Fy Trivallis i

Gadael

Defnyddiwch y botwm ymadael i fynd â chi i wefan arall, os oes angen i chi adael y dudalen hon ar unwaith.

Mewn perygl uniongyrchol?

Ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999.

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig, mae help ar gael. Rydym ni yma i gynnig cymorth, arweiniad ac adnoddau i’ch helpu i ddelio â’r sefyllfa.

Beth yw cam-drin domestig?

Mae sawl ffurf ar gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin corfforol, emosiynol, ariannol neu eiriol. Gall ddigwydd i ddynion a menywod. Mae’n bwysig cydnabod nad yw unrhyw un yn haeddu dioddef triniaeth o’r fath, ac mae help ar gael.

Sut gallwn ni helpu?

Yn Trivallis, mae gennym grŵp pwrpasol o aelodau staff sy’n gyfrifol am sicrhau ein bod ni gyd yn chwarae ein rhan wrth ddiogelu oedolion a phlant. Rydym ni’n gweithio gydag oddeutu 300 o ddioddefwyr trais a cham-drin domestig bob blwyddyn.

Nid dim ond helpu ar ein pen ein hunain rydym ni’n ei wneud. Rydym ni’n gweithio gydag asiantaethau a sefydliadau lleol eraill i gael cymorth pellach i’r unigolyn. Gallwn helpu i chi greu cynllun diogelwch wedi’i deilwra i’ch sefyllfa unigryw chi. Gall y cynllun hwn gynnwys camau i’ch amddiffyn chi a’ch anwyliaid.

 

Pwy arall all helpu?

Isod, rydym ni wedi rhestru rhai asiantaethau eraill a all helpu os ydych chi mewn perthynas gam-driniol. Os byddwch chi’n siarad ag asiantaeth arall, dywedwch wrthynt eich bod chi’n denant gyda Trivallis fel y gallant weithio gyda ni i ddarganfod rhywle diogel i chi fyw.

Cofiwch

Rydych chi’n gryf. Mae gadael sefyllfa gam-driniol yn heriol, ond nid ydych chi ar eich pen eich hun. Rydym ni yma i’ch cynorthwyo bob cam o’r daith. Eich diogelwch chi yw ein blaenoriaeth ni.

Mae’r sefydliadau hyn yn cynnig cymorth cyfrinachol ac arbenigol i bobl sy’n dioddef cam-drin domestig. Estynnwch allan iddynt i gael cymorth ac arweiniad wedi’u teilwra i’ch sefyllfa.

  1. Llinell Gymorth Trais Domestig Genedlaethol
    Llinell gymorth gyfrinachol, am ddim, sy’n cael ei rhedeg gan Gymorth i Fenywod a Refuge, i unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig.
    Visit: https://nationaldomesticviolencehelpline.org.uk
    Ffoniwch: 0808 2000 247 (ar agor 24/7)
  2. Gwasanaethau Cam-drin Domestig RhCT
    Gwasanaeth penodol pob rhywedd ym Mhontypridd sydd ar gael i roi cymorth, cyngor ac eiriolaeth i chi.
    http://www.famouspeoplerct.co.uk/public/index.html
    E-bost: PontypriddSafetyUnit@rctcbc.gov.uk
    Ffoniwch: 01443 494190 / 01443 292192
  3. Cymorth i Fenywod RhCT
    Help a chymorth i ddioddefwyr gwrywaidd a benywaidd cam-drin a thrais domestig yn RhCT.
    https://warct.org.uk
    Ffoniwch: 01443 400791
  4. Rise Cardiff
    Mae’n cynnig help a chymorth i ddioddefwyr cam-drin a thrais domestig yng Nghaerdydd.
    https://Risecardiff.cymru
    Ffoniwch: 029 2046 0566 (ar agor 24/7)
  5. New Pathways
    Mae’n cynnig help i ddynion, menywod a phlant o bob oedran ar draws RhCT, sydd wedi profi trawma cael eu treisio neu drais rhywiol.
    https://newpathways.org.uk
    Ffoniwch: 01685 379 310
  6. Byddin yr Iachawdwriaeth
    Diogelwch a chymorth parhaus i fenywod a’u plant, ynghyd â benywod sengl sydd wedi profi cam-drin domestig.
    https://SalvationArmy.org.uk/domesticabuse
  7. Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg
    Gwybodaeth, cymorth a mynediad i help lleol yn RhCT, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr.
    https://cwmtafmorgannwgsafeguardingboard.co.uk
  8. Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
    Ffoniwch yn rhad ac am ddim unrhyw bryd, os gallwch ffonio’n ddiogel.
    https://gov.wales/livefearfree/contactlivefearfree
    Ffoniwch: 0808 8010 800 (ar agor 24/7)
  9. Respect
    sefydliad yn y DU sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais domestig, dioddefwyr gwrywaidd trais domestig a thrais phobl ifanc mewn perthynas glòs.
    https://respect.uk.net
    Llinell gymorth i bobl sy’n poeni am eu hymddygiad: 0808 802 4040
    Llinell gymorth i ddynion sy’n profi cam-drin domestig: 0808 801 0327
  10. ManKind
    Help i ddynion sydd wedi dioddef trais a cham-drin domestig, gyda gwybodaeth a chymorth.
    https://mankind.org.uk
    Ffoniwch: 01823 334244 (diwrnodau’r wythnos 10am tan 4pm)
  11. Byddin yr Iachawdwriaeth
    Helpu dioddefwyr caethwasiaeth fodern ddianc rhag perygl a’u cynorthwyo i adeiladu bywyd newydd.
    https://salvationarmy.org.uk/modernslavery
    Ffoniwch: 0800 808 3733 (ar agor 24/7)
  12. BAWSO
    Sefydliad blaenllaw yng Nghymru sy’n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i ddioddefwyr du, Asiaidd, ethnig lleiafrifol a mudwyr sy’n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol, masnachu pobl, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod.
    https://bawso.org.uk
    Ffoniwch: 0800 731 8147 (ar agor 24/7)
  13. Llinell Gymorth a Chanolfan Adnoddau Caethwasiaeth Fodern Mae’n cynnig mynediad i ddioddefwyr, y cyhoedd, asiantaethau statudol a busnesau i wybodaeth a chymorth 24/7.
    https://modernslaveryhelpline.org
    Ffoniwch: 08000 121 700 (ar agor 24/7)
  14. Karma Nirvana
    Elusen hawliau dynol Brydeinig sy’n cefnogi dioddefwyr cam-drin ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod.
    https://KarmaNirvana.org.uk
    Ffoniwch: 0800 2999 247 (Llun-Gwener 9am-5pm)
  15. Stonewall Cymru
    Cyngor a chymorth ar amrywiaeth o faterion i ddioddefwyr a goroeswyr LHDTC+ cam-drin domestig yng Nghymru.
    https://stonewallcymru.org.uk
    Ffoniwch: 0800 0502020 (9:30 – 4:30 Dydd Llun i ddydd Gwener)
  16. Galop
    Elusen gwrth-drais LHDTC+ sy’n cefnogi pob unigolyn LHDTC+ sydd wedi profi trosedd gasineb, cam-drin domestig neu drais rhywiol.
    https://galop.org.uk
    Ffoniwch Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol LHDT+: 0800 999 5428 (ddydd Llun i ddydd Gwener 10am-5pm a dydd Mercher i ddydd Iau 10am-8pm)

Cymorth

Cysylltwch â’n tîm diogelu

A group of smiling colleagues standing outdoors in a community setting, exuding a team spirit.