Fy Trivallis i

Cwrdd â’r Bwrdd

Mae aelodau’n cyfarfod bob deufis ac maent yn cyfrannu at is-bwyllgorau, hefyd. Caiff yr holl aelodau hyfforddiant a chefnogaeth helaeth gan fod ganddynt gyfrifoldebau cyfreithiol i wneud yn siŵr ein bod yn gweithredu’n gyfrifol, o fewn y gyfraith.

Nick Beckett

Cadeirydd y Bwrdd

Ymunodd Nick â Bwrdd Trivallis ym mis Chwefror 2023. Mae’n dod ag oes o brofiad adwerthu ac eiddo gydag ef. Cyn iddo ymddeol, roedd Nick yn Bennaeth Gweithrediadau gydag Hammerson, lle’r oedd yn arwain tîm o 1,500 o bobl ar draws portffolio yn y DU ac Iwerddon o 11 canolfan siopa a mannau adwerthu blaenllaw.

Mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Ymddiriedolwr profiadol, yn gwasanaethu ar Fwrdd yr elusen, Mirus Wales, a’r White Horse Federation, sy’n rhedeg dros 30 o ysgolion academi ar draws Swindon.

Stephen Brooks

Mae Steve yn ymgynghorydd polisi, strategaeth a chyfathrebu, yn anogwr ac yn gyfarwyddwr anweithredol.
Yn 2022, cafodd ei benodi’n gomisiynydd ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, gan roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith hirdymor Cymru.
Ac yntau wedi’i eni a’i fagu ar ystâd cyngor yn Blackburn, bu Steve yn byw ym Mhontypridd am nifer o flynyddoedd, cyn symud i Gaerdydd yn 2000.
Mae angerdd a ffocws Steve ar gynaliadwyedd a chyfiawnder cymdeithasol. Mae wedi treulio’r 20 mlynedd diwethaf yn gweithio i sefydliadau gan gynnwys Oxfam, y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy a Sustrans.

Claire Hutcheon

Mae Claire wedi gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ers dros 12 mlynedd, gan weithio yn y Cyfarwyddiaethau Addysg, Gwasanaethau Plant, a Ffyniant a Datblygiad yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae hi’n Bennaeth Strategaeth Tai a Buddsoddi, ac mae ei rôl yn cynnwys arwain, rheoli a chydlynu gwasanaethau grant tai sector preifat, rheoli adeiladu a gwasanaethau tai strategol, gan gwmpasu datblygu polisi a rheoli perfformiad.
Mae Claire yn angerddol am sicrhau bod trigolion Rhondda Cynon Taf yn cymryd rhan mewn penderfyniadau, datblygu cynlluniau a datblygu strategaethau er mwyn darparu tai cynnes, diogel o safon gan helpu i adfywio cymunedau.

Julian John

Ganwyd Julian yn Llwynypia a’i fagu yn Nhrehafod ac mae’n falch iawn o fod yn fachgen o’r cymoedd. Mae wedi ennill cymwysterau ym meysydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth a bu mewn rolau uwch yn y prif elusennau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae Julian yn cael ei gyflogi gan Mind Cwm Taf Morgannwg fel Cyfarwyddwr ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn iechyd meddwl, tai a digartrefedd.
Mae Julian yn Aelod Bwrdd Pwyllgor (Mind Cymru) ac mae’n cymryd rhan mewn nifer o fforymau strategol eraill, gan gynnwys y Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Hefyd, mae’n aelod balch o’r Sefydliad Siartredig Datblygiad Proffesiynol.

Carol Kay

Mae Carol yn uwch arweinydd profiadol ym maes tai ar draws y DU. Roedd symud i Gymru fel Cyfarwyddwr TPAS Cymru yn 2001 wedi caniatáu iddi ganolbwyntio ar waith a oedd yn anelu at rymuso pawb sy’n defnyddio gwasanaethau tai.
Roedd rôl ddiweddaraf Carol fel rheoleiddiwr tai gyda Llywodraeth Cymru, lle y ceisiodd wella perfformiad y sector cymdeithasau tai yn gyffredinol, yn enwedig ym meysydd amrywiaeth, grymuso defnyddwyr gwasanaethau a llywodraethiant.
Bellach, mae Carol yn gweithio fel cwnselydd/seicotherapydd, goruchwylydd clinigol ac anogwr, gan arbenigo ar weithio ym maes trawma, yn benodol gyda goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hi’n Is-gadeirydd Cymorth i Fenywod Caerdydd.

