Fy Trivallis i

Rydym am i’n holl gyfranddalwyr allu ymuno â’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Eleni, gallwch gymryd rhan naill ai trwy ddod i’r cyfarfod neu ymuno ar-lein. Y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yw eich cyfle i rannu eich barn ar sut mae ein Cymdeithas Tai yn cael ei rheoli ac i bleidleisio dros ymgeiswyr sy’n ymgeisio i fod yn aelodau o Fwrdd y Cwmni Cydfuddiannol Cymunedol.

Y busnes i’w ystyried yn y cyfarfod fydd y penderfyniadau cyffredin:

  1. Adroddiad y Bwrdd ar faterion y Cwmni Cydfuddiannol Cymunedol ar gyfer y cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2025.
  2. Yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025.
  3. Ail-benodi archwilwyr allanol Menzies LLP (Haines Watts LLP gynt).

Gwybodaeth gyffredinol

Rydym wedi anfon llythyrau at gyfranddalwyr gyda chyfarwyddiadau ar sut i gael gafael ar ddogfennau’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar-lein. Roedd y llythyrau hefyd yn cynnwys ffurflen bleidleisio a dolen i ymuno â’r cyfarfod ar-lein. Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gyfranddaliwr ac nad ydych wedi cael y ddolen na’r ffurflen bleidleisio, anfonwch e-bost at agm@trivallis.co.uk.

Gall cyfranddalwyr ddewis rhywun i’w cynrychioli yn y cyfarfod. Gallwn hefyd helpu unrhyw gyfranddalwyr sydd angen cymorth. Os ydych am bleidleisio cyn y cyfarfod neu ddewis cynrychiolydd, dychwelwch eich ffurflen bleidleisio erbyn 11am ddydd Iau 7 Awst 2025.

Dyddiad yr hysbysiad hwn yw 24 Gorffennaf 2025.

TRWY ORCHYMYN Y BWRDD

Lisa Pinney, Ysgrifennydd y Cwmni

Ein harchwilwyr

Mae ein cyfrifon wedi’u harchwilio gan Menzies LLP (Haines Watts gynt), 5ed Llawr Hodge House, 114 – 116 Heol y Santes Fair, Caerdydd, CF10 1DY.

Ewch i’w gwefan am ragor o wybodaeth.

Mae pleidleisio yn hawdd

Gallwch bleidleisio cyn y cyfarfod gan ddefnyddio'r ddolen Pleidleisio Nawr isod.
Rhaid i ffurflenni pleidleisio drwy'r post ac ar-lein ein cyrraedd ni erbyn 11am ddydd Iau 7 Awst 2025.
Amodau pleidleisio:
- Rhaid i chi fod yn denant neu'n gyfranddaliwr annibynnol neu'n cyflwyno fel cynrychiolydd enwebedig un o’r rhain.
- Rhaid i chi fod dros 18 oed ar ddydd Iau 7 Awst 2025.

Pleidleisio nawr!
page image

Cwrdd â'n Bwrdd

Mae ein Bwrdd yn gyfrifol am gymeradwyo unrhyw benderfyniadau strategol mawr a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn ar gyfer Trivallis a'n tenantiaid.
Mae'r aelodau'n cwrdd bob dau fis ac yn cyfrannu at is-bwyllgorau hefyd. Mae pob aelod yn cael hyfforddiant a chefnogaeth helaeth wrth gyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol i wneud yn siŵr ein bod yn gweithredu'n gyfrifol ac o fewn y gyfraith.

Mwy o wybodaeth
page image