Fy Trivallis i

Creu eich bwydwr adar eich hun

29 May 2025

Gydag ambell beth o'r cartref, gallwch greu bwydwr adar gwych - gan ddangos eich creadigrwydd, sgiliau uwchgylchu, a gwerthfawrogiad o'ch cymdogion pluog.

Mae Wythnos Bywyd Gwyllt yr Ardd wedi cyrraedd. Dim gardd? Dim problem.

P’un a oes gennych chi falconi, sil ffenest, neu ddim ond darn bach o’ch awyr agored eich hun, gallwch barhau i’w droi’n hafan i adar.

Gydag ambell beth o’r cartref, gallwch greu bwydwr adar gwych – gan ddangos eich creadigrwydd, sgiliau uwchgylchu, a gwerthfawrogiad o’ch cymdogion pluog.

Mae’n hawdd, yn hwyl, ac yn ffordd wych i bawb gymryd rhan, sdim ots beth yw maint y  gofod.

Byddwch angen:

  • Tun gwag
  • Hadau adar
  • Ffon lolipop
  • Llinyn
  • Siswrn
  • Glud

Sut i fynd ati:

  • Cam 1: Tynnwch unrhyw labeli a glud o’r tun, ei olchi a’i adael i sychu. Gofal piau hi gydag unrhyw ymylon miniog ar y tun.
  • Cam 2: Rhowch y ffon lolipop ar y tu allan i’r tun, gan adael hanner ohono yn hongian drosodd i greu clwydfan, a’i lynu gyda glud. Gadewch iddo sychu.
  • Cam 3: Rhowch y tun ar ei ochr a chlymwch ddarn o linyn o amgylch ei ganol. Gwnewch yn siŵr bod y llinyn yn ddigon hir i’w glymu, y tu allan.
  • Cam 4: Dewch o hyd i le i hongian eich bwydwr adar, clymwch ef yn sownd a gwnewch yn siŵr ei fod yn ddiogel.
  • Cam 5: Llenwch y bwydwr adar gyda hadau adar a gwyliwch yr adar yn heidio.

Os ydych chi eisiau bod yn fwy creadigol, gallwch addurno y tu allan i’ch bwydwr adar gyda phaent, pennau lliw neu ddeunyddiau crefft eraill. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gallu gwrthsefyll yr elfennau a’u bod yn ddiogel i anifeiliaid.

Dyma fideo tiwtorial i’ch helpu i greu eich bwydwr adar eich hun:

@wearetrivallis

No garden? No problem! It’s #GardenWildlifeWeek and we’re here to show that even the smallest space can become a bird paradise. Use everyday items from home to make your own DIY bird feeder – it’s easy, eco friendly, and a fun way to celebrate nature wherever you are. Follow along with the video to make your own. Find out what you need by visiting our website. Link in bio. Got a craft idea? Email us: comms@trivallis.co.uk – Dim gardd? Dim problem! Mae’n #WythnosBYwydGwylltYrArdd ac rydyn ni yma i ddangos y gall hyd yn oed y gofod lleiaf fod yn baradwys i adar. Defnyddiwch eitemau bob dydd o’r cartref i wneud eich bwydwr adar eich hun- mae’n hawdd, yn ecogyfeillgar, ac yn ffordd hwyliog o ddathlu natur ble bynnag ydych chi. Dilynwch y fideo i wneud eich bwydwr eich hun. Gallwch weld beth sydd ei angen drwy ymweld â’n gwefan. Dolan yn y bio. Oes gennych chi syniad crefft? E-bostiwch ni: comms@Trivallis.co.uk #upcycle #diybirdfeeder #gardenwildlifeweek #natureinsmallspaces #diycrafts

♬ Birds of a Feather (Vibey) – Sunset Party

 

Os oes gennych chi syniad crefft i’w rannu, rhowch wybod i ni trwy anfon e-bost atom yn comms@trivallis.co.uk