Fy Trivallis i

Cwrdd â Kacey, Prentis Gweinyddu Busnes Trivallis

11 February 2025

I ddathlu Wythnos Prentisiaethau, cawsom sgwrs gyda Kacey Davies, tenant Trivallis a ymunodd â Trivallis fis Awst fel prentis Gweinyddu Busnes yn y Tîm Cynnwys y Gymuned.

I ddathlu Wythnos Prentisiaethau, cawsom sgwrs gyda Kacey Davies, tenant Trivallis a ymunodd â Trivallis fis Awst fel prentis Gweinyddu Busnes yn y Tîm Cynnwys y Gymuned.

Ychydig dros chwe mis yn ddiweddarach, mae Kacey yn sôn rhywfaint am ei rôl, yr hyn mae hi wedi’i fwynhau hyd yma a’r hyn y mae hi’n edrych ymlaen ato.

Mae Kacey yn egluro: “Yn fy rôl, rwy’n gweithio gyda’r tîm i ymwneud â’n tenantiaid drwy weithgareddau cynnwys tenantiaid. Gallai hyn fod drwy weithgorau gyda’r tenantiaid neu mewn digwyddiadau cymunedol. Ry’n ni’n helpu tenantiaid i wneud penderfyniadau drwy sicrhau bod Trivallis yn clywed eu barn a’u safbwyntiau nhw.

A hithau dim ond wedi bod yn Trivallis ychydig o amser, mae gan Kacey ei huchafbwyntiau yn barod.

Dywedodd Kacey: “Fy hoff bethau hyd yma yw meithrin perthynas gyda’r tenantiaid sy’n rhan o’r gweithgareddau, helpu i drefnu TFEST, mynychu Cynhadledd TPAS yn Llandrindod, a chymryd rhan mewn hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol. Hefyd, gweithio’n agos gyda Cormac Russel i ddysgu a deall am ddatblygiad cymunedol seiliedig ar asedau.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiect sesiynau cysylltu tenantiaid (‘Tenant Connects Session’) yn tyfu. Dyma brosiect newydd cyffrous rwy’n gweithio arno, sy’n ceisio denu mwy o staff a thenantiaid i ddod at ei gilydd i wneud newidiadau yn Trivallis.”

Wrth siarad am ei rôl, mae dysgu wrth weithio yn help mawr i Kacey. Dyma argraffiadau Kacey o’r cyfan: “Fel rhan o fy mhrentisiaeth, rwyf hefyd yn astudio ar gyfer cymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes gydag Educa8 ac yn joio mas draw. Mae’n rhaglen seiliedig ar waith, sy’n hwylus gan fy mod i’n gwneud y rhaglen wrth weithio. Felly, mae’r astudiaeth a’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn haws o lawer.”

Mae Kacey yn edrych ymlaen at weld lle’r aiff y dyfodol â hi, gan obeithio am yrfa mewn gwaith cymunedol: “Rwy’ mor ddiolchgar o gael tîm a rheolwyr mor hyfryd i’m cefnogi gydol fy mhrentisiaeth. Rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol, a chael cyfle i barhau i ddysgu sgiliau newydd a chamu ymlaen yn fy ngyrfa.

“Hoffwn ddilyn gyrfa mewn gwaith cymunedol a thai – diolch i’r opsiynau hyfforddi sydd ar gael i mi a’r cyfleoedd a gefais hyd yma!”

Os hoffech chi gyfrannu fel tenant, a gweithio gyda Kacey i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, cysylltwch â: involvement@trivallis.co.uk