Fy Trivallis i

Byw’n Dda, Byw Gyda’n Gilydd – dod â chymunedau at ei gilydd ledled Rhondda Cynon Taf

27 March 2026

Ym mis Ionawr, fe wnaeth Trivallis groesawu tenantiaid tai gwarchod o bob cwr o Rondda Cynon Taf i gymryd rhan yn ein hymgyrch Byw’n Dda, Byw gyda’n Gilydd. Nod y sesiynau hyn oedd cynnig lle diogel i denantiaid siarad am fyw mewn tai a rennir, archwilio'r heriau sy'n eu hwynebu a rhannu syniadau ar gyfer creu cymunedau sy’n dangos mwy o barch, ac sy’n gefnogol.

Ym mis Ionawr, fe wnaeth Trivallis groesawu tenantiaid tai gwarchod o bob cwr o Rondda Cynon Taf i gymryd rhan yn ein hymgyrch Byw’n Dda, Byw gyda’n Gilydd. Nod y sesiynau hyn oedd cynnig lle diogel i denantiaid siarad am fyw mewn tai a rennir, archwilio’r heriau sy’n eu hwynebu a rhannu syniadau ar gyfer creu cymunedau sy’n dangos mwy o barch, ac sy’n gefnogol. Trwy annog trafodaeth agored a gwrando ar brofiadau tenantiaid, nod y sesiynau oedd atal gwrthdaro, gwella perthynas rhwng cymdogion, a helpu pawb i deimlo’n fwy hyderus a chysylltiedig yn eu cartrefi.

Cynhaliwyd y sesiynau yn ystod ail wythnos mis Ionawr, mewn cynlluniau tai gwarchod ar draws RhCT. Roedd sesiynau ar wahân i ddynion a menywod er mwyn creu mannau cyfforddus i gael trafodaeth agored ac annog cyfraniad gwerth chweil.

Cyflwynwyd y digwyddiadau mewn partneriaeth â Safer Merthyr Tydfil a New Pathways, dau sefydliad sydd â phrofiad helaeth o gefnogi pobl a chymunedau. Cafodd tenantiaid eu hannog i fynegi barn a’u myfyrdodau, gan dynnu ar eu profiad bywyd eu hunain i helpu i ddylanwadu ar gymorth cymunedol yn y dyfodol.

Roedd cryn bwyslais ar wrando, dysgu ac archwilio sut y gall parch, caredigrwydd ac empathi helpu i greu cymunedau croesawgar a chefnogol.

Dyma ddisgrifiad Karl Hazzard, o Safer Merthyr Tydfil, o’r sesiynau: “Mater o gael sgyrsiau yw e. Fe gadwon ni bethau’n ddigon hamddenol ond ymarferol fel y byddai pawb yn teimlo’n gyfforddus yn cymryd rhan. Roedd pobl yn rhannu syniadau, yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn gadael yn teimlo’n fwy hyderus am sut i ofalu amdanyn nhw eu hunain a’u cymdogion.”

Dyma ddisgrifiad Mike Wilkinson, Prif Weithredwr New Pathways, o’r sesiynau: “Mae creu amgylcheddau lle mae pobl yn teimlo bod eraill yn gwrando arnyn nhw, yn eu parchu, ac yn teimlo’n ddiogel, yn ganolog i’n gwaith. Mae’r gweithdai hyfforddi, sy’n canolbwyntio ar sut y gall aflonyddu rhywiol a thrais rhywiol edrych o safbwynt pobl hŷn, ac effeithiau hyn, yn darparu lle cefnogol i denantiaid siarad yn agored am eu profiadau. Mae’r sesiynau nid yn unig yn cynnig gwybodaeth hanfodol ond hefyd yn helpu pobl i adnabod eu gwytnwch eu hunain a’r nerth a geir mewn cefnogaeth gymunedol.  Roedd yn hynod deimladwy gweld pawb yn cael sgyrsiau mor onest a gweld y newid cadarnhaol sy’n gallu digwydd pan fydd unigolion yn teimlo eu bod wedi’u grymuso ac yn gysylltiedig. Rydyn ni’n falch o weithio ochr yn ochr â Trivallis a Safer Merthyr Tydfil ar fenter sydd eisoes yn helpu tenantiaid i deimlo’n fwy hyderus yn eu cartrefi ac yn eu perthynas â’r rhai o’u cwmpas.”

Menter Byw’n Dda, Byw gyda’n Gilydd yw’r un gyntaf o’i bath yng Nghymru. Bydd yr adborth a gasglwyd yn helpu i lywio gwasanaethau yn y dyfodol ac yn dangos cryfder cymunedau gwarchod Trivallis a’u parodrwydd i gefnogi ei gilydd.

Trivallis Housing Landlord Wales A group of older adults sit in a circle of chairs in a well-lit common room, engaged in discussion. The room has beige walls, a TV on the wall, tables, and windows with curtains.

Yn dilyn llwyddiant y bartneriaeth gyda New Pathways, mae’r sefydliad wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i barhau i gyflwyno’r sesiynau, sy’n golygu y bydd hyd yn oed mwy o bobl hŷn yn gallu elwa arnyn nhw. Mae’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect bellach yn cael ei rannu drwy EROSH (Emerging Role of Sheltered Housing) fel y gall landlordiaid cymdeithasol eraill a’u cymunedau fabwysiadu dulliau tebyg.

Mae’r hyn a ddechreuodd fel sgwrs syml am sut i fynd i’r afael yn well ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cynlluniau gwarchod wedi tyfu i fod yn fenter sydd bellach yn dylanwadu ar arferion ehangach. Mae’n enghraifft gref o sut y mae gwrando ar denantiaid a gweithio mewn partneriaeth yn gallu arwain at newid ystyrlon, parhaol.

Ategwyd pwysigrwydd y sesiynau gan Christine, Rheolwr Tai Gwarchod a Chymorth: “Mae byw mewn lleoliad gwarchod yn unigryw gan fod pawb yn cyd-fyw mor agos i’w gilydd. Os yw rhywun wedi bod trwy’r felin yn y gorffennol, gall y teimladau hynny godi i’r wyneb yn eu bywyd bob dydd. Ein nod yw gweithio gyda phawb i atal problemau a chreu amgylchedd cefnogol lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel i fod yn agored a myfyrio, gan eu helpu i symud ymlaen yn gadarnhaol.”

Hoffai Trivallis ddiolch i’r holl denantiaid a gymerodd ran, ynghyd â Safer Merthyr Tydfil a New Pathways am eu partneriaeth barhaus a’u hymrwymiad i bwnc mor bwysig.