Fy Trivallis i

Mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn cynnwys:

Mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn cynnwys digwyddiadau casineb, ymddygiad bygythiol, annifyrrwch gan bobl ifanc, digwyddiadau â chyffuriau, sŵn, cam-drin geiriol a materion amgylcheddol fel tipio sbwriel yn anghyfreithlon.

Ddim yn ymddygiad gwrth-gymdeithasol: Camsyniadau cyffredin

Nid yw rhai pethau’n ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac nid yw’n bosibl mynd i’r afael â nhw o dan brosesau ymddygiad gwrth-gymdeithasol, fel syllu, plant yn chwarae, ble mae biniau’n cael eu gosod, gerddi anniben, parcio anystyriol, anghydfodau ar y cyfryngau cymdeithasol, arogleuon coginio, tanau rheoledig, a phartïon un-tro.

Argyfwng ai peidio?

Os yw’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn argyfwng neu’n teimlo fel y gallai droi’n argyfwng, ffoniwch 999. Os na, cysylltwch ag 101 i roi gwybod am drosedd.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am ymddygiad gwrth-gymdeithasol?

  • Mae staff ein Canolfan Gyswllt yn gwneud nodyn o’ch cwyn ac yn ei throsglwyddo i’r tîm perthnasol
  • Mae eich Swyddog Tai Cymunedol yn ymchwilio, yn casglu tystiolaeth ac yn ymgynghori ag asiantaethau perthnasol
  • Rydym ni’n siarad ag asiantaethau eraill, ac yn cytuno ar gynllun gweithredu

Ein hagwedd at achosion o ymddygiad gwrth-gymdeithasol

Rydym ni’n cefnogi achwynwyr, dioddefwyr a thystion yn rhesymol ac yn deg. Nid ydym yn goddef ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac mae disgwyl i breswylwyr ymddwyn yn briodol. Nid ydym ni’n dewis ochr, ond yn ceisio datrys pethau.

Delio â niwsans sŵn

Gall niwsans sŵn roi straen ar y berthynas rhwng gwahanol aelwydydd, a gall sŵn gormodol achosi straen. Os byddwch chi’n cael eich effeithio, siaradwch â’ch cymydog i ddechrau. Os bydd y broblem yn parhau, cysylltwch â ni. Er mwyn i ni weithredu, bydd angen tystiolaeth arnoch chi. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio’r Ap Sŵn ar eich ffôn symudol, neu drwy gadw dyddiadur.

Lawrlwythwch yr Ap Sŵn
https://www.thenoiseapp.com

Cyfarth cŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Nid yw cyfarth cŵn yn ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ond os yw’n achosi problemau, siaradwch â’ch cymydog yn y lle cyntaf. Os yw ci yn cyfarth ar adegau anghymdeithasol neu yn ystod y nos, gallwch ddefnyddio’r ap sŵn i recordio hyn ar eich ffôn.

Gallwn gynnig cymorth a chyngor. Yn achos cŵn peryglus neu bryderon am les, cysylltwch â Heddlu De Cymru neu’r RSPCA.

Cymorth i ddioddefwyr ac iechyd meddwl

Mae dioddef ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn gallu bod yn straen mawr. Siaradwch â’ch Swyddog Tai Cymunedol am gymorth a chyngor. Os yw’n cael effaith ar eich iechyd meddwl, ewch i’n tudalen ar [cymorth iechyd meddwl] am wybodaeth a chyfeiriadau at wasanaethau.

Ffocws Dioddefwyr De Cymru

ae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn rhoi help i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ewch i’w gwefan ar https://www.southwalesvictimfocus.org.uk/

Anghydfodau rhwng cymdogion a chyfryngu

Ceisiwch drafod problemau gyda’ch cymydog cyn gwneud cwyn ffurfiol. Gallech wneud hyn ar eich pen eich hun, ond gallai defnyddio gwasanaeth cyfryngu fod yn fwy diogel. Mae cyfryngu’n golygu siarad â’ch cymydog gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig yn bresennol. Neu, nid oes rhaid i chi weld eich cymydog a gall y cyfryngwr fynd yn ôl ac ymlaen rhyngoch chi. Gellir gwneud hyn yn rhad ac am ddim a gall helpu i ddatrys anghydfodau a chynnal perthynas dda.

Cofiwch

Os hoffech chi ddefnyddio cyfryngwr i’ch helpu chi, siaradwch â’ch Swyddog Tai Cymunedol neu Gydlynydd eich Cynllun Gwarchod.

Cyflawnwyr honedig

Gall heriau bywyd fel problemau iechyd, profedigaeth neu newidiadau mewn swydd achosi straen i’ch perthynas gartref a’ch perthynas gyda chymdogion. Mae rhai pobl sy’n cael eu cyhuddo o ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn gallu bod yn fregus ac rydym ni eisiau eu cefnogi nhw, i’w helpu i ddeall canlyniadau eu gweithredoedd, rhoi’r gorau i ymddwyn fel hynny, a chadw eu cartref. Trwy weithio gyda gwasanaethau cymorth, rydym ni’n edrych ar achosion sylfaenol ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Gorfodi yw’r cam olaf un ar ôl gwneud sawl cynnig ar ddatrys y mater.

Adolygu achos o ymddygiad gwrth-gymdeithasol

Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb i’ch cwyn am ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac mae’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn parhau heb ei ddatrys, gallwch ofyn am adolygiad annibynnol o’ch achos.

Bydd yr adolygiad yn dwyn gwahanol asiantaethau ynghyd i edrych beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn, rhannu gwybodaeth a cheisio dod o hyd i ateb i atal yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Gweithgor ymddygiad gwrth-gymdeithasol

Mae gennym ni weithgor ymddygiad gwrth-gymdeithasol sy’n cynnwys tenantiaid, preswylwyr, a thimau cymdogaeth. Mae’r grŵp yn cydweithio i wella’r ffordd y mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn cael ei reoli mewn cymunedau, trwy wneud newidiadau i’r broses a’r gweithdrefnau sydd ar waith.

Rhoi gwybod i Trivallis am ymddygiad gwrth-gymdeithasol