol. Mae hynny’n arwain at dai gorlawn, digartrefedd, a phobl yn cael eu gorfodi i symud i ffwrdd o’r ardal lle cawsant eu magu.

Felly, er nad yw tai yn gallu datrys pob problem, gall peidio ag adeiladu cartrefi newydd waethygu’r argyfwng. Nod Trivallis yw adeiladu cymunedau wedi’u cynllunio’n dda sy’n cefnogi trigolion presennol a darpar drigolion.

Mitchell Court, Tonypandy
Roedd Mitchell Court mewn cyflwr gwael iawn ac nid oedd modd ei adnewyddu’n realistig. Fe wnaeth Trivallis weithio gyda thenantiaid i’w symud i gartrefi newydd addas, cyn dymchwel yr adeiladau. Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno ar gyfer fflatiau a thai newydd ar gyfer pobl sydd angen tai trwy gofrestr RhCT.

Pen-rhys
Mae angen gwario llawer o arian ar gartrefi ym Mhen-rhys sydd wedi’u cynllunio’n wael. Mae Trivallis yn gweithio gyda thrigolion i ailadeiladu’r stad. Mae’r cam cyntaf yn cynnwys tua 123 o gartrefi modern – rhai ar rent cymdeithasol i breswylwyr presennol, eraill ar werth. Dros y 10 mlynedd nesaf, mae Trivallis yn bwriadu adeiladu hyd at 1000 o gartrefi, mannau gwyrdd a chyfleusterau cymunedol. Cyhoeddwyd y bydd ysgol gynradd newydd sbon yno hefyd.

Roedd stad wreiddiol Pen-rhys yn cael ei hystyried yn fodern pan gafodd ei hadeiladu, ond nid yw wedi dyddio’n dda. Yn y 1980au, arweiniodd diweithdra a materion eraill at broblemau difrifol yn yr ardal. Roedd hynny 45 mlynedd yn ôl, ac mae pethau’n wahanol iawn nawr. Trwy weithio gyda’r trigolion, mae Trivallis eisiau osgoi camgymeriadau’r gorffennol a chreu rhywbeth gwell. Gyda chartrefi modern, golygfeydd gwych, mannau gwyrdd, a chymysgedd o drigolion, mae’n credu y gall Pen-rhys ddod yn un o’r lleoedd gorau i fyw yn y Cymoedd.

Bydd rhai cartrefi yn mynd i breswylwyr presennol a’r rhai ar y gofrestr tai leol, a bydd llawer mwy ar werth i unrhyw un. Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â Trivallis trwy’n tudalen Facebook.