Fy Trivallis i

Nod Get Ready and Move On (GRAMO) yw rhoi’r dechrau gorau i bobl gyda’u tenantiaeth. Ar gyfer pobl sy’n byw’n annibynnol am y tro cyntaf neu sy’n cael eu hailgartrefu ar ôl cyfnod o ddigartrefedd, gall addasu i ffordd newydd o fyw fod yn her.

Mae GRAMO yn brosiect gwybodaeth cyn tenantiaeth a gyflwynir drwy chwe sesiwn fer sy’n trafod y camau angenrheidiol i symud ymlaen a chael gafael ar y cymorth sydd ar gael. Mae’r sesiynau’n ymdrin â defnyddio Homefinder i ddod o hyd i eiddo sydd ar gael i chi, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anghydfodau â landlordiaid, deall eich tenantiaeth, rheoli arian, biliau a chyllidebu, a budd-daliadau a grantiau sydd ar gael.

Sesiynau Byr

Modiwl 1 – Camau angenrheidiol i symud ymlaen a pha gymorth sydd ar gael

  • Ffocws: Cynllunio’r camau nesaf a nodi’r cymorth sydd ar gael
  • Gweithgareddau:
    • Llunio rhestr wirio a chynllun cymorth personol
    • Trafodaethau a gweithgareddau grŵp
    • Deall beth sy’n digwydd wrth gofrestru tai
  • Nod: Gwybod y camau i symud ymlaen a phwy all helpu

Modiwl 2 – Homefinder ac Eiddo sydd ar gael

  • Ffocws: Dod o hyd i dai addas drwy Homefinder a ffynonellau eraill
  • Gweithgareddau:
    • Archwilio gwefannau fel Homefinder a rhestrau rhentu preifat
    • Trafod cymorth cyfredol a gwahanol opsiynau tai
    • Gweld eiddo enghreifftiol
  • Nod: Dysgu sut i chwilio am dai a deall y cymorth sydd ar gael

Modiwl 3 – Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anghydfodau â Landlordiaid

  • Ffocws: Beth sy’n cyfrif fel Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ei effaith a sut i ymdrin â materion landlordiaid
  • Gweithgareddau:
    • Astudiaethau achos, chwarae rôl
    • Deall canlyniadau a’r cymorth sydd ar gael
  • Nod: Adnabod Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gwybod eich cyfrifoldebau a dod o hyd i gymorth

Modiwl 4 – Deall Cytundeb Tenantiaeth

  • Ffocws: Dysgu am gytundebau tenantiaeth a’ch hawliau/cyfrifoldebau
  • Gweithgareddau:
    • Adolygu cytundebau go iawn ac astudiaethau achos
    • Trafod newidiadau cyfreithiol sydd ar ddod (Rhentu Cartrefi Cymru)
  • Nod: Gwybod beth sydd mewn cytundeb tenantiaeth a beth mae’n ei olygu i chi

Modiwl 5 – Rheoli Arian a Chyllidebu

  • Ffocws: Sut i reoli biliau a chyllideb ar gyfer tenantiaeth
  • Gweithgareddau:
    • Llenwi cynllun ariannol
    • Dysgu am gyllidebu
    • Nodi gwasanaethau cymorth ariannol
  • Nod: Trin arian yn effeithiol a chynllunio ar gyfer costau rheolaidd

Modiwl 6 – Budd-daliadau a Grantiau sydd ar gael

  • Ffocws: Deall budd-daliadau a grantiau i gefnogi eich tenantiaeth
  • Gweithgareddau:
    • Dysgu am Gredyd Cynhwysol, costau tai a sut i wneud cais
    • Darganfod gwasanaethau a gwefannau sy’n cynnig cymorth ariannol
  • Nod: Gwybod pa gymorth ariannol sydd ar gael a sut i gael gafael arno

Sut i gofrestru

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y prosiect neu os hoffech chi drafod archebu lle ar un o’r sesiynau sydd i ddod, cysylltwch â: Dorian Griffiths – Dorian.Griffiths@trivallis.co.uk

Trivallis Housing Landlord Wales A man wearing a black Trivallis t-shirt sits at a desk smiling at the camera, with a laptop and papers in front of him. Another person is blurred in the foreground.

Dorian - The GRAMO Man (Saesneg yn unig)

Read what drives Dorian when he’s delivering this life changing programme.

Darllen mwy