Fy Trivallis i

Datblygu tai, adeiladu cymunedau

Rydym ni’n darparu tai i 25,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf a Bae Caerdydd. Ein prif rôl yw darparu tai sy’n ddiogel, yn sicr ac yn fforddiadwy i’r bobl sydd fwyaf mewn angen. Fodd bynnag, rydym ni’n fwy na landlord. Rydym ni’n sefydliad cydweithredol, ym mherchnogaeth ein tenantiaid, wedi’n hangori’n lleol. Mae ein rôl datblygu cymunedol, adfywio cymunedol a lles unigol yn ganolog i’r hyn rydym ni’n ei wneud.

Cawsom ein sefydlu yn 2007, dan yr enw RCT Homes. Yn 2015, newidiom i Trivallis.

Rydym ni’n cyflogi dros 400 o staff

Rydym ni’n cyflogi dros 400 o staff sy’n gweithio ar draws ein timau gwaith trwsio, cydymffurfio â rheolau diogelwch, cymdogaethau, gwasanaeth cwsmeriaid, datblygu a chorfforaethol. Mae pawb yn Trivallis yn gweithio i roi anghenion ein tenantiaid yn gyntaf, meithrin perthnasoedd da a darparu gwasanaeth gwych.

 

 

Amdanom ni

Y pethau cyfreithiol

Rydym ni wedi cofrestru gyda Llywodraeth Cymru (Rhif Cofrestru L143) a chawn ein rheoleiddio a’n hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (Rhif Cofrestru 30261R).
Yn 2024/25, mae Trivallis wedi cael gwerth £7.3m o gyllid llenwi'r bwlch gwaddoli oddi wrth Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei wario ar gynlluniau gwella SATC.

Safon ansawdd tai Cymru | LLYW CYMRU
page image

Beth sydd mewn enw?

Ein henw yw Trivallis oherwydd ein bod wedi ein lleoli yn Rhondda Cynon Taf, tri chwm (neu dri-vallis). Mae’r dot yn ein logo yn dangos mai Trivallis yn unig ydyn ni – nid Tai Trivallis na Chymdeithas Tai Trivallis – dim ond Trivallis!

Mae pobl yn sillafu ein henw mewn pob math o ffyrdd – Trivalis, Trevallis, Travalis – ond sut bynnag rydych chi’n ei sillafu, rydyn ni’n falch eich bod chi yma ac yn gobeithio y byddwch chi’n dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch chi!