Fy Trivallis i

Gwasanaethau gofal iechyd

Dod o hyd i feddyg a chofrestru gyda meddyg 

Os ydych chi’n meddwl tybed sut galla’ i ddod o hyd i feddyg a chofrestru gyda meddyg (meddyg teulu), mae’n symlach nag y byddech chi’n ei feddwl. Gallwch ddarganfod pa feddygfeydd sydd yn eich ardal trwy fynd i wefan GIG Cymru. Hefyd, gallwch ofyn i ffrindiau a chymdogion am argymhellion. Fel arfer, mae gan feddygfeydd lleol daflenni gwybodaeth a gwefannau.

I gofrestru â meddyg teulu, cysylltwch â’r feddygfa o’ch dewis. Byddan nhw’n gofyn i chi am fanylion eich cerdyn meddygol y GIG neu’n gofyn i chi lenwi ffurflen. Mae hyn yn helpu i drosglwyddo eich cofnodion meddygol i’w gofal.

Wedi colli’ch cerdyn meddygol? Peidiwch â phoeni.

Os oes angen cerdyn meddygol newydd arnoch chi, gallwch gysylltu â’r tîm trwy anfon e-bost at nwssp-primarycareservices@wales.nhs.uk. Nid yw cardiau meddygol newydd yn cael eu dosbarthu mwyach. Yn hytrach, cewch lythyr gyda’ch manylion ar gyfer y GIG.

A all meddygfa wrthod fy nghofrestru?

Mae meddygfeydd ond yn gwrthod am resymau penodol, fel byw’r tu allan i’w dalgylch neu mae’r rhestr cleifion wedi cau. Os cewch eich gwrthod, dylech chi gael esboniad. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i feddyg teulu, ffoniwch 01443 848585 neu e-bostiwch shared.services@wales.nhs.uk. Gallant eich cyfeirio chi at feddygfa arall.

Newid eich meddyg teulu yn hawdd 

Mae’n hawdd newid eich meddyg teulu. Nid oes angen i chi roi rheswm. Cysylltwch â’r feddygfa newydd lle’r hoffech chi gofrestru, trosglwyddwch eich cerdyn meddygol os byddant yn cytuno i’ch cofrestru, a bydd eich cofnodion yn cael eu trosglwyddo.

Tynnu o gofrestr meddygfa 

Gallech gael eich tynnu o‘r gofrestr os byddwch chi’n symud i ffwrdd neu’n ymddwyn yn amhriodol yn y feddygfa. Fel arfer, cewch rybudd ac esboniad, oni bai eich bod yn dreisgar; os felly, gallech gael eich tynnu o’r gofrestr ar unwaith.

Beth i’w ddisgwyl gan eich meddygfa 

Mae meddygfeydd yn darparu taflen gyda manylion am eu gwasanaethau, amseroedd agor, ymweliadau â’r cartref, a mwy. Nod y rhan fwyaf o feddygfeydd fydd gweld achosion o fewn deuddydd os nad ydynt yn achosion brys, ond gall amseroedd aros amrywio.

Yn hytrach na chael apwyntiad wyneb yn wyneb, ystyriwch alwadau ffôn neu e-ymgynghoriadau i gael cyngor cyflym heb adael y cartref.

Gwasanaethau gofal iechyd eraill

Eich fferyllfa leol

Mae fferyllwyr lleol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd i’ch helpu chi heb fod angen apwyntiad. Gallant roi cyngor ar afiechydon cyffredin, darparu meddyginiaethau dros y cownter, a chynnig arweiniad ar reoli cyflyrau hirdymor. Hefyd, gall fferyllwyr gefnogi eich lles trwy gynnig cyngor ar roi’r gorau i ysmygu, brechiadau’r ffliw, a dulliau atal cenhedlu brys. Hefyd, gallant eich helpu i ddeall eich meddyginiaethau presgripsiwn a sicrhau eich bod yn eu cymryd nhw’n gywir. Mae’n ffordd gyfleus a hygyrch o gael cymorth iechyd proffesiynol yn eich cymuned.

Y GIG 111

Mae’r GIG 111 yn llinell gymorth ar gyfer materion nad ydynt yn argyfyngau, pan fydd angen cyngor meddygol cyflym arnoch chi. Mae cynghorwyr hyfforddedig yn asesu eich symptomau ac yn rhoi arweiniad i chi ar y camau gorau, fel cysylltu â nyrs, awgrymu hunanofal neu drefnu apwyntiad meddyg. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer cael help pan fydd eich meddygfa arferol wedi cau neu yn ystod oriau’r tu allan i’r swyddfa. Dylech ddisgwyl siarad â rhywun sy’n ateb y ffôn i ddechrau. Bydd meddyg neu nyrs yn rhoi galwad yn ôl i chi (gallai hyn gymryd ychydig oriau, yn dibynnu ar y broblem).

Damweiniau ac achosion brys

Mae adrannau damweiniau ac achosion brys y GIG yn cynnig gofal brys, ar unwaith ar gyfer cyflyrau difrifol neu gyflyrau sy’n bygwth bywyd, fel anafiadau mawr, afiechydon difrifol (e.e. symptomau trawiad ar y galon), trafferth anadlu, adweithiau alergaidd difrifol, mynd yn anymwybodol, poen dwys, neu bryderon am iechyd meddwl. Yn achos problemau llai difrifol, ystyriwch y GIG 111 neu eich meddyg teulu.

999

Dylech ond ffonio 999 i gael help meddygol mewn argyfyngau neu sefyllfaoedd sy’n gofyn am sylw brys. Ffoniwch 999 ar gyfer cyflyrau sy’n bygwth bywyd, poen yn y frest neu amheuaeth o drawiad ar y galon, amheuaeth o strôc, trafferth anadlu, neu fynd yn anymwybodol. Ffoniwch 999 bob amser mewn sefyllfaoedd lle y mae cymorth meddygol ar unwaith yn hanfodol. Mae’r gwasanaethau brys wedi cael eu hyfforddi i drin sefyllfaoedd meddygol brys a gallant roi arweiniad dros y ffôn tra bydd help ar ei ffordd.