Fy Trivallis i
Trivallis Housing Landlord Wales A woman with long hair leaning on a fence, holding a mug, with a Trivallis residential street in the background.

Cofiwch

Mae bod yn gymydog da yn gwneud eich ystâd yn lle gwell i fyw.

Datrys problemau

Hyd yn oed os ydych chi’n cyd-dynnu â’ch cymdogion, mae anghydfodau’n gallu digwydd, weithiau. Yn gyntaf, ceisiwch siarad â nhw – mae llawer o broblemau’n gallu cael eu datrys gyda sgwrs.

Os nad yw siarad yn gweithio, cofnodwch beth sy’n digwydd, gan gynnwys pryd mae’n digwydd. Mae hyn yn helpu os oes angen i chi rannu’r manylion, maes o law.

Os bydd pethau’n mynd yn anodd iawn, efallai bydd angen help arnoch chi. Dyma beth allwch chi ei wneud:

  • Mewn argyfwng neu os yw rhywun mewn perygl (yn enwedig plant): ffoniwch 999 a gofyn am yr heddlu
  • Ar gyfer yr heddlu, ond ddim mewn argyfwng: ffoniwch 111
  • Yn achos synau uchel: Ffoniwch y Swyddfa Rheoli Sŵn yn eich cyngor lleol (yn RhCT, ffoniwch 01443 425001; ym Mae Caerdydd, ffoniwch 029 2087 1650)
  • Yn achos problemau gyda chŵn: Ffoniwch y Swyddfa Rheoli Anifeiliaid yn eich cyngor lleol (yn RhCT, ffoniwch 01443 425001; ym Mae Caerdydd, ffoniwch 029 2087 2087)

Os byddwch chi’n rhoi gwybod i’r awdurdodau am broblem, ffoniwch ni hefyd ar 03000 030 888 fel y gallwn helpu i ddatrys y mater.

Beth all Trivallis ei wneud?

Mae gennym gyfrifoldeb i’n cymuned, felly rydym ni’n gweithredu os bydd rhywun yn ymyrryd â heddwch, cysur, preifatrwydd neu ddiogelwch pobl sy’n byw gerllaw.

Cysylltwch â ni os bydd angen help arnoch gyda phroblemau yn eich cymdogaeth. Byddwn ni’n gweithio gyda chi ac unrhyw un arall sydd ynghlwm i ddatrys y broblem.

 

Dywedwch wrthym am broblem â chymydog