Fy Trivallis i

Cynllun Gwarchod Trem y Cwm yn dod at ei gilydd ar gyfer sesiwn galonogol ar ddementia

20 May 2025

Cyn Wythnos Gweithredu Dementia, fe wnaethon ni ddal i fyny gydag Emma, Cydlynydd Cynllun Gwarchod a oedd wedi trefnu sesiwn Cyfeillion Dementia yn ddiweddar yn Nhrem y Cwm ar ôl derbyn sawl cais gan denantiaid.

Cyn Wythnos Gweithredu Dementia, fe wnaethon ni ddal i fyny gydag Emma, Cydlynydd Cynllun Gwarchod a oedd wedi trefnu sesiwn Cyfeillion Dementia yn ddiweddar yn Nhrem y Cwm ar ôl derbyn sawl cais gan denantiaid.

Dyma Emma’n sôn am y sesiwn galonogol, a ddaeth â thenantiaid yn y cynllun at ei gilydd i ddysgu mwy am ddementia ond a drodd yn sgwrs onest am brofiadau personol.

Esboniodd Emma: “Yn dilyn cyfarfod tenantiaid, roedd awydd i drefnu gweithdai neu sesiynau i ddysgu mwy. Ar ôl gwneud rhywfaint o waith ymchwil, fe wnes i ddod ar draws Cyfeillion Dementia a threfnais sesiwn.

“Ymunodd Hannah Watson o CBSRhCT â ni i gyflwyno’r sesiwn. Roedd Hannah yn berffaith ar gyfer y dasg. Cyflwynodd y sesiwn mewn modd mor hyfryd, ac roedd yn ddeallus, yn ofalgar, yn amyneddgar ac yn gadael i’r sesiwn gael ei harwain gan y profiadau a’r teimladau a rannwyd gan y tenantiaid.”

Trivallis Housing Landlord Wales Five adults sit in a brightly lit living room, arranged in a circle. They appear to be engaged in conversation. Snacks and drinks are on the tables nearby. A TV is mounted on a wall with yellow floral wallpaper.

Meddai Hannah, Cydlynydd Pobl Hŷn: “Roedd hi’n bleser cyflwyno sesiwn wybodaeth Cyfeillion Dementia i’r tenantiaid yn Nhrem y Cwm. Roedd pawb yn dangos cymaint o ddiddordeb, ac roedd hi’n chwa o awyr iach cael sgwrs mor agored a gonest a chael cyfle i rannu straeon a phrofiadau personol. Rwy’n gobeithio y bydd o fudd i’r tenantiaid ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am eu cynlluniau ar gyfer gweithredu Cyfeillion Dementia yn lleol”.

Fel rhan o’r sesiwn cafwyd sgwrs am bum neges allweddol Cyfeillion Dementia, sef:

  1. Dydy dementia ddim yn rhan naturiol o heneiddio. Mae hon yn neges hynod bwysig. Fodd bynnag, gwyddom mai’r ffactor risg mwyaf hysbys ar gyfer dementia yn gyffredinol yw heneiddio.
  2. Mae’n cael ei achosi gan glefydau sy’n effeithio ar yr ymennydd.
  3. Mae mwy i ddementia na cholli cof.
  4. Mae’n bosibl byw yn dda gyda dementia.
  5. Mae mwy i’r person na’r dementia.

Sbardunodd y negeseuon hyn drafodaethau ynghylch symptomau, ofnau, profiadau a sut mae pawb yn edrych ar ddementia yn wahanol.

Meddai Emma: “Cafodd un tenant yn y sesiwn ddiagnosis o ddementia yn 2023, yn dilyn pryderon ynglŷn â’i chof a’i dryswch. Roedd Mrs I yn agored iawn yn ystod y sesiwn, a chafodd pawb well dealltwriaeth o ddementia drwy wrando ar ei phrofiadau.

“Fe wnaethon ni ddysgu bod mwy i ddementia na’r cof, mae’n llawer mwy na hynny. Gall dementia newid person yn llwyr. Rhannodd Mrs I mai un o’i symptomau oedd rhegi, dim ‘filter’, a dim rheolaeth dros yr hyn yr oedd hi’n ei ddweud. Roedd hi’n teimlo fel bod yn rhaid iddi ymddiheuro am fod yn anghwrtais, er na allai stopio. Cafodd y tenantiaid fudd mawr wrth glywed am realiti bywyd bob dydd gyda dementia, ac roedd mor agored yn ddewr iawn.”

