Fy Trivallis i

Gwneud penderfyniad gwybodus

Fel tenant, byddwch chi’n ymwybodol bod eich landlord tai cymdeithasol yn gyfrifol am wneud gwaith trwsio penodol yn eich cartref. Pan fyddwch chi’n rhoi gwybod i’ch landlord cymdeithasol am waith trwsio, eu nod fydd cwblhau’r gwaith o fewn eu hamserlen darged.

Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn digwydd, a gallech deimlo bod eich landlord wedi’ch gadael i lawr. Yn y sefyllfa honno, gallech feddwl mai eich unig opsiwn yw dechrau hawliad adfeiliad i ddatrys y sefyllfa. Ar yr adeg hon, bydd tenantiaid yn aml yn penodi Cwmni Rheoli Hawliadau neu gyfreithiwr a fydd yn delio â’r hawliad ar eu rhan.

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i wneud dewis gwybodus cyn cysylltu â Chwmni Rheoli Hawliadau (CMC) neu gyfreithiwr hawlydd i ddwyn hawliad adfeiliad.

Rydym am i chi wybod am eich opsiynau, eich hawliau, sut mae cwmnïau rheoli hawliadau/cyfreithwyr hawlwyr yn gweithredu a sut gallai gwneud hawliad adfeiliad effeithio arnoch chi.

Opsiynau eraill

    • Siaradwch ag adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor – nhw sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel.
    • Siaradwch â Shelter Cymru – gall yr elusen hon roi cyngor annibynnol, cyfrinachol i chi ar dai, yn rhad ac am ddim. Gallwch sgwrsio â nhw ar-lein, ffonio eu llinell gymorth, neu ymweld â gwasanaeth lleol. Ewch i https://sheltercymru.org.uk/cy/get-help/ i gael mwy o wybodaeth.
    • Siaradwch â’ch Aelod o Senedd Cymru neu’ch cynghorydd – canfyddwch sut i gysylltu â’ch cynrychiolwyr lleol yn writetothem.com

    Cysylltwch â Chyngor ar Bopeth – mae eu cynghorwyr yn rhoi cyngor cyfrinachol, am ddim ar lawer o wahanol bethau a gallant eich helpu i ddod o hyd i help cyfreithiol fforddiadwy, neu am ddim, os bydd ei angen arnoch chi. Ewch i https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/ am fwy o wybodaeth.

Cwmnïau rheoli hawliadau a chyfreithwyr

Mae rhai cwmnïau rheoli hawliadau adfeiliadau a chyfreithwyr yn cynnig helpu i ddatrys problemau i bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol.

Mae gennych hawl glir, sefydledig, i ddilyn y trywydd cyfreithiol hwn, ond mae’n broses hirfaith a chostus, a dyna pam rydym ni wedi cynnwys manylion am yr opsiynau am ddim sydd ar gael i chi yn y ffeithlen hon.

Rhesymau pam y gallech chi ddewis dilyn trywydd hawliad cyfreithiol:

  • Os byddwch chi’n ennill, bydd yn rhaid i’ch landlord wneud y gwaith trwsio sydd ei angen arnoch yn eich cartref.
  • Os ydych chi wedi dod i ddiwedd pob opsiwn arall, gall gweithiwr cyfreithiol proffesiynol eich helpu i lywio’r camau nesaf, sy’n gallu bod yn gymhleth.
  • Gallech gael iawndal os byddwch chi’n ennill yn y llys.

Mae gan denant hawl glir a sefydledig i ddefnyddio cwmni rheoli hawliadau neu gyfreithiwr.

Beth mae angen i mi fod yn ymwybodol ohono?

Pethau y dylech chi fod yn ymwybodol ohonynt os byddwch chi’n dewis dilyn trywydd hawliad cyfreithiol:

  • Gallai gymryd llawer o amser i ddatrys y broblem os dilynwch chi’r llwybr cyfreithiol. Hefyd, nid oes sicrwydd y byddwch chi’n ennill.
  • Gall achosion gymryd llawer o’ch amser a gallant gynhyrchu ffioedd llys sylweddol y bydd yn rhaid i chi eu talu os na fyddwch chi’n llwyddiannus neu os byddwch chi’n tynnu’ch hawliad yn ôl.
  • Os byddwch chi’n ennill, bydd yn rhaid i chi dalu’r cyfreithiwr neu’r cwmni rheoli hawliadau, naill ai drwy ffioedd neu drwy roi canran o’ch iawndal iddynt.
  • Os byddwch chi’n colli, bydd yn rhaid i chi dalu costau eich landlord am amddiffyn yr achos.

Cofiwch, mae’n rhaid i chi adael eich landlord i mewn i’ch cartref neu ar eich eiddo i wneud unrhyw waith trwsio, hyd yn oed os oes gennych chi hawliad byw yn eu herbyn. Weithiau, bydd tenantiaid yn cael cyfarwyddyd i beidio â chaniatáu mynediad, ond gallai hyn olygu oedi cyn datrys y broblem. Hefyd, gallai effeithio ar eich hawliad cyfreithiol, ac mae’n torri eich contract meddiannaeth.

Mae’n rhaid i gwmnïau rheoli hawliadau gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol os ydynt yn darparu gwasanaethau ar gyfer hawliadau sy’n ymwneud ag adfeiliad tai. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymchwilio i’w cefndir a’r person rydych chi’n delio â nhw cyn cytuno i unrhyw beth.

Caiff cyfreithwyr eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a rhaid iddynt gydymffurfio â’r cod ymddygiad. Gallwch wirio gwefan Cymdeithas y Gyfraith os nad ydych chi’n siŵr p’un a yw cwmni neu gyfreithiwr yn ddiffuant.

 

Ac yn olaf…

Mae llawer o gymdeithasau tai Cymru wedi datblygu prosesau ac adnoddau newydd ar gyfer delio’n benodol â phroblemau fel lleithder a llwydni dros y blynyddoedd diwethaf. Gallai eu hymateb nawr fod yn gynt nag rydych chi’n disgwyl.