Fy Trivallis i

Cofiwch

Ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich rhent neu eich biliau? Gallwch siarad ag aelod o’n tîm Cyngor Ariannol.

Pam siarad â swyddog cyngor ariannol?

Nid yw siarad â rhywun am faterion ariannol yn hawdd ond, yn aml, gall cael cyngor gan arbenigwr helpu.

  1. Gwneud y mwyaf o’ch incwm: Gall swyddog cyngor ariannol eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wneud y mwyaf o’ch arian, gan sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth a budd-daliadau sydd ar gael i chi.
  2. Cymorth â chyllidebu: Gallant roi arweiniad i chi ar greu cyllidebau realistig, gan ei gwneud hi’n haws rheoli eich treuliau ac arbed arian.
  3. Cyngor ariannol at y dyfodol: Bydd swyddog cyngor ariannol yn gweithio gyda chi i ddatblygu arferion ariannol iach, gan gynnig sylfaen ar gyfer dyfodol mwy sicr, heb straen.
  4. Help ar frys: Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch biliau ac yn methu fforddio’r hanfodion, gallant eich helpu i gael gafael ar gymorth brys a chronfeydd caledi.

Yn wahanol i ddefnyddio gwybodaeth ar wefannau, bydd swyddog cyngor ariannol yn gallu rhoi cyngor unigol i chi, wedi’i deilwra i’ch sefyllfa a‘ch nodau personol. Bydd yn trafod eich heriau ariannol ac yn archwilio atebion ymarferol i wella’ch lles ariannol.

Tîm Cyngor Ariannol Trivallis

Os ydych chi’n denant i Trivallis, gallwch siarad â rhywun o’n tîm Cyngor Ariannol. Byddwn yn siarad â chi am eich sefyllfa er mwyn deall popeth sy’n digwydd a chynnig cymorth teilwredig, sy’n canolbwyntio ar fodloni eich anghenion penodol. Mae ein tîm yn arbenigwyr ar:

  • Gyllidebu
  • Cyngor ar fudd-daliadau lles arbennig
  • Agor cyfrif banc
  • Gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael y budd-daliadau cywir
  • Arbed arian ar ynni a chyfleustodau

Hefyd, gallwn helpu i weithio allan a oes unrhyw fudd-daliadau y gallech eu hawlio i’ch helpu gyda’ch rhent, os ydych chi’n ennill incwm isel.

Mae ein gwasanaeth cyngor ariannol yn gyfrinachol, yn ddiduedd ac mae ar gael am ddim. Cewch gynghorydd pwrpasol a fydd yn gallu helpu, beth bynnag yw eich sefyllfa ariannol.

Siaradwch â’n tîm Cyngor Ariannol

Gwasanaethau cyngor ariannol eraill

Cyngor ar Bopeth

Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor cyfrinachol, annibynnol am ddim i bobl. Gall ei gynghorwyr helpu gyda dyled, cyllidebu a budd-daliadau. Mae’n rhoi cyngor o amrywiaeth o leoliadau cymunedol ar draws RhCT, neu gallwch gael help dros y ffôn.

Dolenni defnyddiol

Cyngor ar Bopeth RhCT

https://carct.org.uk/
01443 409284

Cyngor ar Bopeth Caerdydd

https://cacv.org.uk/
0808 278 7925