Fy Trivallis i

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Rhowch wybod i ni am broblemau lleithder a llwydni cyn gynted â phosibl, fel y gallwn eich helpu i fynd i’r afael â nhw. Gorau po gyntaf i chi gysylltu â ni, fel y gallwn weithio gyda chi i ddatrys pethau cyn iddyn nhw waethygu. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi’n byw gyda:

  • babanod a phlant
  • pobl hŷn
  • pobl â phroblemau’r croen, fel ecsema atopig
  • pobl â phroblemau resbiradol, fel alergeddau ac asthma
  • pobl â system imiwnedd wan, fel pobl sy’n cael cemotherapi

Yma i helpu

Rhowch wybod am broblem unrhyw bryd. Pan fyddwch chi’n rhoi gwybod i ni am broblem, byddwn ni’n gofyn rhai cwestiynau i chi er mwyn deall beth all fod yn ei achosi a pha mor hir y gall gymryd i’w wella.

Beth fydd yn digwydd pan fydda’ i’n rhoi gwybod am leithder a llwydni?

Mae gennym ni dîm arbenigol i ddelio â lleithder a llwydni.

Byddwn ni’n anfon un o’n harbenigwyr i’ch cartref i weld beth sydd o’i le ac i ddod o hyd i’r ffordd orau o’i ddatrys. Byddan nhw’n gweithio gyda chi i ddarganfod yr achos ac i awgrymu datrysiadau da. Yna, cewch apwyntiad ar wahân i rywun ddod yn ôl a gwneud y gwaith angenrheidiol.

Rydym ni’n poeni amdanoch chi ac rydym ni am i’ch cartref fod yn gysurus ac yn iach. Gyda’n gilydd, down o hyd i’r ateb cywir i’r broblem.

 

Beth os nad ydw i’n hapus

Mae ein tîm lleithder a llwydni yn delio â llawer o alwadau ac mae datrys y broblem yn gymhleth weithiau, yn enwedig os bu’n broblem ers amser hir. Rydym yn gwybod y gall hyn fod yn bryderus neu’n rhwystredig, ond plîs ffoniwch eich tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 03000 030 888 os nad ydych chi’n hapus â’r gwasanaeth a gawsoch. Rydym ni yma i wrando ac yma i helpu.

Cyfryngau cymdeithasol

Rydym ni’n deall y gallech chi rannu eich meddyliau ar y cyfryngau cymdeithasol fel bod rhywun yn eich clywed chi, os nad ydych chi’n hapus gyda ni. Rydym ni’n gwneud ein gorau i ymateb i negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, ond i ddatrys problem yn gynt, cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt ar 03000 030 888. Dyma’r ffordd gyflymaf o ddatrys pethau ac rydym ni’n barod i’ch helpu chi.

Rhoi gwybod am leithder a llwydni

A man carrying a toolbox smiling in front of a service van with