Fy Trivallis i

Gyrfa Cymru

Os ydych chi am fynd yn ôl i waith, i hyfforddiant neu i addysg, dechreuwch yma. Gall eich helpu gyda chyngor gyrfaol, llwybrau at eich swydd neu brentisiaeth ddelfrydol, a mwy.
www.gyrfacymru.com

Cymru’n Gweithio

Os oes rhywbeth sy’n eich atal rhag cael swydd a symud ymlaen yn eich gyrfa, mae Cymru’n Gweithio yn wasanaeth rhad ac am ddim sydd ar gael i bawb 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru i gael gafael ar gyngor a hyfforddiant arbenigol.
https://workingwales.gov.wales/

Y Ganolfan Byd Gwaith

Bydd eich canolfan waith leol hefyd yn gallu’ch cyfeirio at hyfforddiant a chyngor fel y gallwch chi sicrhau cymwysterau a cham tuag at eich galwedigaeth newydd.
www.gov.uk/contact-jobcentre-plus

eCymru

Mae eCymru yn wefan sy’n cynnig cyrsiau ar-lein a chyfleoedd e-ddysgu i bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol.g.
https://ecymru.co.uk/

PRIME Cymru

Mae PRIME Cymru yn cynnig cymorth yn rhad ac am ddim i unigolion 50+ oed sy’n byw yng Nghymru i sefydlu busnes, dod o hyd i waith, neu ddatblygu sgiliau trwy gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli.
https://www.primecymru.co.uk/

Busnes Cymru

Os ydych chi’n hunangyflogedig neu’n ystyried dechrau busnes, gall help fod ar gael i chi trwy Fusnes Cymru. Dyma wasanaeth am ddim sy’n cynnig cymorth a chyngor annibynnol, diduedd i bobl sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnes yng Nghymru.
https://businesswales.gov.wales/cy/node/8164https://businesswales.gov.wales/business-wales

Syniadau Mawr Cymru – O dan 25 oed

Os ydych chi’n 25 oed neu’n iau ac yn wynebu rhwystrau sy’n eich atal chi rhag dechrau busnes, chwilio am gyfleoedd newydd neu os oes genych syniad busnes gwych, efallai gall Syniadau Mawrth Cymru (rhan o Fusnes Cymru) eich helpu chi. Ei nod yw annog pobl ifanc o dan 25 oed i ddatblygu sgiliau menter, beth bynnag yw eu dewis o ran gyrfa.
https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy/gwybodaeth-am-syniadau-mawr-cymruhttps://businesswales.gov.wales/bigideas/about-big-ideas-wales

Gwasanaeth Di-waith

Mae rhaglen y Gwasanaeth Di-waith yn cynnig cymorth cyflogaeth cyfrinachol, yn rhad ac am ddim, gan fentoriaid gymheiriaid (pobl sydd â phrofiad bywyd sy’n eu helpu nhw i ddeall yr heriau rydych chi wedi’u cael wrth gael gwaith) i bobl yng Nghymru.
https://gov.wales/employment-support-if-you-have-mental-health-alcohol-or-drug-problems-out-work-service

Gyrfa Cymru

Y lle i ddechrau ar gyfer gwybodaeth am waith, addysg neu hyfforddiant

Trivallis Housing Landlord Wales Two men wearing Trivallis-branded polo shirts are smiling and posing at an outdoor housing event, with a promotional stand in the background and a table with paperwork and a coffee cup in the foreground.