Fy Trivallis i

Cipolwg

  • Mae eich llais chi’n bwysig – rydym ni’n cynnwys tenantiaid wrth lunio ein gwasanaethau.
  • Gwasanaeth rhagorol i denantiaid trwy Ganolfan Gyswllt bwrpasol er mwyn gallu cysylltu’n hawdd.
  • Gwasanaethau cymorth tenantiaid, tenantiaethau sicr, a rhenti fforddiadwy yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru.
  • Ymrwymiad i gymunedau lleol gyda phresenoldeb cryf yn yr ardal.
  • Buddsoddiadau mewn mentrau datblygu, adfywio a mentrau ecogyfeillgar er eich cysur a’ch lles.
  • Un o’r cymdeithasau tai mwyaf yng Nghymru, yn rheoli 10,000 o gartrefi a chartrefu 25,000 o breswylwyr.
Trivallis Housing Landlord Wales A woman in a hijab and a young girl sitting on a sofa reading a book together in a well-lit Trivallis housing room.

I’r gymuned, nid er elw

Rydym ni’n sefydliad cymunedol cydfuddiannol.

Mae hyn yn golygu ein bod ym mherchnogaeth ein tenantiaid, wedi’n gwreiddio yn ein cymunedau lleol, ac yn gweithio trwy gydweithrediad a phartneriaeth. Ein blaenoriaeth yw darparu cartrefi ac eiddo diogel a fforddiadwy, mewn ffordd gyfrifol, foesegol ac eco-gyfeillgar. Mae ein holl elw’n mynd yn ôl i uwchraddio cartrefi presennol, datblygu cartrefi newydd a gwella ein gwasanaethau. Yn wahanol i rai cwmnïau preifat mawr, nid gwneud arian i gyfranddalwyr allanol yw ein pwrpas.

Ein hymrwymiad i chi

Yn Trivallis, rydym ni’n ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n tenantiaid.

Mae ein Canolfan Gyswllt gyfeillgar, yn ein pencadlys ym Mhontypridd, wedi’i staffio gan bobl leol sy’n barod i’ch helpu yn ystod oriau swyddfa dros y ffôn, drwy’r e-bost a thrwy ein porth i denantiaid, Fy Trivallis i. Ar gyfer argyfyngau’r tu allan i oriau swyddfa, rydyn ni’n gofalu amdanoch chi. Gallwch gysylltu â ni 24/7.

Eich cartref diogel a chyfforddus

Rydym ni’n ymdrechu i gadw eich cartref yn ddiogel, yn sicr ac yn gyfforddus.

Gwaith trwsio cyflym ac effeithlon, diweddariadau rheolaidd i eiddo a chadw at safonau diogelwch nwy a thân yw ein prif flaenoriaethau. Rydym ni’n falch o fod wedi ennill achrediad y Gynghrair Tai yn erbyn Cam-drin Domestig (DAHA), sy’n arddangos ein hymrwymiad i ddarparu ymatebion diogel ac effeithiol i gam-drin domestig. Ni oedd y gymdeithas tai gyntaf i dderbyn achrediad o dan Safonau Byw’n Annibynnol newydd EROSH.

Eich cefnogi chi i fyw’n dda

Mae ein timau Cyngor Ariannol, Cymdogaethau a Chymorth yma i’ch helpu chi

Rydym ni’n gwrando ar eich pryderon, yn rhoi gwybodaeth i chi ac yn cynorthwyo yn ystod cyfnodau heriol. Diolch i’n dull seiliedig ar gymorth, rydym ni wedi helpu llawer o denantiaid i osgoi cael eu troi allan.

Tenantiaethau sicr er tawelwch meddwl i chi

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn sicrhau amddiffyniad cyfreithiol i denantiaid, gan roi’r hawl i chi aros yn eich cartref. Mae hyn yn dod â sefydlogrwydd, amddiffyniad rhag cael eich troi allan yn sydyn neu gynnydd sydyn yn y rhent, a’r rhyddid i greu cartref cyfforddus. Mae ein rhenti’n cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru, gan sicrhau fforddiadwyedd trwy ymgynghoriadau helaeth â thenantiaid.

Mae eich llais yn bwysig

Credwn mewn cynnwys ein tenantiaid wrth lunio ein gwasanaethau.

P’un a yw hynny trwy arolygon, grwpiau ffocws, gweithgorau, neu ymuno â’n panel o denantiaid cysylltiedig, gallwch gyfrannu at newidiadau cadarnhaol yn ein cymuned.

Cynlluniau datblygu cyffrous

Y llynedd, buddsoddom filiynau o bunnoedd mewn gwneud ein cartrefi’n eco-gyfeillgar.

Addasom gannoedd o eiddo i denantiaid ac mae ein prosiectau datblygu parhaus yn addo mwy fyth o gartrefi cyfforddus, modern i’n cymuned.

Byw’n ymwybodol yn amgylcheddol

Rydym ni’n ymrwymo i greu cymunedau eco-gyfeillgar.

Nod ein harferion cynaliadwy, ein nodweddion ynni effeithlon a’n mannau gwyrdd yw gwneud lles i’r blaned ac i’ch lles. Gyda’n gilydd, rydym ni’n lleihau ein hôl troed carbon ac yn meithrin cymuned wydn, sy’n ystyriol o’r hinsawdd.

Cryfder a sefydlogrwydd ariannol

Mae Trivallis yn gadarn yn ariannol, gan sicrhau dyfodol cryf i’n heiddo ac i’n cymunedau. Mae ein cynllun busnes 30 mlynedd yn rhoi arweiniad i ni ar wneud buddsoddiadau sylweddol a bodloni’r galw lleol am gartrefi newydd.

Cofiwch

Eich cartref yw ein blaenoriaeth bennaf