Fy Trivallis i

Pam rydym ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol?

Rydym ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys unrhyw gategorïau arbennig o wybodaeth bersonol, yn gysylltiedig â rheoli eich tenantiaeth. Byddai hyn hefyd yn cynnwys delio ag unrhyw geisiadau tai a wnewch chi a phethau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, hawliadau yswiriant, cwynion ac apeliadau; ac rydym ni’n prosesu’r wybodaeth hon naill ai oherwydd ei bod hi’n angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn rheoli eich tenantiaeth neu oherwydd bod cyfreithiau sy’n caniatáu i ni, neu’n ei gwneud hi’n ofynnol i ni, ei phrosesu.

Pe na fyddech chi’n rhoi’r wybodaeth hon i ni, ni fyddem yn gallu darparu tenantiaeth i chi.

Weithiau, byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol oherwydd, fel busnes, mae gennym fuddiant cyfreithlon mewn gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym ni ond yn gwneud hyn pan fyddwn ni’n hyderus y byddech chi’n disgwyl yn rhesymol i ni wneud, er enghraifft pan fyddwch chi’n ein helpu gydag arolygon rydym ni’n ymgymryd â nhw er mwyn i ni wella’r gwasanaeth rydym ni’n ei roi i chi.

Ar rai adegau, gall fod angen eich cydsyniad arnom ni er mwyn prosesu eich gwybodaeth bersonol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi ac ni fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth oni bai eich bod chi’n cydsynio i ni wneud hynny. Yna, cewch yr opsiwn i dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.

Pa wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu ac o ble rydym ni’n ei chael?

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu yn wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni amdanoch chi a’r bobl sy’n byw gyda chi. Mae hyn yn cynnwys pethau fel eich enw, cyfeiriad, rhifau ffôn, dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol, rhywedd a manylion cyfrif banc. Hefyd, rydym ni’n prosesu categorïau arbennig o wybodaeth bersonol, fel eich hil neu dras ethnig, crefydd a gwybodaeth am eich iechyd neu’ch cyfeiriadedd rhywiol,

ond ni fyddwn yn gwneud hyn oni bai bod sail gyfreithlon i ni wneud hynny, er enghraifft pan fyddwch chi wedi cydsynio i ni brosesu eich gwybodaeth, lle mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth er mwyn amddiffyn eich buddiannau hanfodol, neu pan fydd cyfreithiau’n caniatáu i ni, neu’n ei gwneud hi’n ofynnol i ni, wneud hynny. Yn ogystal â’r uchod, pan fyddwn yn delio ag achosion o ymddygiad gwrth-gymdeithasol, gallem brosesu gwybodaeth yn gysylltiedig ag euogfarnau neu honiadau troseddol.

Weithiau, byddwn yn prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi a roddwyd i ni gan sefydliadau eraill fel yr awdurdod lleol neu’r heddlu. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gwybodaeth yn gysylltiedig â chais am dŷ, hawliad am fudd-dal tai neu becyn cymorth, neu rywbeth fel ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Byddai’r sefydliad arall ond yn rhannu’r wybodaeth hon gyda ni, serch hynny, naill ai pan fyddwch chi wedi rhoi caniatâd iddynt wneud hynny neu pan mae’r gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny.

A ydym ni fyth yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r Deyrnas Unedig?

Mae llawer o’r wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu yn Trivallis yn cael ei dal yn electronig, naill ai yn ein swyddfeydd ym Mhontypridd, neu oddi ar y safle mewn canolfannau data yn y Deyrnas Unedig. Pan gedwir y data oddi ar y safle, rydym ni’n gweithio’n agos gyda’n darparwyr meddalwedd i wneud yn siŵr bod y wybodaeth hon yn cael ei storio yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Gall rhai sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i Trivallis drosglwyddo data’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, ond byddwn yn caniatáu hyn dim ond os yw’r data’n cael ei ddiogelu’n ddigonol.

Am ba hyd ydym ni’n dal eich gwybodaeth bersonol?

O ran rheoli eich tenantiaeth, byddwn yn dal eich gwybodaeth bersonol am gyfnod o chwe blynedd ar ôl i’ch tenantiaeth ddod i ben ac, fel arfer, dyma’r cyfnod hiraf y byddwn yn dal unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi. Bydd gwybodaeth a ddarperir gan asiantaethau eraill ac sy’n gysylltiedig ag anghenion arbennig tenantiaid, a chofnodion yn gysylltiedig â throseddwyr, yn cael eu cadw dim ond tra bydd y denantiaeth yn parhau; cedwir ffilmio o gamerâu teledu cylch cyfyng Trivallis am 42 diwrnod yn unig. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, byddwn yn gwaredu’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel.

Pan fydd rhaid i ni gadw’ch gwybodaeth bersonol am gyfnod hwy na hyn, er enghraifft ar rai o’n systemau cyfrifiadurol, awn ati i’w hanonymeiddio.

