Fy Trivallis i

Cwpanau o lawenydd: Helfa

13 January 2025

I nodi Brew Monday, rydyn ni wedi lansio helfa ar draws ein cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a Bae Caerdydd.

I nodi Brew Monday, rydyn ni wedi lansio helfa ar draws ein cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a Bae Caerdydd.

Mae 108 o gwpanau o lawenydd i’w cael, i gyd wedi’u lliwio’n llachar gyda neges i godi hwyl wedi’i hysgrifennu arnyn nhw – ac efallai eu bod yn cuddio o amgylch eich cymuned.

Os byddwch chi’n dod o hyd i un o’n cwpanau o lawenydd, tynnwch lun ohonoch chi’ch hun gyda’ch cwpan a’r lleoliad lle daethoch o hyd iddo. Gallwch ei rannu gyda ni ar Facebook neu Instagram, neu e-bostio comms@trivallis.co.uk a byddwn yn ei rannu.

Dyma’r 50 o wahanol weithgareddau ychydig o lawenydd y gallech ddod o hyd iddyn nhw wedi’u hysgrifennu ar gwpan sydd wedi’i guddio’n rhywle yn eich ardal chi:

1–10: Ymwybyddiaeth ofalgar ac anadlu

  1. Cymerwch dair anadl ddofn, gan anadlu i mewn am bedwar cyfrif ac anadlu allan am chwech.
  2. Caewch eich llygaid a meddyliwch am eich lle hapus am 30 eiliad.
  3. Ewch i fyny ac i lawr eich corff i ymlacio cyhyrau tynn.
  4. Diolchgarwch: meddyliwch am dri pheth rydych chi’n ddiolchgar amdanyn nhw.
  5. Gwenwch, hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo fel gwneud (gall dwyllo’ch ymennydd i deimlo’n hapusach).
  6. Rhowch gynnig ar funud o fyfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar.
  7. Ailadroddwch ddywediad cadarnhaol fel “Rwy’n ddigon” neu “Daw eto haul ar fryn”.
  8. Gwrandewch yn ofalus ar y seiniau o’ch cwmpas.
  9. Canolbwyntiwch ar deimlad eich traed ar y ddaear i deimlo’n bresennol ac yn gysylltiedig â’r byd o’ch cwmpas.
  10. Cyfrwch bum peth y gallwch eu gweld, pedwar y gallwch eu cyffwrdd, tri y gallwch eu clywed, dau y gallwch eu harogli, ac un y gallwch ei flasu.

11–20: Munud i’r Meddwl

  1. Meddyliwch am nod neu freuddwyd gyffrous.
  2. Cynlluniwch wyliau cogio yn eich meddwl.
  3. Cofiwch atgof doniol neu jôc arbennig i chi.
  4. Rhestrwch bum peth rydych chi’n eu caru amdanoch chi’ch hun.
  5. Meddyliwch am eich hoff olygfa ffilm a’i hailchwarae yn eich pen.
  6. Dychmygwch y ganmoliaeth orau y gallech ei derbyn a mwynhau’r teimlad.
  7. Dychmygwch eich hun yn llwyddo mewn her rydych chi’n ei hwynebu.
  8. Ysgrifennwch nodyn diolch yn feddyliol i rywun sydd wedi’ch helpu.
  9. Ailchwaraewch eich hoff gân yn eich pen a dychmygwch ddawnsio iddi.
  10. Dychmygwch yr hyn y gallai’ch anifail anwes (neu hoff anifail) ei ddweud i godi’ch calon.

21–30: Hunan-gysylltiad

  1. Rhowch bawen lawen feddyliol i chi’ch hun am rywbeth rydych chi wedi’i gyflawni.
  2. Meddyliwch am un peth rydych chi wedi’i ddysgu yn ddiweddar.
  3. Cofiwch adeg pan wnaethoch chi oresgyn sefyllfa anodd.
  4. Cynlluniwch amserlen feddyliol ar gyfer eich diwrnod perffaith.
  5. Meddyliwch am briodwedd rydych chi’n ei hedmygu amdanoch chi’ch hun.
  6. Atgoffwch eich hun am ganmoliaeth a roddodd rhywun i chi yn ddiweddar.
  7. Cofiwch amser i chi wneud i rywun chwerthin neu wenu.
  8. Dewiswch air sy’n disgrifio sut rydych chi eisiau teimlo heddiw.
  9. Rhestrwch eich cryfderau a’ch doniau yn feddyliol.
  10. Meddyliwch am ba mor bell rydych chi wedi dod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

31–40: Camau Cyflym

  1. Ymestynnwch eich breichiau a chymryd anadl ddofn.
  2. Rholiwch eich ysgwyddau ychydig o weithiau i ryddhau tensiwn.
  3. Symudwch eich bysedd a’ch bysedd traed am ychydig eiliadau.
  4. Beth am ddylyfnu gên (agor ceg), hyd yn oed os nad ydych chi wedi blino, i ymlacio?
  5. Gwiriwch eich ystum yn gyflym: eisteddwch yn syth a sythu’ch asgwrn cefn.
  6. Cliciwch eich bysedd neu’ch clapiwch i ailosod eich ffocws.
  7. Caewch eich llygaid a chodi’ch wyneb tuag at haul dychmygol.
  8. Nodiwch eich pen fel pe baech chi’n cytuno â chi’ch hun.
  9. Caewch ac agorwch eich llygaid yn araf ychydig o weithiau i orffwys eich llygaid.
  10. Rhowch gwtsh i chi’ch hun a gwasgu’n ysgafn am gysur.

41–50: Cysylltiad a Phositifrwydd

  1. Yn feddyliol, anfonwch deimladau da at rywun sy’n bwysig i chi.
  2. Meddyliwch am rywun rydych chi’n ei edmygu a pham.
  3. Myfyriwch ar foment pan ddangosodd rhywun garedigrwydd tuag atoch chi.
  4. Dychmygwch anwylyn yn eich cefnogi.
  5. Dychmygwch rywun sy’n bwysig i chi yn gwenu arnoch chi.
  6. Cyfansoddwch ddiolch yn feddyliol i rywun sy’n eich ysbrydoli.
  7. Cofiwch adeg pan wnaethoch chi i rywun deimlo’n falch.
  8. Dychmygwch ddal dwylo gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo.
  9. Meddyliwch am ganmoliaeth ystyrlon yr hoffech ei rhoi i rywun.
  10. Dychmygwch effaith bellgyrhaeddol eich caredigrwydd yn y byd.

Mae’r gweithgareddau hyn yn syml a gellir eu gwneud yn unrhyw le, unrhyw bryd, i roi hwb cyflym i’ch hwyliau.

Yma gallwch lawrlwytho’ch cwpanau eich hun o lawenydd, i greu eich helfa eich hun:

Trivallis Housing Landlord Wales An image of six colorful mugs, each containing Welsh text with self-care messages. The mugs are pink, purple, yellow, green, red, and orange, arranged vertically on a plain background.