Fy Trivallis i

Rydym am wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael cartref cyfforddus a hapus heb boeni am anwedd, lleithder neu lwydni’n tyfu.

Rydym ni’n deall bod y materion hyn yn gallu bod yn rhwystredig ac yn niweidiol i’ch iechyd, felly rydym ni am roi rhai camau hawdd i chi eu dilyn a fydd yn eu hatal nhw rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Cofiwch

Os byddwch chi’n wynebu unrhyw broblemau gydag anwedd, lleithder neu lwydni yn eich cartref, peidiwch â phoeni. Rydym ni yma i’ch cefnogi chi.

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni am y broblem cyn gynted â phosibl, a gwnawn ein gorau i’ch helpu i’w drwsio. Gorau po gyntaf y byddwch yn rhoi gwybod i ni, er mwyn i ni allu gweithio gyda chi’n gynt i drwsio’r broblem cyn iddi waethygu.

Cadw’ch cartref yn sych

Mae cadw lleithder draw yn allweddol i atal anwedd ac atal twf llwydni.

Dyma sut i wneud hynny:

Awyr iach: Gadewch awyr iach i mewn drwy’r ffenestri, y drysau ac awyrellau.

Trwsio gollyngiadau: Rhowch wybod am ollyngiadau yn brydlon i atal gwlybaniaeth a llwydni.

Defnyddiwch gaeadau: Gorchuddiwch sosbenni wrth goginio i gynhyrchu llai o leithder.

Sychu dillad yn dda: Defnyddiwch lif aer da neu ddadleithydd os ydych chi’n sychu dillad.

Sychu i lawr: Sychwch arwynebau ar ôl cael cawod neu goginio i atal lleithder.

Defnyddio gwyntyllau echdynnu: Trowch wyntyllau ymlaen i sugno aer llaith allan mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi.

Ystafelloedd cynnes: Cadwch eich cartref yn gynnes i’w gadw’n sych.

Dadleithio: Defnyddiwch ddadleithydd os yw eich cartref yn teimlo’n rhy llaith.

Creu lle: Gadewch i aer symud o gwmpas dodrefn trwy beidio â’u gosod yn erbyn waliau, awyrellau neu reiddiaduron.

Cadw’n lân: Mae glanhau rheolaidd yn helpu i atal llwydni rhag tyfu.

 

Beth yw traws awyru?

Mae traws awyru yn fath o awyru naturiol sy’n caniatáu i aer ddod i mewn i un ochr i ystafell a gadael yr ochr arall. Yn ddelfrydol, mae traws awyru yn defnyddio grym wedi’i yrru gan aer i ddod ag aer oerach o’r tu allan yn lle’r aer cynnes hen tu mewn.

Peidiwch â gadael eich ffenestri ar agor am gyfnodau estynedig oherwydd bydd hyn yn arwain at golli gormod o wres, yn hytrach, agorwch ffenestri am ‘”gyfnodau byr, sydyn” o ryw 15 munud bob ychydig oriau i awyru’n gyflym, yn enwedig y peth cyntaf yn y bore i gael gwared ar aer hen a gynhyrchwyd dros nos.

Mae agor ffenestri ym mhob pen i’r eiddo er mwyn caniatáu traws lif yn cael ei argymell.

Oeddech chi’n gwybod?

Dim ond ychydig geiniogau’r dydd y mae’n ei gostio i redeg eich gwyntyllau echdynnu yn rheolaidd. Mae hon yn gost fechan sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr wrth gynnal cartref cynnes, clyd a sych.

Anwedd

Mae anwedd yn digwydd pan fydd aer cynnes, gwlyb yn cyffwrdd ag arwynebau oer. Gall achosi lleithder a llwydni. Mae gweithgareddau bob dydd fel coginio ac anadlu yn rhyddhau lleithder. Sicrhewch fod eich cartref yn cael ei awyru’n dda i osgoi anwedd.

Pam mae anwedd yn broblem?

Gall gormod o anwedd arwain at dwf lleithder, difrodi deunyddiau adeiladu a difetha addurniadau. Cadwch lygad allan am arwyddion fel ardaloedd llaith ac arogleuon llwydni.

Gweld yr arwyddion

Chwiliwch am ddŵr yn rhedeg i lawr ffenestri, ardaloedd llaith a phapur wal sy’n dod oddi ar y wal. Mae lleithder yn golygu gwlypter na ddylai fod yno. Mae dau fath.

1. Lleithder treiddiol:

Pan fydd dŵr yn dod i mewn i’ch cartref trwy graciau neu broblemau eraill y tu allan.

