Fy Trivallis i

Datblygwyd ein gwerthoedd gan ein staff a’n tenantiaid.

Er i hyn gymryd llawer o siarad a mireinio, roedd yr amser a dreuliwyd yn meddwl am ein gwerthoedd yn hollbwysig i saernïo rhywbeth sydd wir yn golygu rhywbeth i bob un ohonon ni.

handshake icon
handshake icon

Dibynadwy

Yn Trivallis, mae dibynadwyedd yn elfen annatod o’n diwylliant. Rydym ni nid yn unig yn anelu at ennill ymddiriedaeth ein tenantiaid, ein cydweithwyr a’n cymuned, mae hefyd yn werth rydym ni’n ei arddangos yn ein holl weithredoedd a rhyngweithiadau.

Cyfathrebu gonest ac agored:

Bod yn onest ac yn dryloyw ym mhob cysylltiad.

Rhannu gwybodaeth yn agored, gan osgoi cyfrinachau.

Meithrin perthnasoedd:

Datblygu perthnasoedd cadarn, da gyda thenantiaid a chydweithwyr.

Cymryd amser i ddod i adnabod ein gilydd a meithrin ymddiriedaeth.

Parch ac atebolrwydd:

Trin pawb gyda pharch, dim ots am wahaniaethau.

Bod yn ddibynadwy ac yn gyfrifol yn ein gwaith.

Cadw ein haddewidion, cyflawni ein hymrwymiadau a chymryd perchnogaeth ar dasgau.

Dull sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid:

Blaenoriaethu anghenion tenantiaid a chynnal gwasanaethau o ansawdd uchel.

hand and heart icon
hand heart icon

Caredig

Yn Trivallis, mae bod yn garedig yn ganolog i bopeth rydym ni’n ei wneud. Trwy fod yn garedig yn ein rhyngweithiadau o ddydd i ddydd, credwn ein bod yn creu amgylchedd cefnogol a thosturiol i’n tenantiaid, i gydweithwyr ac i’r gymuned.

Caredigrwydd a pharch:

Dangos caredigrwydd a gofal i denantiaid, cydweithwyr a’r gymuned.

Trin pawb gyda pharch, gan fod yn foesgar.

Empathi a dealltwriaeth:

Gwrando gydag empathi a deall anghenion a sefyllfaoedd unigol.

Ystyried effaith ein gweithredoedd ar bobl eraill.

Cyfathrebu effeithiol:

Annog cyfathrebu agored, gonest, cadarnhaol, nad yw’n barnu.

Defnyddio iaith ystyriol a chefnogol, bod yn gwrtais bob amser.

Cefnogi a chydnabod:

Cynnig cefnogaeth i bobl mewn angen, boed yn denantiaid neu’n gydweithwyr, a chydnabod eu llwyddiannau.

Mynd y filltir ychwanegol:

Mynd y tu hwnt i’r arfer i helpu tenantiaid a chydweithwyr.

Bod yn barod i wneud ymdrech ychwanegol i fodloni anghenion pobl eraill.

progressive icon

Cynyddol

Yn Trivallis, ein diffiniad o gynnydd yw ymrwymiad diwyro i ddysgu, arloesi ac addasrwydd parhaus. Rydym ni’n mynd ati’n weithgar i geisio cyfleoedd i wella, cofleidio newid, ac annog datblygiad ein cydweithwyr, gan fod ar flaen y gad bob amser.

Dysgu a datblygu:

Blaenoriaethu dysgu parhaus a buddsoddi mewn hyfforddi a datblygu cydweithwyr.

Cofleidio a buddsoddi mewn technolegau a sgiliau newydd.

Arloesi ac addasu:

Bod yn agored i newid, syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio.

Cyfathrebu effeithiol:

Cyfleu gwerthoedd a gwybodaeth am newidiadau yn effeithiol.

Gwelliant parhaus:

Ceisio ffyrdd o wella gwasanaethau a phrosesau.

Dysgu o gamgymeriadau a hyrwyddo effeithlonrwydd i wella ein gwasanaethau.

Gwrando ac ymglymiad:

Gwrando ar adborth a syniadau gan gydweithwyr, tenantiaid a chwsmeriaid.

inclusive icon

Cynwysoldeb

Yn Trivallis, credwn mewn diwylliant o gynwysoldeb sy’n rhoi pwys ar safbwynt, anghenion a chyfraniadau unigryw pawb. Rydym ni’n ymrwymo i drin ein holl staff a thenantiaid gyda pharch, gan gofleidio amrywiaeth, a cheisio cyfraniad yn weithgar o bob cornel o’n cymuned.

Cynwysoldeb a thegwch:

Cofleidio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy drin pawb yn deg, gyda pharch.

Canolbwyntio ar anghenion unigryw a sicrhau bod gan bawb lais.

Cymryd safbwynt cadarn yn erbyn pob ffurf ar wahaniaethu a gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw wahaniaethu yn brydlon.

Cydweithredu:

Cydweithio fel tîm cydlynol, cydweithredu â chydweithwyr, rhwng timau ac adrannau.

Cydweithredu a chynnwys tenantiaid, y gymuned a chydweithwyr mewn penderfyniadau.

Datblygu gweithwyr:

Darparu rhaglenni hyfforddiant ac ymwybyddiaeth, grymuso cydweithwyr a rhoi pwys ar sgiliau.

Rhoi pwys ar bob barn:

Pwysleisio pwysigrwydd gwrando ar lais pawb a rhoi llais i bawb.

Gwrando ar bob safbwynt, gan wneud yn siŵr ein bod yn clywed gan ystod amrywiol o bobl.

Dathlu a chydnabod gwahaniaethau unigol, gan roi pwys ar eu safbwyntiau unigryw.