Fy Trivallis i

alert icon Ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich rhent neu eich biliau?

Gallwch siarad ag aelod o’n tîm Cyngor Ariannol yn ystod oriau swyddfa ar 01443 494560.

Cymorth ariannol

Breathing Space

Mae Breathing Space, sydd hefyd yn cael ei alw’n Gynllun Seibiant Dyledion, yn gynllun gan y llywodraeth sy’n anelu at helpu i leddfu straen bod mewn dyled. Mae’n cynnig amddiffyniad dros dro rhag y rhan fwyaf o fathau o gasglu dyledion. Yn ystod yr amser hwn, gallwch ganolbwyntio ar gael cyngor a chynllunio i fynd i’r afael â’ch dyledion heb boeni y bydd rhywun yn dod ar eich ôl am daliad neu wynebu costau ychwanegol. Os byddwch chi’n gymwys, ni fydd credydwyr yn gallu ychwanegu llog na ffioedd am 60 niwrnod. I ddysgu rhagor am Breathing Space, cliciwch yma.

Cronfa Cymorth Dewisol (DAF)

Yng Nghymru, mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn rhoi grantiau brys fel opsiwn olaf un. Mae’n cynnig dau fath o grant a does dim angen i chi ad-dalu’r rhain. Mae’r Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) yn helpu gyda chostau hanfodol i bobl sy’n wynebu caledi ariannol eithafol, colli swydd, neu aros am daliadau budd-daliadau. Mae’r Taliad Cymorth i Unigolion (IAP) yn cefnogi byw’n annibynnol gydag eitemau fel poptai a dodrefn. Sylwch nad yw DAF yn amnewid eitemau sydd wedi torri. Os byddwch chi’n gymwys, gallwch wneud cais ar-lein neu trwy bartner achrededig, fel ein Tîm Cyngor Ariannol, am IAP.
Dysgwch ragor am DAF trwy glicio yma.

 

Grantiau Turn2Us

Os ydych chi’n cael trafferthion ariannol, efallai byddwch chi’n gallu gwneud cais am grant gan elusen neu sefydliad sy’n rhoi grantiau. Mae Chwiliad Grantiau Turn2us yn rhestru dros 1,400 o grantiau i gynorthwyo pobl sy’n chwilio am help ariannol. Hefyd, mae Turn2us yn cynnig nifer bach o’i grantiau ei hun. Nid oes rhaid ad-dalu grant ond, er mwyn bod yn gymwys i gael grant, mae angen i chi fodloni meini prawf penodol, fel bod â chyflwr iechyd penodol.
Chwiliwch Turn2us i ddarganfod a oes grant i chi.

 

Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai (DHP)

Os ydych chi’n cael trafferth â thaliadau rhent, ystyriwch daliadau disgresiwn at gostau tai, sef taliadau ychwanegol i denantiaid sydd angen mwy o help â chostau tai. Mae’r taliadau disgresiwn at gostau tai, sy’n rhai byrdymor fel arfer, yn talu am y diffyg rhwng cost y rhent a’r budd-dal sy’n cael ei ddyfarnu. I fod yn gymwys, mae’n rhaid eich bod chi’n hawlio Budd-dal Tai neu’r Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd, a rhaid i chi ddangos tystiolaeth o anawsterau ariannol neu amgylchiadau personol eithriadol. Gall taliadau disgresiwn at gostau tai fynd tuag at daliadau tanfeddiannu, terfynau ar fudd-daliadau a help gyda chostau gwaredu mewn rhai sefyllfaoedd. Gwnewch gais ar-lein trwy wefan eich cyngor lleol neu gofynnwch am ffurflen bapur os na allwch wneud cais ar-lein.

Arbed arian ar filiau

I liniaru effaith y cynnydd mewn prisiau ynni, meddyliwch am ddefnyddio llai o ynni. Gall mesurydd clyfar eich helpu i ddilyn defnydd a chostau ynni mewn amser real, gan eich helpu i nodi meysydd lle gallwch chi dorri’n ôl ac arbed arian. Os nad oes gennych chi fesurydd clyfar, gofynnwch i’ch darparwr ynni am osod un.

Efallai byddwch chi’n gymwys i gael tariff rhatach neu grantiau cymorth ar gyfer pob un o’ch cyfleustodau, fel nwy, trydan, dŵr a band eang. Peidiwch â bod ofn cysylltu â’ch darparwyr am gymorth.

Mae’n bwysig gwybod y gallwch chi achosi lleithder a llwydni trwy beidio â gwresogi eich cartref yn briodol, a all arwain at broblemau iechyd. Darllenwch ein canllaw ar cadw’n gynnes ac yn iach.

Cofiwch

Os ydych chi’n cael trafferth â thaliadau neu ddyledion biliau ynni, ceisiwch help gan eich darparwr ynni, y Tîm Cyngor ariannol, neu Gyngor ar Bopeth.

Banciau bwyd

Mae banciau bwyd yn fannau lle gall pobl ag incwm isel gael bwyd hanfodol, yn rhad ac am ddim.

Maen nhw’n helpu pan fydd arian yn dynn neu pan fydd treuliau annisgwyl yn codi. Trwy gynnig cymorth dros dro, mae banciau bwyd yn sicrhau bod gan unigolion a theuluoedd ddigon i fwyta. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, mae banciau bwyd yn adnodd cyfeillgar i’ch helpu drwy gyfnodau heriol.

Cofiwch

Gall ein Tîm Cyngor Ariannol roi gwybodaeth i chi am eich banc bwyd agosaf.

Cofiwch

Edrychwch ar gynlluniau gwobrwyo presennol a chardiau teyrngarwch y mae gennych chi hawl iddynt a manteisiwch ar y cyfleoedd.

Rhaglenni cymorth eraill

Gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai

  • Mae’n cynnig cymorth sy’n gysylltiedig â thai i breswylwyr 16 oed a hŷn RhCT.
  • Mae cymorth yn cynnwys ymgartrefu yn eich cartref a’i gynnal, cyllidebu, datblygu sgiliau byw, a chysylltu â gwasanaethau eraill.
  • Gwnewch gais am gymorth ar-lein gan ddefnyddio’r ‘Ffurflen Cymorth Materion Tai’

 

Cyngor ar Bopeth – cefnogi tenantiaid Trivallis:

  • Partneriaeth cyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim, gyda Trivallis i denantiaid.
  • Chwiliwch am eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol yn citizensadvice.org.uk/wales/
  • Mae’n darparu cymorth â gwneud y mwyaf o incwm, ynni, tai, gwaith a mwy.

 

Cyngor ar Bopeth – Help i hawlio’r Credyd Cynhwysol:

 

Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi:

  • Ffoniwch y llinell gymorth rad ac am ddim ar 0808 250 5700 i ddysgu am y budd-daliadau y gallai fod gennych hawl iddynt.
  • Dysgwch am fudd-daliadau posibl er mwyn cael cymorth ychwanegol.

 

Interlink:

  • Mae Tîm y Cydlynwyr Lles yn cefnogi pobl â phroblemau amrywiol ar draws RhCT.
  • Mae gwasanaethau’n cynnwys cymorth â thai, unigrwydd, lles emosiynol a mwy.
  • Cysylltwch â’r tîm ar 07526 571340, neu e-bostiwch wellbeing@interlinkrct.org.uk

 

Carmel Community Clothing:

  • Mae’n darparu dillad o safon i’r rhai sydd mewn angen yn RhCT, Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr.
  • Ymwelwch â nhw neu cysylltwch â nhw ar ddiwrnodau penodol i gael cymorth – mae’r manylion ar eu tudalen Facebook.
  • Mae’n derbyn rhoddion dillad gan bobl sy’n gallu cyfrannu.

 

Cymru Gynnes:

  • Mae’n mynd i’r afael â thlodi tanwydd trwy gynnig cyngor a chymorth am ddim.
  • Mae cynghorwyr ynni a gweithwyr cymunedol hyfforddedig yn helpu i leihau biliau ynni a darparu cymorth iechyd meddwl.
  • Ffoniwch neu e-bostiwch am fwy o fanylion.

 

Cymorth i Breswylwyr RhCT:

  • Mae’r tîm ymateb lleol yn helpu gyda siopa, presgripsiynau, cysylltiad cymdeithasol, cymorth gwaith a mwy.
  • Gofynnwch am help trwy ffonio neu lenwi ffurflen ar-lein.
  • Darperir manylion cyswllt ychwanegol ar gyfer amrywiol raglenni cymorth.

 

Manylion cyswllt help ychwanegol:

Siaradwch â’n tîm Cyngor Ariannol