Fy Trivallis i

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Sut gallwn ni helpu

Mae ein timau cymorth yn gweithio gyda thenantiaid sydd angen help ychwanegol i aros yn eu cartref. Mae ein gwasanaethau cyfrinachol, rhad ac am ddim, i bobl sy’n wynebu problemau gyda’u tenantiaid neu addasu i eiddo neu ardal newydd. Mae’r tîm yn rhoi cyngor ar bethau fel budd-daliadau lles, tai, dysgu a chyfleoedd gwaith.

Dyma rai o’r gwasanaethau rydym ni’n eu cynnig:

  • Paratoi i ddechrau tenantiaeth a beth mae hyn yn ei olygu (GRAMO)
  • Rheoli arian, budd-daliadau a chyllideb eich cartref (SAFE a STEPS)
  • Atal digartrefedd (SAFE a STEPS)
  • Ymgartrefu a gwneud ffrindiau yn y gymdogaeth (SAFE a STEPS)
  • Cadw eich cartref yn ddiogel, heb annibendod (MAGPIE)
  • Trefnu apwyntiadau a chael gafael ar wasanaethau defnyddiol eraill (SAFE a STEPS)
  • Llenwi ffurflenni, darllen y post ac ysgrifennu llythyron pwysig (SAFE a STEPS)
  • Manteisio ar gyfleoedd hamdden, sgiliau a gwaith (SAFE a STEPS)
  • Cymorth i aros yn annibynnol (SAFE a STEPS)

Sut mae’n gweithio

Byddwn ni’n ymweld â chi gartref (neu rywle arall byddwn ni’n cytuno arno â chi) i drafod sut gallwn ni helpu a beth rydych chi eisiau ei gyflawni. Mae hyn yn ein helpu i roi cynllun cymorth at ei gilydd sydd wedi’i deilwra’n benodol i chi a bydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

Rydym ni’n gweithio gydag asiantaethau eraill i wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael help ganddyn nhw hefyd.

Cwrdd â’n tîm Cymorth Tenantiaeth

Gall fod yn anodd siarad â ni am broblemau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cartref, ond mae ein cynghorwyr wedi cael hyfforddiant i weithio gyda phobl sy’n mynd trwy gyfnod anodd.

Rydym ni am i chi deimlo’n hapus yn eich cartref a gallu ymdopi. Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os ydych chi’n teimlo bod pethau’n mynd yn drech na chi. Gorau po gyntaf y byddwch yn cysylltu â ni, fel y gallwn weithio gyda chi i ddatrys pethau cyn iddyn nhw waethygu.

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.