Fy Trivallis i

alert icon Ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich rhent neu eich biliau?

Gallwch siarad ag aelod o’n tîm Cyngor Ariannol yn ystod oriau swyddfa ar 01443 494560.

Bwyd a choginio

  1. Manteisiwch ar gynigion rhagarweiniol am flychau prydau bwyd fel Hello Fresh a Gousto. Canslwch ar ôl y ddêl gychwynnol os nad ydych chi am ddal ati am bris llawn.
  2. Defnyddiwch boptai pwyll i swp goginio’n rhad.
  3.  Ystyriwch ddefnyddio microdon neu ffwrn aer, sy’n aml yn rhatach na phopty.
  4.  Byddwch yn ofalus am fargeinion archfarchnadoedd fel 3 am bris 2. Osgowch eitemau gormodol a allai fynd yn wastraff.
  5.  Edrychwch ar brisiau gostyngol mewn archfarchnadoedd gyda’r nos am fargeinion.
  6.  Gwnewch brydau ‘Fakeaway’ yn hytrach nag archebu tecawê.

Strategaethau siopa

  1.  Ysgrifennwch restr siopa a chadw ati.
  2.  Ewch i sawl siop i chwilio am y bargeinion gorau.
  3.  Dewiswch nwyddau label y siop yn hytrach na brandiau adnabyddus.
  4.  Ymunwch â chynlluniau teyrngarwch i wneud arbedion ychwanegol.
  5.  Gosodwch her i’r teulu i dreulio diwrnod heb wario arian.
  6.  Dilynwch y rheol 24 awr cyn gwneud pryniannau mawr. Arhoswch 24 awr cyn prynu; bydd hyn yn rhoi amser i chi benderfynu a oes gwir ei angen arnoch chi.

Cyfleustodau ac arbed dŵr

  1.  Golchwch lestri mewn powlen i arbed tua £25 y flwyddyn.
  2.  Gosodwch amserydd yn y gawod i ddefnyddio llai o ddŵr ac arbed hyd at £7 y person y flwyddyn.
  3.  Defnyddiwch fagiau ‘Buffaloo’ yn y seston i ddefnyddio llai o ddŵr wrth fflysio’r toiled.
  4.  Trowch eich thermostat dŵr i lawr i arbed ynni.
  5.  Archwiliwch dariffau Dŵr Cymru neu ystyriwch fesurydd dŵr am opsiynau cost effeithiol.
  6.  Trowch eich thermostat a’ch rheiddiaduron i lawr i arbed costau gwresogi.
  7.  Defnyddiwch declynnau arbed dŵr sy’n cael eu darparu gan Ddŵr Cymru.

Ynni a goleuo

  1. Diffoddwch y goleuadau pan fyddwch chi’n gadael ystafell ac osgowch oleuo lleoedd yn ormodol.
  2. Diffoddwch declynnau trydanol yn llwyr i arbed costau modd gorffwys.
  3. Sychwch ddillad tu allan neu ar hors dillad yn hytrach na defnyddio peiriant sychu dillad.
  4. Rhedwch beiriannau golchi dillad a golchi llestri dim ond pan fyddan nhw’n llawn.
  5. Rhowch fwyd i’w ddadlaith yn yr oergell ac oerwch fwyd poeth cyn ei roi yn yr oergell.
  6. Berwch dim ond faint o ddŵr sydd ei angen arnoch chi yn y tegell.
  7. Defnyddiwch gaeadau ar sosbenni i goginio’n gynt ac yn fwy ynni effeithlon.

Archwiliadau ariannol

  1. Adolygwch daliadau rheolaidd a chanslo tanysgrifiadau diangen.
  2. Gwiriwch gontractau band eang a ffôn symudol; trafodwch neu siopa o gwmpas am fargeinion gwell.
  3. Gwerthwch bethau nad ydych chi’n eu defnyddio ar-lein trwy blatfformau fel y Marketplace ar Facebook a Gumtree.
  4. Defnyddiwch apiau bwyd am ddim, fel Toogoodtogo, Olio, a ShopEZY.
  5. Defnyddiwch gynlluniau teyrngarwch, apiau gwobrwyo ac apiau arian yn ôl i ennill arian wrth i chi siopa.
  6. Edrychwch ar gynlluniau gwobrwyo gan ddarparwyr ffonau symudol am fanteision ychwanegol, fel coffi neu roliau brecwast am ddim.

Siaradwch â’n tîm Cyngor Ariannol