Fy Trivallis i

Cymunedau diogel a chroesawgar

16 April 2025

Cadw ein cymunedau'n ddiogel – gofalu am ein gilydd

Rydyn ni i gyd eisiau teimlo’n ddiogel yn ein cymuned, a’r ffordd orau o wneud hynny yw trwy gadw llygad ar ein gilydd. P’un a ydych chi allan yn cwrdd â phobl neu’n sgwrsio ar-lein, gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr wrth gadw ein cymunedau yn ddiogel a chroesawgar i bawb.

Ffyrdd syml o gadw’n ddiogel

  • Byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchedd – Cofiwch ymddiried yn eich greddf a chadw at ardaloedd wedi’u goleuo’n dda lle bo modd.
  • Rhowch wybod am unrhyw beth nad yw’n teimlo’n iawn – Os oes yna rywbeth yn ymddangos yn od, rhowch wybod i Heddlu De Cymru drwy ffonio 101 neu ar-lein. Os oes argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Os ydych chi’n ffonio 999 ond na allwch siarad yn uchel, pwyswch 55 i drosglwyddo’ch galwad i’r heddlu a fydd fel arfer yn gallu olrhain eich lleoliad.
  • Cefnogwch eich gilydd – Os yw rhywun yn rhannu pryder gyda chi, gwrandewch arnyn nhw ac anogwch nhw i riportio’r mater os oes angen.
  • Meddyliwch cyn rhannu ar-lein – Dyw popeth rydyn ni’n ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol ddim yn wir. Os nad ydych chi’n siŵr, gwiriwch ffynonellau dibynadwy cyn rhannu pethau.

Defnyddio technoleg i gadw’n ddiogel

  • Defnyddiwch What Three Words i rannu’ch lleoliadau yn hawdd pan fo angen.
  • Mae’r ap Hollieguard yn troi’ch ffôn yn ddyfais diogelwch personol ac mae gan yr ap nifer o nodweddion am ddim neu am bris gan gynnwys y gallu i ysgwyd eich ffôn i rybuddio’r heddlu.

Angen ychydig o gefnogaeth?

Os ydych chi’n teimlo’n anesmwyth neu eisiau rhywfaint o gyngor, mae yna bobl a all helpu:

  • Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cynnig cymorth cyfrinachol os oes angen rhywun arnoch i siarad â nhw. Ffoniwch 0808 168 9111 neu ewch i wefan Cymorth i Ddioddefwyr.
  • Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gymorth yr heddlu yn lleol ac ystadegau troseddu yr ardal ar wefan Heddlu De Cymru
  • Mae Swyddogion Tai Cymunedol yma i sgwrsio am unrhyw bryderon diogelwch. Anfonwch e-bost atyn nhw customerservices@trivallis.co.uk neu ffoniwch 03000 030 888.

 

Bod yn deg, bod yn ddefnyddiol

Mae rhannu pryderon yn bwysig, ond mae’r un mor bwysig cadw pethau’n gywir ac yn deg. Mae riportio’r manylion cywir yn y ffordd gywir yn helpu’r heddlu i weithredu ac yn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael eu trin â pharch.

Cryfach gyda’n Gilydd

Mae RhCT yn lle gwych i fyw oherwydd ein bod yn cefnogi ein gilydd. Trwy gadw’n wybodus, trwy gadw llygad ar ein cymdogion, a gwneud dewisiadau da ynghylch sut rydyn ni’n rhannu ac yn adrodd gwybodaeth, gallwn ni i gyd helpu i gadw ein cymuned yn ddiogel ac yn groesawgar.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu oes ydych chi angen rhywfaint o gyngor, cofiwch estyn allan. Rydyn ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd.