Fy Trivallis i

Cyhoeddi enwau strydoedd newydd ar gyfer datblygiadau tai yn Nhrecynon ac Aberaman

14 January 2026

Mae dau ddatblygiad tai newydd yn Nhrecynon ac Aberaman bellach wedi'u henwi'n swyddogol, gyda'r ddau enw yn adlewyrchu hanes a hunaniaeth eu hardaloedd lleol.

Heol Sain Fagan, Trecynon

Bydd y cartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu ar Stryd Windsor yn Nhrecynon yn cael eu hadnabod fel Heol Sain Fagan, enw a ysbrydolwyd gan yr eglwys gyfagos a’i chyfraniad amlwg yn y gymuned.

Bydd y datblygiad yn cynnwys pedwar cartref teuluol newydd, pob un â phedair ystafell wely. Mae’r cartrefi mwy hyn wedi’u dylunio i gefnogi teuluoedd sydd angen mwy o le, gan helpu i ddiwallu anghenion tai lleol.

Mae’r cartrefi wedi’u dylunio i fod yn gynnes, yn effeithlon o ran ynni ac yn fforddiadwy i’w rhedeg, gan helpu preswylwyr i reoli costau’r cartref a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo’n dda, ac mae disgwyl i’r cartrefi fod yn barod ar gyfer preswylwyr ym mis Mawrth 2026. Ar ôl ei gwblhau, bydd Heol Sain Fagan yn cynnig cartrefi o ansawdd uchel sy’n gweddu i’r ardal.

 

Llys Fferm, Aberaman

Bydd y datblygiad tai newydd ar Heol y Fferm yn Aberaman yn cael ei adnabod fel Llys Fferm.

Bydd y datblygiad hwn yn darparu 22 o gartrefi newydd, wedi’u dylunio ar gyfer pobl a theuluoedd lleol. Mae’r penderfyniad i adeiladu cartrefi o wahanol faint yn adlewyrchu anghenion gwahanol aelwydydd, gan sicrhau bod y cartrefi’n ymarferol, yn gyfforddus ac yn addas i fyw yno am amser maith.

Mae pob cartref wedi’i ddylunio gydag effeithlonrwydd ynni mewn golwg, gan helpu i’w cadw’n gynnes ac yn fforddiadwy i’w rhedeg.

Mae’r gwaith ar y safle yn mynd rhagddo’n dda, ac mae disgwyl i’r cartrefi fod yn barod ym mis Medi 2026.

Gallwch weld y cynnydd diweddaraf yn y ffilmiau drôn isod, sy’n dangos sut mae’r datblygiad yn dod yn ei flaen.

Sut y bydd y cartrefi’n cael eu dyrannu

Bydd y cartrefi newydd ar Heol Sain Fagan a Llys Fferm yn cael eu dyrannu yn unol â’r meini prawf cymhwysedd lleol ar gyfer tai cymdeithasol.

Bydd cartrefi’n cael eu cynnig i bobl a theuluoedd y mae eu hanghenion yn cyd-fynd â’r math o gartref sydd ar gael a’i faint, gan helpu i sicrhau bod pob eiddo yn addas i’r diben.

Mae’r dull hwn yn helpu i sicrhau bod cartrefi’n cael eu paru’n ofalus ag aelwydydd, gan gefnogi tenantiaethau sefydlog a chymunedau cryf.

 

Adeiladu cartrefi ar gyfer y dyfodol

Mae’r ddau ddatblygiad yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus i adeiladu cartrefi o ansawdd da sy’n para, yn fforddiadwy i fyw ynddyn nhw ac yn diwallu anghenion cymunedau lleol.

Trwy ganolbwyntio ar ddyluniad meddylgar, effeithlonrwydd ynni a gwerth hirdymor, bydd y cartrefi newydd hyn yn cefnogi preswylwyr nawr ac yn y dyfodol.