Rhannwyd llawer o brofiadau hapus hefyd. Sut y gall cariad a chefnogaeth helpu’r rhai sy’n byw gyda dementia, sut y gellir rheoli symptomau a sut mae dealltwriaeth yn adnodd gwych.

Meddai Emma: “Yr hyn greodd argraff arna i oedd dysgu bod atgofion yn cael eu storio ar un ochr i’ch ymennydd, ar hen silff lyfrau anniben efallai, a’r teimladau sy’n cyd-fynd â’r atgofion hyn yn cael eu storio ar yr ochr arall, ar silff lyfrau gadarn effeithiol. Wrth i’r silffoedd llyfrau hyn gael eu siglo, gall yr atgofion syrthio oddi ar y silff anniben ac ansefydlog ond bydd y teimladau’n parhau, heb ddisgyn, ar y silff fwy cadarn.

“Efallai nad ydych chi’n cofio pam eich bod chi’n teimlo’n hapus ac yn cael eich caru, ond rydych chi’n ei deimlo fe. Gallech fod yn rhwystredig ac yn ddig a does gennych chi ddim syniad pam. Dyma pam mae dealltwriaeth ac amynedd yn allweddol i helpu pobl i fyw’n dda.”

Roedd tenantiaid y cynllun wedi mwynhau’r sesiwn yn fawr. Er gwaethaf rhai’n rhannu pryderon eu bod yn bryderus ynglŷn â mynychu rhag ofn y bydden nhw’n dysgu y gallen nhw fod â symptomau o ddementia neu o ddweud y peth anghywir, gadawodd pawb y sesiwn gyda gwell dealltwriaeth a mwy o dawelwch meddwl am y pwnc.

Meddai Emma: “Roedd Hannah yn anhygoel. Dywedodd wrth y tenantiaid y byddai’n anfon rhestr wirio o symptomau ac os oes gan unrhyw un bryderon, y gallen nhw ofyn am gael gweld eu meddyg teulu. Roedd hyn wir wedi helpu i leddfu rhai o’r pryderon a oedd ganddyn nhw.”

Dyma beth oedd gan y tenantiaid i’w ddweud:

Meddai Kevin: “Ar ôl y cwrs, roeddwn i’n hapus mod i wedi dysgu cymaint am Mrs I, wrth iddi rannu ei hanes. Dwi mor falch ohoni am fod mor ddewr ac onest.”

Meddai Pat: “Dyw dementia ddim yn newydd i mi. Dwi’n deall tipyn go lew yn sgil cefnogi fy ffrind. Ond gyda’r sesiwn mor agored a gonest, fe wnaethon ni i gyd elwa, gan ddysgu o brofiadau eraill.”

Meddai Jen: “Roedd hi mor ddiddorol. Dwi’n falch iawn fy mod i wedi cymryd rhan. Roedd pawb mor agored a gonest, ac fe wnes i gael budd a chysur mawr.”

Esboniodd Emma: “Ar ddiwedd ein sesiwn, siaradodd Den, un o’r tenantiaid a dweud ‘Dwi eisiau dweud mod i’n falch ein bod ni i gyd wedi gwneud hyn heddiw. Mae cael Mrs I yma, a bod gyda chyfeillion, a siarad mor onest, wedi ein helpu ni i ddeall ac rydyn ni’n mynd i ofalu amdanoch chi.’

“Dwi’n dal i gael gwefr ac yn gwenu fel giât wrth feddwl am y sylw yna. A dyna yw ystyr gwarchod. Cwmni, cyfeillion a rhannu eiliadau gwerthfawr, gan fynd i’r afael ag unigedd gyda’n gilydd.”

 

Cymorth pellach

Dysgwch fwy am Gyfeillion Dementia yma.

Os ydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hun neu am anwylyd, ewch i Gymdeithas Alzheimer am ragor o gymorth neu mynnwch sgwrs â’ch meddyg teulu.

Eisiau dysgu mwy?

Bydd Cymdeithas Alzheimer yn cynnal sesiynau gwybodaeth Rhithiol Cyfeillion Dementia bob dydd Llun 19 Mai i ddydd Gwener 23 Mai am 10am, 1pm a 5pm. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno ar Zoom ac mae croeso i bawb.

Dolen: https://alzheimers.zoom.us/j/64052909154 ID y sesiwn: 640 5290 9154

Neu cymerwch ran yn y sesiwn flasu ddigidol sydd ar gael: dementiafriends.org.uk/register-digital-friend