Pa hawliau sydd gennych?

Mae gennych nifer o hawliau dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Mae gennych hawl i gael mynediad at y wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu amdanoch chi ac, os credwch fod y wybodaeth bersonol yn anghywir neu’n anghyflawn, mae hawl gennych i’r wybodaeth gael ei chywiro neu ei dileu.

O dan rai amgylchiadau, mae hawl gennych atal prosesu eich data a’r hawl i wrthwynebu rhai mathau o brosesu. Hefyd, mae hawl gennych gwyno i awdurdod goruchwylio – Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig.

I gael mwy o wybodaeth am hawliau unigolion, dyma wefan y Comisiynydd Gwybodaeth:

https://ico.org.uk

Pam rydym ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol?

Rydym ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys unrhyw gategorïau arbennig o wybodaeth bersonol, yn gysylltiedig â rheoli materion fel rhoi gwybod am ymddygiad gwrth-gymdeithasol, hawliadau yn erbyn Trivallis, cwynion ac apeliadau, a chostau a rennir am waith i bobl nad ydynt yn denantiaid gyda Trivallis; ac rydym ni’n prosesu’r wybodaeth hon naill ai oherwydd rydych chi wedi cydsynio i ni wneud hynny neu oherwydd bod cyfreithiau sy’n caniatáu i ni, neu’n ei gwneud hi’n ofynnol i ni, ei phrosesu.

Pe na fyddech chi’n rhoi’r wybodaeth hon i ni, ni fyddem yn gallu darparu gwasanaeth i chi.

Weithiau, byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol oherwydd, fel busnes, mae gennym fuddiant cyfreithlon mewn gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym ni ond yn gwneud hyn pan fyddwn ni’n hyderus y byddech chi’n disgwyl yn rhesymol i ni wneud, er enghraifft pan fyddwch chi’n ein helpu gydag arolygon rydym ni’n ymgymryd â nhw er mwyn i ni wella’r gwasanaeth rydym ni’n ei roi i chi.

Pan fydd angen eich cydsyniad arnom ni er mwyn prosesu eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi ac ni fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth oni bai eich bod chi’n cydsynio i ni wneud hynny. Yna, cewch yr opsiwn i dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.

Pa wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu ac o ble rydym ni’n ei chael?

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu yn wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni amdanoch chi a’r bobl sy’n byw gyda chi. Mae hyn yn cynnwys pethau fel eich enw, cyfeiriad a rhifau ffôn. Hefyd, rydym ni’n prosesu categorïau arbennig o wybodaeth bersonol, fel eich hil neu dras ethnig, crefydd a gwybodaeth am eich iechyd neu’ch cyfeiriadedd rhywiol, ond ni fyddwn yn gwneud hyn oni bai bod sail gyfreithlon i ni wneud hynny, er enghraifft pan fyddwch chi wedi cydsynio i ni brosesu eich gwybodaeth, lle mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth er mwyn amddiffyn

eich buddiannau hanfodol, neu pan fydd cyfreithiau’n caniatáu i ni, neu’n ei gwneud hi’n ofynnol i ni, wneud hynny. Yn ogystal â’r uchod, pan fyddwn yn delio ag achosion o ymddygiad gwrth-gymdeithasol, gallem brosesu gwybodaeth yn gysylltiedig ag euogfarnau neu honiadau troseddol.

Weithiau, byddwn yn prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi a roddwyd i ni gan sefydliadau eraill fel yr awdurdod lleol neu’r heddlu. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gwybodaeth yn gysylltiedig â rhywbeth fel ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Byddai’r sefydliad arall ond yn rhannu’r wybodaeth hon gyda ni, serch hynny, naill ai pan fyddwch chi wedi rhoi caniatâd iddynt wneud hynny neu mae’r gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny.

Gyda phwy byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth bersonol?

Weithiau, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda phobl neu sefydliadau eraill. Mae hyn yn cynnwys contractwyr sy’n gweithio i Trivallis; sefydliadau fel yr Ombwdsmon, i ganiatáu iddynt brosesu unrhyw gwynion a wnaed gennych; neu’r heddlu ac asiantaethau eraill at ddibenion atal neu ddarganfod trosedd. Byddwn ond yn gwneud hyn, serch hynny, os ydych chi’n cydsynio i ni wneud hynny, neu pan fydd cyfreithiau sy’n caniatáu i ni wneud hynny, neu mae’n angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn i ni ddarparu gwasanaeth i chi.

A ydym ni fyth yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r Deyrnas Unedig?

