Fy Trivallis i

Cymryd rheolaeth o’ch Credyd Cynhwysol – rhowch wybod os yw’ch rhent wedi codi

2 April 2025

Ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol? Cadwch drefn ar eich cyllid drwy ddiweddaru’ch gwybodaeth rhent gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar neu ar ôl 03 Ebrill 2025.

Ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol? Cadwch drefn ar eich cyllid drwy ddiweddaru’ch gwybodaeth rhent gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ar neu ar ôl 03 Ebrill 2025.

Drwy wneud hyn yn brydlon a rhoi gwybod am unrhyw gynnydd yn eich rhent, byddwch chi’n sicrhau eich bod yn cael y budd-daliadau llawn y mae gennych chi’r hawl iddyn nhw.

Byddwch yn barod i ddiweddaru’ch cais

  • Ym mis Chwefror, cawsoch eich llythyr yn nodi cynnydd mewn rhent a bydd ei angen arnoch i roi gwybod am y cynnydd hwn.
  • Os nad oes gennych chi’r llythyr hwn bellach, gallwch fewngofnodi i My Trivallis i wirio eich manylion rhent newydd.

Cadwch lygad am hysbysiad ‘Gweithredu’

Er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon hysbysiad ‘Gweithredu’ atoch yn ystod wythnos gyntaf Ebrill 2025.

Bydd angen i chi ei gwblhau cyn diwedd cyfnod asesu eich Credyd Cynhwysol i sicrhau eich budd-daliadau llawn.

Camau syml i ddiweddaru’ch cais Credyd Cynhwysol:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol: Mewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol – GOV.UK (www.gov.uk)
  2. Cliciwch ar ‘Gweithredu’, gyda’r teitl ‘Cadarnhau eich costau tai’
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau gan ddefnyddio’ch rhent newydd (yn weithredol o 03 Ebrill 2025)

Gweler ein proses cam wrth gam ar sut i wneud y newidiadau:

  1. Cadarnhewch fod eich costau tai yn newid o 03 Ebrill 2025 (nid 1 Ebrill 2025 neu 07 Ebrill 2025).

Trivallis Housing Landlord Wales A webpage form asking to confirm housing costs, with the question "Did your housing costs change on 1 April 2025?" There are options for "Yes" and "No," with "No" selected. Below is a green "Continue" button and a "Back" link.  Trivallis Housing Landlord Wales A digital form asking if housing costs changed on April 7, 2025. The options are "Yes" and "No," with "No" selected. A green "Continue" button is below, with a "Back" link in the bottom left corner.

2. Cadarnhewch eich rhent wythnosol

Trivallis Housing Landlord Wales Online form titled "Changes to your rent" asking users to confirm their housing costs. It states the current rent as £150.00 per week and inquires if rent is still charged weekly, providing yes or no options. A field is available for entering the new weekly rent amount. There's a "Continue" button and a "Back" link.

(Enghreifftiau yn unig yw’r symiau hyn)

3. Cadarnhewch newidiadau i daliadau am wasanaeth

Trivallis Housing Landlord Wales A form titled "Changes to your service charges" asks if you are still charged weekly for your service charges, with options "Yes" and "No." A field to input the new eligible service charges per week is shown, alongside a "Continue" button.

Os ydych chi’n rheoli’ch cyfrif Credyd Cynhwysol dros y ffôn, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 328 5644 i ddiweddaru’ch rhent.

Yn anffodus, ni allwn roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar eich rhan.

Beth os ydych chi’n derbyn Budd-dal Tai?

I’r rheiny ohonoch nad ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol ond sy’n derbyn Budd-dal Tai, bydd y cyngor yn diweddaru’ch hawliad Budd-dal Tai yn awtomatig gyda’ch taliadau rhent newydd.

Beth os ydych chi’n talu rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol?

Os ydych chi’n talu’ch rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd eich taliadau eisoes wedi’u diwygio, a dylech fod wedi derbyn cadarnhad o hyn gan AllPay.

Cymorth ychwanegol pan fydd ei angen arnoch

Os oes angen help arnoch, mae ein Tîm Cynghori Ariannol yma i chi.
📞 Ffôn: 01443 494560
📧 E-bost: MAT@Trivallis.co.uk

Cadw rheolaeth. Gweithredu. Sicrhau’ch budd-daliadau.