Fy Trivallis i

Er sylw

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi niweidio’ch hun yn ddifrifol neu geisio lladd eich hun, mae angen help meddygol brys arnoch chi.

Cysylltiadau brys

  • Ffoniwch 999 am ambiwlans, neu
  • Ewch yn syth i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, os gallwch chi, neu
  • Ffoniwch eich tîm argyfwng lleol y GIG:
    • Cwm Cynon: 01685 721721 Est 26952 / 26953
    • Rhondda a Thaf Elái: 01443 443712 (est: 4903 9am – 5pm neu 6388 y tu allan i oriau)
    • Caerdydd: 111 opsiwn 2

Os na allwch chi wneud hyn ar eich pen eich hun, gofynnwch i rywun eich helpu chi.

 

 

 

Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid ydych chi’n gwastraffu amser neb.

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin.

Bydd un o bob pedwar o bobl yn cael rhyw fath o broblem gyda’u hiechyd meddwl mewn blwyddyn.

Mae’r canllaw hwn yn cynnig awgrymiadau am bethau y gallwch chi eu gwneud i ofalu am eich iechyd meddwl. Fodd bynnag, rydym ni’n eich annog chi i geisio help proffesiynol. Rydym ni wedi rhoi ychydig o wybodaeth am wasanaethau y gallwch chi gysylltu â nhw isod.

 

Mae gan bawb iechyd meddwl.

Gallwch gael iechyd meddwl da ac iechyd meddwl gwael. Gofalwch am eich iechyd meddwl i gadw’n iach.

Sut i ofalu am eich iechyd meddwl

Cysylltwch â phobl eraill:

Estynnwch allan i ffrindiau, teulu neu gymdogion am sgwrs neu i fynd am dro. Mae cysylltiadau cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer lles meddyliol a dydyn nhw ddim yn costio ceiniog. Os na allwch chi gyfarfod wyneb yn wyneb, trefnwch amser am alwad fideo neu sgwrs trwy negeseuon.

Cadwch yn actif yn gorfforol:

Mae gwneud gweithgarwch corfforol yn effeithio’n gadarnhaol ar iechyd meddwl mewn sawl ffordd. Meddyliwch am beth rydych chi’n hoffi ei wneud a beth rydych chi’n gallu ei wneud, wrth ddewis gweithgareddau pleserus a diogel. Mae opsiynau’n cynnwys mynd allan am dro, fideos ymarfer corff ar-lein, neu ymuno â dosbarthiadau mewn canolfan hamdden leol. Chwiliwch am rywbeth sy’n addas i chi am feddwl a chorff iachach.
.

Bod yn actif yn gorfforol

Cewch fwy o awgrymiadau am fod yn actif yn gorfforol ar wefan Mind.

Gwnewch ymwybyddiaeth ofalgar:

Treuliwch ychydig funudau bob dydd yn canolbwyntio ar eich anadlu neu sylwi ar y byd o’ch cwmpas chi. Gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu i leihau straen a gwella’ch iechyd meddwl, ac nid yw’n gofyn am unrhyw gyfarpar arbennig na gwariant.

Cysgwch ddigon:

Gall cwsg gwael gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael digon o gwsg (7-9 awr y nos). Peidiwch ag edrych ar sgrin cyn mynd i’r gwely a datblygwch drefn amser gwely i’ch helpu i fynd i gysgu’n hawdd.

Bwytewch yn dda:

Gall bwyta’n rheolaidd a bwyta bwydydd sy’n rhyddhau egni’n araf eich helpu i gadw’ch lefelau siwgr yn gyson a’ch atal rhag teimlo’n flin, yn biwis neu’n isel. Ceisiwch fwyta reis brown, pasta brown, wyau, ffrwythau sych neu dun, llaeth a chaws i gadw’n iach. Osgowch ormod o siwgr, caffein ac alcohol.

Bwyd ac iechyd meddwl

Cewch fwy o awgrymiadau am fwyd ac iechyd meddwl ar wefan Mind

Ceisio help gyda phroblem iechyd meddwl

Fel arfer, cael help yw’r cam cyntaf tuag at deimlo’n well, ond mae’n gallu bod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Mae teimlo’n ansicr a meddwl tybed a ddylech chi ddelio â phethau ar eich pen eich hun yn normal. Cofiwch, does dim o’i le â gofyn am help, hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr beth sy’n digwydd gyda’ch iechyd meddwl.

 

Gall cael help fod yn heriol, yn enwedig pan na fyddwch chi’n teimlo’n dda. Gall fod yn broses sy’n cymryd amser ac nid yw bob amser yn syml. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac rydych chi’n haeddu cefnogaeth.

Sut gall eich landlord helpu?

Gallai trafferthion â lles meddyliol ei gwneud hi’n anoddach rheoli eich tenantiaeth. Gallai cadw i fyny â thaliadau rhent neu ymdrin â chyfrifoldebau fel cynnal a chadw fod yn heriol.

Gall cyfathrebu’n agored â landlordiaid a cheisio cymorth fod yn hanfodol wrth gynnal cartref sefydlog yn ystod cyfnodau anodd.

Yn Trivallis, mae gennym wasanaethau cymorth i denantiaid sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi am ba reswm bynnag.

Help ar adegau anodd

I gael gwybodaeth am gymorth gan Trivallis, ewch i’r dudalen hon

Pa help arall sydd ar gael?

Mae llawer o elusennau a sefydliadau lleol sy’n darparu llinellau cymorth, gwasanaethau gwrando, cwnsela, gwybodaeth a chyfeirio.

Am restr o sefydliadau lleol sy’n darparu cymorth iechyd meddwl yn RhCT, ewch i Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl » Fy Iechyd Meddwl CTM

Am restr o sefydliadau lleol sy’n darparu cymorth iechyd meddwl yng Nghaerdydd, ewch i CC1183-Cavamh-Directory-A5-2022-23-V3.indd


Am gyfoeth o ffeithlenni a gwybodaeth, ewch i wefan yr elusen iechyd meddwl, Mind
https://www.mind.org.uk/