Fy Trivallis i

Cystadleuaeth Barddoniaeth y Gaeaf: Rhannwch eich stori’r tymor hwn

22 November 2024

Rydyn ni’n gwahodd y rhai sy'n byw yn ein cymunedau Trivallis ledled RhCT a Bae Caerdydd i arddangos eu creadigrwydd a rhannu eu meddyliau a'u profiadau.

Mae’r gaeaf yn gyfnod o ryfeddu, myfyrio, a chadw’n gynnes wrth i ni swatio rhag yr oerfel. O swyn plu eira i lewyrch clyd tanllwyth o dân, mae gan y tymor hwn ffordd o’n hysbrydoli ni i gyd. Dyma’ch cyfle i gyfleu’r hud hwnnw a rhannu’ch stori – trwy farddoniaeth!

Ar ôl Cystadleuaeth Farddoniaeth lwyddiannus yr Hydref, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein Cystadleuaeth Barddoniaeth y Gaeaf.

Rydyn ni’n gwahodd y rhai sy’n byw yn ein cymunedau Trivallis ledled RhCT a Bae Caerdydd i arddangos eu creadigrwydd a rhannu eu meddyliau a’u profiadau. Does dim angen i chi fod yn awdur proffesiynol, a does dim angen geiriau ffansi—y cyfan sydd ei angen arnoch yw’ch llais.

Byddem wrth ein bodd yn darllen eich cerddi yn eich mamiaith, yn eich ail iaith neu hyd yn oed yn eich trydedd iaith.

Pam cystadlu?

Mae’r gystadleuaeth yn gyfle i bawb fynegi eu hunain. Gwyddom fod cymaint o straeon heb eu hadrodd yn ein cymunedau, a dyma’r cyfle perffaith i’ch geiriau gael eu clywed, p’un a ydych chi’n newydd i farddoniaeth neu wedi bod yn ysgrifennu ers blynyddoedd.

Rydyn ni am glywed eich llais unigryw, eich profiadau bywyd, a’ch persbectif ar y gaeaf. Dyma gyfle i ryddhau’r bardd mewnol ac ysbrydoli eraill gyda’ch creadigrwydd!

Categorïau oedran:

Er mwyn sicrhau chwarae teg i bawb, rydyn ni wedi rhannu’r gystadleuaeth yn dri grŵp oedran:

  • 8–12 oed: I’n beirdd ifanc sy’n llawn dychymyg a rhyfeddod.
  • 13–17 oed: I bobl ifanc sy’n barod i rannu eu safbwyntiau unigryw.
  • 18+ oed: I oedolion o bob oed, p’un a ydych chi’n ysgrifennu am y tro cyntaf neu fod  gennych chi straeon i’w rhannu.
  • Rydyn ni hefyd yn cyflwyno categori arbennig dan 8 oed, lle rydyn ni’n gwahodd plant lleol i anfon llun atom sy’n dangos beth mae’r gaeaf yn ei olygu iddyn nhw.

Sut i ddechrau arni: Ysgrifennu am y gaeaf

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Dyma rai awgrymiadau i’ch tanio:

    • Sylwi: Beth sy’n gwneud y gaeaf yn arbennig yn eich cymuned? Sut mae’r dirwedd yn newid a sut mae pobl yn dod at ei gilydd?
    • Myfyrio: Meddyliwch am yr emosiynau y mae’r gaeaf yn eu creu ynoch chi. Ydy e’n dymor o dawelwch, cysylltiad neu ddechreuadau newydd?
    • Siaradwch o’r galon: Defnyddiwch eich llais unigryw—geiriau syml yw’r rhai mwyaf grymus yn aml.

Sut i gystadlu:

  1. Ysgrifennwch eich cerdd am y gaeaf—beth bynnag mae’n ei olygu i chi.
  2. Anfonwch eich cerdd ynghyd â’ch enw, manylion cyswllt, cyfeiriad a chategori oedran (8–12, 13–17, neu 18+) i comms@trivallis.co.uk gyda’r llinell bwnc: ‘Cerdd y Gaeaf/Winter Poem’.
  3. Ar gyfer y gystadleuaeth arlunio dan 8 oed, anfonwch gopi wedi’i sganio neu lun clir o’r llun, ynghyd ag enw eich plentyn a’ch manylion cyswllt a’ch cyfeiriad i comms@trivallis.co.uk gyda’r llinell bwnc: ‘Llun y Gaeaf/Winter Drawing’.
  4. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 09 Ionawr 2025. Mae’r gystadleuaeth yn agor  ddydd Llun 25 Tachwedd 2024 am 10am.

Rheolau cystadlu:

  • Rhaid i’r gwaith fod yn eiddo i chi.
  • Mae’n rhaid i chi fod yn byw mewn cymuned yn RhCT neu Fae Caerdydd lle mae yna gartrefi Trivallis.

 

Beth allech chi ei ennill?

Dathlu’ch gwaith yw prif nod y gystadleuaeth:

  • Efallai y bydd eich cerdd yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan i’r gymuned gyfan ei mwynhau!
  • Mae talebau siopa £50, £30, a £15 ar gyfer y tri chynnig gorau ym mhob categori oedran. Noder y bydd y 3 ymgeisydd gorau yn y gystadleuaeth lluniau dan 8 oed yn ennill bag danteithion.
  • Os bydd digon yn cystadlu, efallai y byddwn hyd yn oed yn creu blodeugerdd o farddoniaeth yn cynnwys eich gwaith chi a gwaith rhai o’r enillwyr eraill—gyda’ch geiriau yn ymddangos mewn print yn barhaol.

 

Barod i ysgrifennu?

Dyma’r cyfle i’ch creadigrwydd ddisgleirio ac i chi rannu harddwch y gaeaf trwy’ch llygaid chi. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld eich gwaith!