Fy Trivallis i

Cynllun datblygu Trivallis yn mabwysiadu dull rhagweithiol ac entrepreneuraidd, o ansawdd, i adeiladu cartrefi

16 January 2025

Mae'r gymdeithas dai gydfuddiannol gymunedol Trivallis wedi cyhoeddi ei chynllun ar gyfer datblygu cartrefi newydd. Mae'r ddogfen yn nodi newid sylweddol yn null datblygu Trivallis ac yn amlinellu ei strategaeth hirdymor i fynd i'r afael â phrinder tai yma yng Nghymru, yn enwedig yn Rhondda Cynon Taf.

Nod Trivallis yw adeiladu o leiaf 130 o gartrefi newydd o’r radd flaenaf bob blwyddyn, gan ymgorffori modelau tai amrywiol (rhent cymdeithasol, rhent y farchnad a pherchnogaeth), blaenoriaethu unedau llai i ymateb i newidiadau demograffig, a chanolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni a hygyrchedd. Mae Trivallis yn bwriadu ehangu ei gyrhaeddiad daearyddol o fewn Dinas-ranbarth Caerdydd a defnyddio adnoddau a safonau dylunio Llywodraeth Cymru yn strategol.

Mae strategaethau lliniaru risg, gan gynnwys rheolaethau ariannol a mesurau sicrhau ansawdd, wedi’u cynnwys i sicrhau llwyddiant y cynllun. Y nod yn y pen draw yw gwella lles cymunedol trwy gynyddu nifer ac ansawdd y tai fforddiadwy.

Mae’r cynllun yn amlinellu deg elfen i sicrhau bod Trivallis yn cyrraedd y nod:

  1. Modelau rhent a pherchnogaeth gymysg: darparu ystod o opsiynau tai, gan gynnwys perchentyaeth cost isel, rhent cymdeithasol, a’r farchnad rhentu preifat. “Trwy gynnig cymysgedd o opsiynau, gallwn ymateb i anghenion tai gwahanol bobl yn yr ardal leol yn well.”
  2. Unedau llai: blaenoriaethu adeiladu cartrefi un ystafell wely i ymateb i’r nifer cynyddol o aelwydydd un person. “Trwy flaenoriaethu eiddo un ystafell wely, bydd ein cyflenwad tai yn cyd-fynd â gofynion esblygol y boblogaeth leol.”
  3. Llyfr patrymau Llywodraeth Cymru: defnyddio dyluniadau tai safonol sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw i symleiddio’r gwaith adeiladu, sicrhau ansawdd uchel, a chreu “tai addasadwy, hygyrch ac ecogyfeillgar”.
  4. Safleoedd mwy o faint: canolbwyntio ar ddatblygiadau gydag o leiaf 20 o gartrefi i wella effeithlonrwydd rheoli. Bydd cyfleoedd datblygu llai yn cael eu trosglwyddo i sefydliadau tai cymunedol lleol.
  5. Ehangu’r cwmpas daearyddol: er mai Rhondda Cynon Taf yw’r brif flaenoriaeth o hyd, bydd gwaith datblygu’n ehangu i siroedd Caerdydd, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, a Merthyr. Mae Casnewydd a De Powys yn cael eu hystyried ar gyfer prosiectau yn y dyfodol hefyd.
  6. Cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog: blaenoriaethu lleoliadau ger rhwydwaith Metro De Cymru a’r prif ffyrdd i wella symudedd tenantiaid a gwella mynediad at waith ac addysg. “Trwy integreiddio tai â chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog, gallwn greu cymunedau sydd â chysylltiadau gwell, sy’n fwy cynhwysol ac yn amgylcheddol gynaliadwy.”
  7. Hygyrch: dylunio cartrefi hyblyg y gallwn eu haddasu o’r cychwyn cyntaf, gyda nodweddion hygyrchedd i ddarparu ar gyfer poblogaethau sy’n prysur heneiddio. “Trwy ymgorffori nodweddion hygyrch ym mhob cartref o’r dechrau’n deg, gallwn osgoi addasiadau costus yn ddiweddarach a chaniatáu i denantiaid fyw’n annibynnol am fwy o amser.”
  8. Arbed ynni: datblygu cartrefi cynaliadwy ac ynni-effeithlon i leihau costau, gwella iechyd, a chefnogi nodau hinsawdd Llywodraeth Cymru.
  9. Blaenariannu a phrynu diamod: defnyddio cyllid mewnol i brynu tir ac adeiladu cartrefi, gan gynnwys prynu tir heb ganiatâd cynllunio i leihau costau ac ennill mwy o reolaeth dros y broses. “Bydd y dull rhagweithiol hwn yn caniatáu i ni weithredu’n gyflym pan fydd cyfleoedd yn codi, gan sicrhau nad ydym yn colli’r cyfle i brynu safleoedd allweddol.”
  10. Adfywio: rhaglen bwrpasol i adfywio safleoedd presennol, ar wahân i dargedau datblygu newydd, gyda phob prosiect adfywio yn hunangynhaliol yn ariannol.

Lawrlwythwch y cynllun

Wrth lansio’r cynllun, dywedodd Louise Attwood y Cyfarwyddwr Datblygu: “Mae Cynllun Datblygu Trivallis yn strategaeth gynhwysfawr ac uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r anghenion tai brys yng Nghymru, yn enwedig yn ardal Rhondda Cynon Taf a’r cyffiniau. Mae’n dangos ein bod ni yn Trivallis yn symud tuag at ddull datblygu mwy rhagweithiol ac entrepreneuraidd sy’n ymateb i ddata,. Mae’r pwyslais ar hygyrchedd, cynaliadwyedd, lles cymunedol a darpariaeth effeithlon yn dangos ein pwyslais clir ar greu amgylcheddau byw gwell a mynd i’r afael ag anghenion amrywiol y boblogaeth. Mae adeiladu cartrefi yn golygu adeiladu cymunedau ffyniannus hefyd.”