2. Lleithder codi:

pan fydd dŵr o’r llawr gwaelod yn symud i fyny trwy waliau’r adeilad.

Llwydni

Mae sborau llwydni yn bethau mân byw sydd bob amser yn yr aer, hyd yn oed y tu mewn i’ch cartref. Ni allwch eu gweld ac rydym ni’n eu hanadlu i mewn heb yn wybod i ni. Ond pan fyddan nhw’n glanio ar bethau ac yn cael yr amodau cywir i dyfu, dyma pryd y gallant droi’n broblem. Mae angen pedwar peth ar lwydni: maetholion, lleithder, y tymheredd cywir ac aer.

Pam mae llwydni yn broblem?

Gall llwydni achosi alergeddau, cosi a hyd yn oed pyliau o asthma. Os byddwch chi’n dod o hyd i lwydni, rhowch wybod i ni. Rydym ni yma i helpu.

Beth ddylwn i ei wneud os dof fi o o hyd i lwydni?

Dylech drin unrhyw leithder sydd gennych yn barod yn eich cartref, yna gwneud beth y gallwch chi i leihau anwedd a’i atal rhag ailffurfio neu ledaenu.

 

I drin llwydni presennol, dilynwch y pedwar cam canlynol

1. Glanhewch ef

Ni fydd llwydni’n diflannu ar ei ben ei hun. Sychwch ef i ffwrdd gyda dŵr â sebon a gwneud yn siŵr ei fod yn gwbl sych.

2. Defnyddiwch ddilëwr llwydni

Prynwch lanhawr arbennig ar gyfer llwydni o siop. Dewiswch un sydd â rhif diogelwch. Dilynwch y cyfarwyddiadau. Peidiwch â defnyddio cannydd.

3. Byddwch yn ofalus

Peidiwch â brwsio na hwfro llwydni sych. Gallai hyn helpu i ledaenu’r sborau llwydni mân.

4. Rhowch wybod amdano

Gadewch i ni wybod bod problem a byddwn yn gweithio gyda chi i’w ddatrys ac i atal problemau pellach.

Cael help pan fydd ei angen arnoch chi

Rydym ni’n gwybod ei bod hi’n gallu bod yn anodd delio â lleithder a llwydni ar eich pen eich hun. Os na allwch ddatrys y broblem eich hun, rydym ni yma i chi.

3 cham at ddatrys lleithder a llwydni:

  1. Rhowch wybod i ni amdanynt
    Os bydd lleithder a llwydni yn broblem fawr ac ni allwch eu trwsio, rhowch wybod i ni. Gorau po gyntaf y rhowch chi wybod amdano, fel y gallwn ni ei drwsio’n gynt cyn bod y broblem yn gwaethygu. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi’n dod o fewn un o’r categorïau risg isod:
    • babanod a phlant
    • pobl hŷn
    • pobl â phroblemau presennol y croen, fel ecsema atopig
    • pobl â phroblemau resbiradol, fel alergeddau ac asthma
    • pobl â system imiwnedd wan, fel pobl sy’n cael cemotherapi

Os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref yn perthyn i’r categorïau hyn ac mae gennych leithder neu lwydni, cysylltwch â ni yn syth i roi gwybod.

  1. Gwirio a thrwsio
    Byddwn ni’n anfon un o’n harbenigwyr i’ch cartref i weld beth sydd o’i le ac i ddod o hyd i’r ffordd orau o’i drwsio. Byddant yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r achos ac yn awgrymu atebion da.
  2. Gwaith tîm
    Mae cael gwared ar leithder a llwydni yn waith tîm.

Cofiwch, gallwch chi helpu atal lleithder a thwf llwydni trwy ddilyn y camau yn y canllaw hwn. Ond os bydd angen ein help arnoch chi fyth, mae ein tîm medrus yma i chi. Mae cysur eich cartref a’ch iechyd yn bwysig i ni ac rydym ni yma i wneud eich cartref chi’n lle gwych i fyw.

Cymorth ariannol

Os ydych chi’n pryderu am fforddiadwyedd cadw’ch cartref yn gynnes yn ystod tywydd oerach, siaradwch â’n Tîm Cyngor Ariannol i ddysgu sut gallech chi arbed arian a chael at y cymorth y mae ei angen arnoch chi. Gallwch lenwi ffurflen gyswllt ar ein gwefan neu ffonio’r tîm yn uniongyrchol ar 01443 494560.

Rhoi gwybod am broblem