David Michael

Mae David yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg ac mae’n aelod cymwysedig o’r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi.
Bu ganddo ddiddordeb hirsefydledig mewn tai ac mae’n aelod o Fwrdd cymdeithasau tai Bron Afon a Hendre/Hafod. Ar hyn o bryd, David yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n byw yn y canolbarth, gyda chysylltiadau teuluol â chymoedd y de, ac mae’n siarad Cymraeg.

Y Cynghorydd Craig Middle

Ymunodd y Cynghorydd Craig Middle â Bwrdd Trivallis ym mis Gorffennaf 2023. Ac yntau’n aelod etholedig ward Penygraig, mae’r Cynghorydd Craig Middle yn angerddol am wasanaethu ei gymuned a gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl.
Ar hyn o bryd, mae Craig yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol Ymgysylltu â Chyflogwyr (REED) ar gyfer de Cymru, gan weithio i Reolaeth Perthnasoedd Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn, wedi’i gynnal gan y Lluoedd Wrth Gefn a Chymdeithas y Cadetiaid.
Mae Craig yn parhau i fod yn aelod o’r Lluoedd Arfog Wrth Gefn fel rhan o Dîm Cefnogaeth Gwydnwch Cymru yn sgil cwblhau wyth mlynedd fel Swyddog Ymgysylltu ar ran y Fyddin yng Nghymru, gyda ffocws ar gysylltu â chymdeithas, cyflogwyr a phobl ifanc. Mae Craig wedi gwasanaethu ers dros 30 mlynedd ac mae wedi derbyn Medalau Tiriogaethol a’r Lluoedd Arfog Wrth Gefn Gwirfoddol am ei wasanaeth.
Mae Craig yn Gymrawd y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae ganddo Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy yn y Diwydiant Adeiladu.

William Oliver

Daw Will â chyfoeth o brofiad o weithio mewn amrywiol uwch rolau arwain o fewn GIG Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediaeth GIG Cymru.
Mae’n angerddol am fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau deilliannau cadarnhaol i bobl. Mae Will yn rhoi pwys ar bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae ganddo brofiad eang o wella perfformiad ac ansawdd, ynghyd â chynllunio strategol a rheoli risg. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn y sector Tai, Gofal a Chymorth ers 9 mlynedd.
Yn ogystal, mae Will yn gwirfoddoli fel Dirprwy Arweinydd Tîm ar gyfer Tîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau. Mae’n aelod o Gyfadran Gofal Cyn Ysbyty Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin (RCSEd).

Martyn Price

Ganwyd Martyn ym Merthyr Tudful ac mae’n byw yno o hyd. Mae’n gyfrifydd siartredig cymwysedig ac mae wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ers dros 30 mlynedd.
Mae profiad Martyn yn cynnwys datblygu a gweithredu strategaethau ariannol, cyllido cymdeithasau tai a rheolaeth ariannol, gan sicrhau bod gwasanaeth yn cael ei gyflwyno sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn cyflawni gwerth am arian.

Angela Priestley

Angela yw Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Dirprwy Ysgrifennydd Cwmni Tai Tarian ac mae’n gweithio’n agos gyda’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol i sicrhau bod safonau llywodraethu uchel ar waith. Yn ogystal â llywodraethu, mae cyfrifoldebau Angela yn cynnwys rheoli perfformiad strategaeth y sefydliad, perfformiad sefydliadol, archwilio mewnol, diogelu data a chydymffurfio corfforaethol.
Mae Angela wedi gweithio yn y sector tai ers 2009 ac mae’n angerddol am sicrhau bod tenantiaid yn cael dweud eu dweud ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw, o’r cartref maen nhw’n byw ynddo i’r gymuned maen nhw’n byw ynddi.

Mark Richards

Yn wreiddiol, cymhwysodd Mark fel syrfëwr mwyngloddio, gan weithio ym maes glo de Cymru, yna ailhyfforddodd yn syrfewyr adeiladu, gan oruchwylio’r tîm a oedd yn goruchwylio hawliadau ymsuddiant pyllau glo cyn treulio rhai blynyddoedd yn gweithio mewn awdurdod lleol a chymdeithas tai fawr yn rheoli’r gwaith o gynnal a chadw eu stoc tai.
Yn fwy diweddar, roedd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, hyd nes iddo ymddeol yn rhannol ychydig flynyddoedd yn ôl. Bellach, mae’n cefnogi elusennau a lleoliadau iechyd fel rheolwr cyllid a chyfleusterau. Yn ogystal, mae ymddiriedolwr gronfa bensiwn leol ac yn cadeirio grŵp sy’n codi arian i Gymdeithas Alzheimer Cymru.