Fy Trivallis i

Gwiriadau diogelwch

Mae angen i ni wneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel rhag peryglon nwy, tân a thrydan. Mae’r gwiriadau hyn yn eich cadw chi’n ddiogel ac yn sicrhau bod eich cartref yn bodloni pob gofyniad cyfreithiol. Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu cael mynediad i’ch cartref i gynnal y gwiriadau hyn.

Diogelwch tân

Larymau mwg yw eich angylion gwarchod

Sicrhewch fod larymau mwg yn gweithio. Profwch nhw’n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn gallu tynnu’ch sylw os oes mwg.

Cadw drysau tân ar gau:

Mae drysau tân ond yn atal tân pan fyddant ar gau. Cadwch nhw ar gau drwy’r amser a gwnewch yn siŵr bod y caewyr yn gweithio.

Cynllunio’ch dihangfa:

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod eich llwybrau dianc rhag ofn y bydd tân. Trafodwch y cynllun gyda’ch teulu a’i ymarfer.

Peidio â rhwystro llwybrau dianc:

Ni ddylai eitemau fel pramiau, beiciau na biniau sbwriel gael eu cadw mewn ardaloedd cyffredin, grisiau na mynedfeydd i fflatiau. Gallent rwystro rhywun sy’n dianc rhag tân.

Dim gorlwytho, dim risg:

Osgowch orlwytho pwyntiau trydan a lidiau ymestyn. Mae hyn yn lleihau risg tanau trydan.

Bod yn effro i beryglon coginio:

Peidiwch fyth â gadael coginio ar ei ben ei hun. Cadwch eitemau fflamadwy draw rhag y stôf.

Archwilio’ch dyfeisiau:

Tynnwch blygiau o’r soced pan na fyddwch chi’n eu defnyddio, oni bai bod angen iddynt fod ymlaen drwy’r amser e.e. y rhewgell/yr oergell. Cadwch nhw’n lân ac yn gweithio’n dda.

Bod yn ofalus gyda fflamau agored a gwresogyddion:

Defnyddiwch gard tân a gwnewch yn siŵr nad yw canhwyllau ar neu gerllaw rhywbeth a allai fynd ar dân. Gwnewch yn siŵr nad yw gwresogyddion yn cael eu gosod yn rhy agos at unrhyw beth ac nad ydynt yn cael eu gorchuddio.

Diffodd sigaréts:

Gofalwch eich bod yn diffodd ac yn gwaredu sigaréts yn gywir a chadwch fatsis a thanwyr draw rhag plant. Peidiwch fyth ag ysmygu yn y gwely.

Trefn amser gwely:

Bob nos, cofiwch gau pob drws, diffodd teclynnau a thynnu plygiau allan.

Cofiwch

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyngor defnyddiol ar sut i gadw’n ddiogel gartref.

Diogelwch nwy

Gwiriad nwy blynyddol:

Caniatewch i’ch landlord ddod i mewn i’ch cartref bob blwyddyn i gynnal archwiliad diogelwch nwy.

Mae awyru’n hanfodol:

Mae awyru cywir yn atal nwy rhag cronni. Sicrhewch fod awyrellau’n glir a’u bod yn cael eu cynnal a chadw’n dda.

Adnabod arwyddion gollyngiad nwy:

Ymgyfarwyddwch ag arwyddion gollyngiadau nwy, fel arogl nwy neu sŵn hisian. Os byddwch chi’n amau gollyngiad, gadewch yr eiddo a ffonio am help.

Arogl nwy?

Ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar unwaith ar 0800 111 999

Diogelwch trydanol

Defnyddiwch bethau’n ddiogel:

Peidiwch â chamddefnyddio eitemau trydanol na’u defnyddio ar gyfer rhywbeth heblaw eu defnydd gwreiddiol. Gall eu camddefnyddio fod yn beryglus i bawb yn eich cartref.

Dwedwch na i waith trydanol ‘DIY’:

Peidiwch â rhoi cynnig ar atgyweiriadau trydanol eich hun. Rhowch wybod i’ch landlord yn brydlon am unrhyw ddiffygion. Mae ymyrryd ag offer trydanol yn gallu arwain at ddamweiniau.

Gwiriwch ddyfeisiau yn rheolaidd:

Archwiliwch ddyfeisiau trydanol yn rheolaidd am arwyddion o ddifrod. Peidiwch ag anwybyddu difrod i switsys, socedi na dyfeisiau. Bydd eu trwsio neu gael rhai newydd yn eu gwneud nhw’n ddiogel eto.

Gwnewch bwyntiau trydan yn ddiogel i blant:

Os oes gennych blant bach, defnyddiwch orchuddion diogel rhag plant ar bwyntiau trydan i atal damweiniau.

Defnyddiwch nwyddau dibynadwy:

Prynwch eitemau trydanol oddi wrth werthwyr dibynadwy a defnyddiwch wefrwyr (yn enwedig rhai gyda batris lithiwm) sydd wedi dod gyda’r cyfarpar.

Adroddiad ar Gyflwr y Gosodiad Trydanol (EICR)

Mae Adroddiad ar Gyflwr y Gosodiad Trydanol (EICR) yn ofynnol o dan y gyfraith i wirio bod gwifrio a chyfarpar trydanol gosodedig yn eich cartref yn ddiogel. Mae EICR yn cael ei gyflawni bob pum mlynedd neu pan fydd newid mewn tenantiaeth. Gwnewch yn siŵr ein bod ni’n gallu cael mynediad i’ch cartref i gyflawni’r EICR.

Awgrymiadau diogelwch cyffredinol

Rhowch wybod am waith trwsio yn brydlon:

Rhowch wybod i’ch landlord ar unwaith am unrhyw waith trwsio sy’n gysylltiedig â diogelwch.

Byddwch yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas:

Cadwch lygad allan am beryglon posibl a rhowch wybod amdanynt yn brydlon.

adwch gysylltiadau brys wrth law:

Arbedwch rifau argyfwng, gan gynnwys rhif ffôn cyswllt eich landlord mewn man hawdd cael ato.

Cofiwch, mae cartref diogel yn gartref hapus. Os oes gennych amheuaeth, cysylltwch â’ch landlord neu awdurdodau perthnasol am gymorth. Eich lles chi yw ein blaenoriaeth ni!

Cysylltiadau brys

Tân, heddlu neu ambiwlans
Call 999

Trivallis
03000 030 888

Y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol
0800 111 999