Fy Trivallis i

Cymunedau sy’n arwain y ffordd gyda chyllid Rise Strong

21 July 2025

Mae Rise Strong yn brosiect a arweinir gan y gymuned sy’n dod â theuluoedd ynghyd yng Nghae Fardre, Penrhys ac Aberdâr, er mwyn mynd i'r afael â materion lleol ac adeiladu dyfodol mwy disglair.

Mae Rise Strong yn brosiect a arweinir gan y gymuned sy’n dod â theuluoedd ynghyd yng Nghae Fardre, Penrhys ac Aberdâr, er mwyn mynd i’r afael â materion lleol ac adeiladu dyfodol mwy disglair. Wedi’i ariannu gan grant Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, nod y prosiect yw creu mwy o gyfleoedd cyfartal i bob teulu—gan helpu i godi gobeithion a dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Pam mae Rise Strong yn Bwysig

Roedd y prosiect hwn yn rhan o gronfa Llywodraeth Cymru gyda’r nod o helpu plant a phobl ifanc i dyfu’n hapus, yn iach ac yn llawn uchelgais – waeth ble maen nhw’n byw. Trwy gefnogi cymunedau i gymryd yr awenau, mae Rise Strong wedi helpu i greu mwy o gyfleoedd i blant a theuluoedd ddysgu, cysylltu a ffynnu gyda’i gilydd.

“Mae’r prosiect hwn yn dangos beth all ddigwydd pan fyddwn ni’n ymddiried mewn cymunedau ac yn cefnogi pobl i weithredu ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.” — Jen O’Hara Jakeway, Pennaeth Ymgysylltu â’r Gymuned yn Trivallis.

Trivallis Housing Landlord Wales A woman leans over a table covered with paper and yellow sticky notes, engaging with children seated around her. The kids appear focused on writing or drawing. Markers and papers are scattered on the table.

Hwb Cae Fardre

Mae cyllid a chefnogaeth Rise Strong wedi helpu hwb cymunedol Cae Fardre i dyfu trwy ddarparu adnoddau a chymorth i greu gweithgareddau fforddiadwy i bobl ifanc a theuluoedd. Mae hyn wedi cynnwys gostwng costau ar gyfer digwyddiadau mewn ysgolion, ychwanegu chwaraeon newydd fel pêl-fasged, a chyflwyno gweithgareddau fel gwneud pizza i’r hwb i leihau rhwystrau o ran teithio. Mae 180 a mwy o bobl yn ymuno’n rheolaidd â sesiynau dysgu fel coginio a chrefftau. Mae’r cyllid wedi adeiladu partneriaethau lleol cryf ac wedi cynnig hyfforddiant hefyd, gan sicrhau bod yr hwb yn gallu parhau i gefnogi’r gymuned yn y tymor hir.

Gwylio: Rise strong_cae fardre

Trivallis Housing Landlord Wales Several adults and children are gathered around a table covered with papers and cups in a brightly lit room. The adults appear to be guiding or assisting the children, who are seated and wearing blue uniforms.

Ysgol Gynradd Caradog yn Aberdâr

Mae cyllid Rise Strong wedi helpu Ysgol Gynradd Caradog yn Aberdâr i gysylltu’n well â theuluoedd drwy greu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru. Er nad oedd unrhyw grwpiau cymunedol na staff ymgysylltu â theuluoedd, fe wnaeth y cyllid gefnogi teithiau, digwyddiadau, a chyfleoedd newydd fel gwersi ukulele. Mae mwy o deuluoedd yn cymryd rhan erbyn hyn, gan gynnwys y rhai nad oedden nhw erioed wedi gadael Aberdâr o’r blaen, ac mae rhieni’n helpu yn yr ysgol. Mae hyn wedi cryfhau’r berthynas rhwng teuluoedd a’r ysgol ac wedi helpu pawb i ddeall y cwricwlwm newydd yn well.

Gwylio: Rise strong caradog

Trivallis Housing Landlord Wales Children sit around a table covered with papers, markers, certificates, water bottles, and cut-out shapes, engaging in a group activity in a brightly lit indoor setting.

Carnifal Penrhys

Diolch i gyllid Rise Strong, roedd modd atgyfodi Carnifal Penrhys dan arweiniad y gymuned, gan ddechrau gyda digwyddiad llai – Sioe Ffasiwn – i feithrin hyder a sgiliau. Fe wnaeth pobl leol, gyda chefnogaeth artistiaid a gweithwyr cymunedol, fynd ati i wnïo a dylunio fel rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer y digwyddiad, a oedd yn cynnwys 20 a mwy o deuluoedd. Fe wnaeth y prosiect helpu i ail-feithrin ymddiriedaeth, datblygu doniau, a symud grym i ddwylo trigolion lleol. Llwyddodd i greu gofod cadarnhaol, cynhwysol, gan roi hwb i hyder a gosod y llwyfan ar gyfer digwyddiadau dan arweiniad y gymuned yn y dyfodol, megis carnifal yr haf.

Gwylio:Rise strong penrhys – YouTube

Trivallis Housing Landlord Wales A group of children and adults sit around a table covered with papers and sticky notes, appearing to work on an activity or discussion in a room with red chairs and a red wall.

Mae Rise Strong yn tynnu sylw at y grym a geir o fynd ati o ddifri i wrando ar gymunedau a’u grymuso. Trwy ymddiried yn y bobl leol i arwain, siapio a chyflawni’r gweithgareddau sydd bwysicaf iddyn nhw, mae Rise Strong wedi dangos bod buddsoddiad sydd wir wrth galon angen lleol yn cael effaith ddyfnach a gwerth hirdymor.

Pan fydd cymunedau’n cael yr offer, y gofod a’r gefnogaeth i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain, mae’r canlyniadau’n fwy perthnasol, cynhwysol a chynaliadwy.