Fy Trivallis i

Contractau meddiannaeth

Bydd eich landlord yn darparu contract meddiannaeth, naill ai contract diogel (i gynghorau a chymdeithasau tai) neu gontract safonol (i’r sector rhentu preifat). Mae’r contract meddiannaeth yn amlinellu eich hawliau a’ch cyfrifoldebau. Mae’n ddatganiad ysgrifenedig ac mae’n disodli cytundeb tenantiaeth traddodiadol.

Mae eich contract yn cwmpasu manylion hanfodol fel:

  • Materion allweddol: er enghraifft, enwau’r landlord a deiliad y contract a chyfeiriad yr eiddo. Mae’n rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract.
  • Telerau sylfaenol: mae’r rhain yn cwmpasu’r agweddau pwysicaf ar y contract, gan gynnwys sut mae’r landlord yn cael meddiant a chyfrifoldebau’r landlord o ran gwaith trwsio.
  • Telerau atodol: mae’r rhain yn delio â materion mwy ymarferol o ddydd i ddydd, er enghraifft gofyn am hysbysu’r landlord os bydd yr eiddo’n cael ei adael yn wag am 4 wythnos neu fwy.
  • Telerau ychwanegol: mae’r rhain yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion eraill y cytunwyd yn benodol arnyn nhw, er enghraifft cadw anifeiliaid anwes

Efallai bydd gennych gontract ar bapur neu fersiwn electronig. Mae llofnodi’r contract yn arfer da gan ei fod yn cadarnhau eich bod yn hapus â phopeth sydd ynddo.

Addasrwydd i fod yn gartref

Mae’n rhaid i landlordiaid sicrhau bod cartrefi yn ddiogel, er enghraifft trwy osod larymau mwg a charbon monocsid a gwneud profion diogelwch. Dylech godi unrhyw bryderon gyda’ch landlord a dal ati i dalu’r rhent tra bydd pethau’n cael eu trwsio. Ond os bydd pethau mor ddrwg fel nad ydych chi’n gallu byw yn yr eiddo, does dim rhaid i chi dalu rhent am y cyfnod hwnnw. Os nad ydych chi’n credu bod eich eiddo yn addas, ond mae eich landlord yn anghytuno, Llys fyddai’n penderfynu ar hyn yn y pen draw.

Cyfnodau rhybudd

Ar yr amod nad ydych chi wedi torri telerau eich contract, mae’n rhaid i’ch landlord roi chwe mis o rybudd i chi os yw am i chi symud allan.

Amddiffyn rhag troi allan dialgar

Os byddwch chi’n cwyno am gyflwr eiddo, ni ddylai hyn arwain at gael eich troi allan. Ni fydd llysoedd yn gadael i landlordiaid droi tenantiaid allan oherwydd cwynion gan denantiaid.

Contractau ar y cyd

Gall deiliaid contract gael eu hychwanegu at gontractau meddiannaeth, neu eu tynnu ohonynt, heb fod angen terfynu un contract a dechrau contract arall. Os byddwch chi’n dechrau perthynas, gall eich partner newydd symud i mewn gyda chi. Os bydd eich perthynas yn dod i ben, gall un partner symud allan o’r eiddo heb effeithio ar y partner arall. Rhowch wybod i’ch landlord.

Hawliau olynu estynedig

Os bydd deiliad y contract yn marw, gall drosglwyddo ei gartref i aelod arall o’r teulu neu ofalwr sy’n byw yno gyda’r deiliad ar yr adeg honno. Gall y cartref gael ei drosglwyddo ddwywaith ar y mwyaf – yn gyntaf i olynydd â blaenoriaeth (er enghraifft priod/partner), yna olynydd wrth gefn (er enghraifft plentyn sy’n oedolyn neu ofalwr).

Gweithdrefn cefnu

Os cefnwyd ar eiddo, gall landlordiaid eu hadfeddiannu heb orchymyn llys ar ôl cyflwyno hysbysiad rhybudd 4 wythnos. Os ydych chi’n gwybod y byddwch chi’n absennol o’r eiddo am fwy na 28 diwrnod yn olynol (er enghraifft cyfnod yn yr ysbyty neu wyliau estynedig), dylech roi gwybod i’ch landlord ymlaen llaw.

Llety â chymorth

Os ydych chi’n byw mewn llety â chymorth am fwy na 6 mis, bydd hawl gennych gael contract safonol â chymorth. Mae hyn yn debyg i gontract safonol ond mae’n cynnwys telerau penodol yn gysylltiedig â threfniadau byw a gwaharddiadau dros dro.

Codi’r rhent ac anghydfodau

Mae codiadau rhent gan landlordiaid cymunedol yn dilyn y Polisi Rhent Cymdeithasol sydd wedi cael ei osod gan Lywodraeth Cymru. Dylid mynd i’r afael â phroblemau gyda chontractau neu dai gyda’r landlord yn y lle cyntaf.

Cofiwch

Mae gwybod eich hawliau yn sicrhau tenantiaeth sicr a chyfforddus. Ceisiwch gyngor gan Shelter Cymru neu Gyngor ar Bopeth os bydd angen.