Fy Trivallis i

Cyfle i ennill £200 drwy gymryd rhan mewn sesiwn tynnu lluniau proffesiynol ar gyfer Trivallis

8 January 2025

Rydyn ni’n chwilio am chwe thenant sy’n fodlon i ni dynnu eu lluniau yn eu cartrefi a'u gerddi, er mwyn dangos bywyd mewn cymuned Trivallis.

Rydyn ni’n chwilio am chwe thenant sy’n fodlon i ni dynnu eu lluniau yn eu cartrefi a’u gerddi, er mwyn dangos bywyd mewn cymuned Trivallis. Bydd y lluniau yn ymddangos ar ein gwefan, ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn cyhoeddiadau.

Gellir tynnu’r lluniau ohonoch yn eich cartref, ar eich pen eich hun neu gyda’ch teulu neu ffrindiau. Does dim angen i chi fod yn fodel, a does dim rhaid i’ch cartref a’ch gardd fod fel pin mewn papur! A dweud y gwir, rydyn ni eisiau dangos pobl go iawn mewn cartrefi go iawn.

Cymerwch gip ar y wefan hon a byddwch yn gweld rhai o’r tenantiaid a’r staff y tynnwyd eu lluniau y llynedd. Eleni, rydyn ni’n awyddus iawn i dynnu lluniau tenantiaid o dan 35 oed a rhai o gefndiroedd amrywiol, wrth i ni ddathlu’r straeon a’r safbwyntiau unigryw sy’n gwneud ein cymuned mor fywiog.

Bydd ffotograffydd proffesiynol yn tynnu’r lluniau, a dylai gymryd tua awr o’ch amser. Byddwn yn trefnu apwyntiad sy’n gyfleus i chi, rhwng 9.00am a 5.00pm, Llun-Gwener. Gallwn adael i chi gael rhai o’r lluniau i’w rhannu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

Fel arwydd o ddiolch, byddwn yn rhoi £200 yr un i’r chwe thenant ar ffurf talebau Love2Shop y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth enfawr o siopau a manwerthwyr ar-lein.

Ddiddordeb? Rhowch wybod i ni drwy e-bostio comms@trivallis.co.uk gan nodi’ch  enw, oedran a ble rydych chi’n byw.

 

Y print mân

Trwy gytuno i gael eich lluniau wedi’u tynnu, rydych chi’n cydsynio i Trivallis ddefnyddio’ch llun yn y ffyrdd canlynol:

  1. Ar gyhoeddiadau Trivallis, megis taflenni ac adroddiadau.
  2. Ar wefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Trivallis (Facebook, Instagram, TikTok, LinkedIn ac YouTube).
  3. Ochr yn ochr ag erthyglau am Trivallis mewn papurau newydd a chylchgronau.

Byddwn yn defnyddio’r delweddau mewn modd parchus a phriodol. Efallai y byddwn yn defnyddio’ch enw cyntaf gyda nhw ond fyddwn ni byth yn datgelu’ch enw llawn na’ch cyfeiriad.

Noder bod eich caniatâd yn gwbl wirfoddol a gellir ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg, er efallai na fyddwn yn gallu atal y lluniau rhag cael eu defnyddio ar ddeunyddiau sydd eisoes wedi’u hargraffu neu sydd wedi ymddangos ar-lein.

Bydd y daleb Love2Shop gwerth £200 yn cael ei thalu ar ôl tynnu’r ffotograffau, a dim ond un daleb fydd yn cael ei thalu fesul sesiwn (waeth faint o bobl sy’n ymddangos yn y lluniau).

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cyfathrebu Trivallis yn comms@trivallis.co.uk neu ffoniwch 03000 030 888.