Fy Trivallis i

Mae tryloywder yn allweddol. Dyma sut yr ydym yn defnyddio cwcis i gefnogi’ch siwrnai gyda Trivallis.

Defnyddiwn gwcis i helpu’n gwefan i weithio’n effeithlon ac i wella’ch profiad. Mae cwcis yn caniatáu i ni gofio’ch hoffterau, deall sut mae’n gwefan yn cael ei defnyddio, a chyflwyno cynnwys perthnasol.

Am wybodaeth bellach ar sut yr ydym yn casglu, yn defnyddio, ac yn rhannu gwybodaeth bersonol, gweler ein Polisi Preifatrwydd.

I ddysgu mwy ar sut i reoli a dileu cwcis, ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am arweiniad pellach.

Beth yw Cwcis a Pham ein bod yn eu Defnyddio

Mae cwcis yn ffeiliau testun bach sy’n cael ei storio ar eich dyfais pan fyddwch chi’n ymweld â gwefan. Maen nhw’n ein helpu ni i:

  • Wella ein gwasanaethau trwy gofio’ch hoffterau
  • Eich atal chi rhag gorfod ail-gyflwyno gwybodaeth droeon
  • Eich cadw chi wedi mewngofnodi ar draws tudalennau
  • Mesur faint o bobl sy’n defnyddio ein gwefan a sut maen nhw’n rhyngweithio â hi
  • Gwneud eich profiad yn haws ac yn fwy personol

Rhestr Cwcis

Gallai cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan fod yn rhai ni ein hunain (wedi’u gosod gan Trivallis) neu’n drydydd parti (wedi’u gosod gan wasanaethau allanol a ddefnyddiwn). Isod y mae dadansoddiad o’r mathau o gwcis a ddefnyddiwn:

Cwcis Angenrheidiol

Mae’r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn i’r wefan weithio’n iawn. Maen nhw’n galluogi nodweddion fel diogelwch, rheoli rhwydwaith, a hygyrchedd.

Gwesteiwr Enw Cwci Diben Rhychwant Oes Math o Wasanaeth
CookiesYes Cookieyes-consent Yn storio hoffterau caniatâd cwci defnyddiwr i’w parchu ar ymweliadau yn y dyfodol 30 diwrnod Ein rhai ni
Google _GRECAPTCHA Yn cynnal dadansoddiad risg i wahaniaethu rhwng defnyddwyr dynol a botiau 6 mis Trydydd parti
Azure Web Apps ARRAffinity Yn sicrhau bod sesiwn defnyddiwr yn cadw at yr un mynegiadau gweinydd Sesiwn Ein rhai ni
Azure Web Apps ARRAffinitySameSite Yn sicrhau bod sesiwn defnyddiwr yn cadw at yr un mynediadau gweinydd, gan gynnwys SameSite ar gyfer porwyr modern Sesiwn Ein rhai ni

Cwcis Perfformiad

Mae’r cwcis hyn yn ein helpu ni i ddeall sut y mae ymwelwyr yn rhyngweithio â’n gwefan trwy gasglu ac adrodd ar wybodaeth yn ddienw.

Gwesteiwr Enw Cwci Diben Rhychwant Oes Math o Wasanaeth
Google _ga / _ga_QNL3B6X8B5 Yn olrhain ymddygiad defnyddiwr 2 flynedd Trydydd parti
Trivallis Dynamics365PortalAnalytics Yn olrhain defnydd dienw ar gyfer dadansoddeg gwasanaeth 90 diwrnod Ein rhai ni

Cwcis gweithredol

Mae’r cwcis hyn yn galluogi natur ymarferol a phersonoli uwch, megis cofio’ch hoffterau.

Gwesteiwr Enw Cwci Diben Rhychwant Oes Math o Wasanaeth
Trivallis is_below_1200px Yn storio statws lled sgrin i addasu cynllun neu ddosbarthiadau grid yn unol â hynny Ar sail sesiwn Ein rhai ni
Trivallis ContextLanguageCode Yn storio hoffterau iaith defnyddiwr ar draws tudalennau Sesiwn Ein rhai ni
Trivallis isDSTObserved Yn dangos yr amser cyfredol yn Amser Arbed Golau Dydd Sesiwn Ein rhai ni
Trivallis isDSTSupport Yn gwirio a yw’r dyddiad/amser yn disgyn o fewn ystod Amser Arbed Golau Dydd Sesiwn Ein rhai ni
Trivallis timeZoneCode Yn storio cod parth amser CRM ar gyfer y defnyddiwr cyfredol Sesiwn Ein rhai ni
Trivallis timezoneoffset Yn storio’r gwahaniaeth rhwng UTC ac amser porwr lleol Sesiwn neu -211 diwrnod Ein rhai ni

Cwcis Hysbysebu

Defnyddir y cwcis hyn i gyflwyno hysbysebion perthnasol ac olrhain perfformiad ymgyrch.

Gwesteiwr Enw Cwci Diben Rhychwant Oes Math o Wasanaeth
Facebook _fbp Olrhain hysbysebion Facebook 3 mis Trydydd parti

*Mae’r cwcis sydd wedi’u rhestru wedi’u nodi trwy brofi ar draws sawl tudalen ar y wefan hon. Gan hynny, ni fydd pob cwci yn ymddangos ar bob tudalen. Gallai presenoldeb cwcis penodol amrywio gan ddibynnu ar gynnwys y dudalen, gwasanaethau wedi’u mewnblannu, neu ryngweithiadau defnyddiwr. Gallai rhai tudalennau gynnwys cwcis ychwanegol nad ydynt wedi’u cynnwys yn y crynodeb hwn, yn enwedig y rheini sy’n cynnwys integriadau trydydd parti neu nodweddion dynamig.

Dolenni at Wefannau Eraill

Gallai ein gwefan gynnwys dolenni at wefannau allanol. Nid ydym yn rheoli’r safleoedd hyn ac ni wnawn unrhyw sylwadau am eu cynnwys nac arferion preifatrwydd. Anogwn ni chi i ddeall eu polisïau cwcis a phreifatrwydd.

Rheoli Cwcis

Gallwch reoli neu analluogi cwcis trwy’ch gosodiadau porwr unrhyw bryd, gan glicio ar ddelwedd y cwcis ar y dudalen. Sylwch y gallai analluogi rhai cwcis effeithio ar weithrediad ymarferol y wefan.

Rhagor o Wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi Cwcis hyn neu sut yr ydym yn defnyddio cwcis, cysylltwch â:

  • E-bost: dataprotection@trivallis.co.uk;
  • Ffoniwch ni ar 03000 030 888;
  • Ysgrifennwch atom: Swyddog Diogelu Data, Trivallis, Tŷ Pennant, Stryd y Felin, Pontypridd, CF37 2SW.