Mae llawer o’r wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu yn Trivallis yn cael ei dal yn electronig, naill ai yn ein swyddfeydd ym Mhontypridd, neu oddi ar y safle mewn canolfannau data yn y Deyrnas Unedig. Pan gedwir y wybodaeth oddi ar y safle, rydym ni’n gweithio’n agos gyda’n darparwyr meddalwedd i wneud yn siŵr bod y wybodaeth hon yn cael ei storio yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Gall rhai sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i Trivallis drosglwyddo data’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, ond byddwn yn caniatáu hyn dim ond os yw’r data’n cael ei ddiogelu’n ddigonol.

Am ba hyd ydym ni’n dal eich gwybodaeth bersonol?

O ran delio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, byddwn yn dal eich gwybodaeth bersonol am gyfnod o chwe blynedd ar ôl cau’r achos ac, yn achos cwynion ac apeliadau, am ddwy flynedd ar ôl cau’r achos. O ran gwaith y mae’n rhaid rhannu ei gost, byddwn yn dal eich gwybodaeth bersonol am gyfnod o chwe blynedd ar ôl cwblhau’r gwaith. Yn achos hawliadau yn erbyn Trivallis, byddwn yn dal eich gwybodaeth bersonol yn ôl yr angen i gyflawni rhwymedigaethau rheoli a chyfreithiol. Cedwir ffilmio o gamerâu teledu cylch cyfyng Trivallis am 42 diwrnod yn unig. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, byddwn yn gwaredu’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel.

Pan fydd rhaid i ni gadw’ch gwybodaeth bersonol am gyfnod hwy na hyn, er enghraifft ar rai o’n systemau cyfrifiadurol, awn ati i’w hanonymeiddio.

Pa hawliau sydd gennych?

Mae gennych nifer o hawliau dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Mae gennych hawl i gael mynediad at y wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu amdanoch chi ac, os credwch fod y wybodaeth bersonol yn anghywir neu’n anghyflawn, mae hawl gennych i’r wybodaeth gael ei chywiro neu ei dileu.

O dan rai amgylchiadau, mae hawl gennych atal prosesu eich data a’r hawl i wrthwynebu rhai mathau o brosesu. Hefyd, mae hawl gennych gwyno i awdurdod goruchwylio – Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig.

I gael mwy o wybodaeth am hawliau unigolion, dyma wefan y Comisiynydd Gwybodaeth:

https://ico.org.uk

Pam rydym ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol?

Rydym ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys unrhyw gategorïau arbennig o wybodaeth bersonol, yn gysylltiedig ag arolygon rydym ni’n ymgymryd â nhw er mwyn i ni wella’r gwasanaeth rydym ni’n ei roi i chi.

Gall fod angen eich cydsyniad arnom ni er mwyn prosesu eich gwybodaeth bersonol. Os oes, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi ac ni fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth oni bai eich bod chi’n cydsynio i ni wneud hynny. Yna, cewch yr opsiwn i dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.

Weithiau, byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol oherwydd, fel busnes, mae gennym fuddiant cyfreithlon mewn gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym ni ond yn gwneud hyn pan fyddwn ni’n hyderus y byddech chi’n disgwyl yn rhesymol i ni wneud.

Pa wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu ac o ble rydym ni’n ei chael?

Gall llawer o’n harolygon gael eu cwblhau yn ddienw. Weithiau, fodd bynnag, gofynnwn eich bod chi’n rhoi eich gwybodaeth bersonol i ni er mwyn i ni wella’r gwasanaeth rydym ni’n ei roi i chi. Mae hyn yn cynnwys pethau fel eich enw, cyfeiriad, rhifau ffôn, dyddiad geni a rhywedd. Os byddwn ni’n prosesu unrhyw gategorïau arbennig o wybodaeth bersonol wrth ymgymryd ag arolygon, fel eich hil neu dras ethnig, crefydd a gwybodaeth am eich iechyd neu’ch cyfeiriadedd rhywiol, ni fyddwn yn gwneud hyn oni bai eich bod wedi cydsynio i ni brosesu eich gwybodaeth.

Gyda phwy byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth bersonol?

O ran ymgymryd ag arolygon, nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda phobl na sefydliadau eraill.

A ydym ni fyth yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r Deyrnas Unedig?

Mae llawer o’r wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu yn Trivallis yn cael ei dal yn electronig, naill ai yn ein swyddfeydd ym Mhontypridd, neu oddi ar y safle mewn canolfannau data yn y Deyrnas Unedig. Pan gedwir y wybodaeth oddi ar y safle, rydym ni’n gweithio’n agos gyda’n darparwyr meddalwedd i wneud yn siŵr bod y wybodaeth hon yn cael ei storio yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Gall rhai sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i Trivallis drosglwyddo data’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, ond byddwn yn caniatáu hyn dim ond os yw’r data’n cael ei ddiogelu’n ddigonol.

Am ba hyd ydym ni’n dal eich gwybodaeth bersonol?

O ran ymgymryd ag arolygon, rydym yn dal eich gwybodaeth bersonol am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl i chi lenwi’r arolwg.