Fy Trivallis i

Tidy People: Olwen Chislett – calonnau agored a drysau agored.

15 April 2025

Croeso i Tidy People — cyfres newydd sy'n dathlu'r bobl anhygoel sy'n gwneud eu cymunedau yn well drwy ddangos caredigrwydd, creadigrwydd a thrwy weithredu.

Croeso i Tidy People — cyfres newydd sy’n dathlu’r bobl anhygoel sy’n gwneud eu cymunedau yn well drwy ddangos caredigrwydd, creadigrwydd a thrwy weithredu.

I gychwyn pethau, rydyn ni’n dechrau gyda’r person a ysbrydolodd y gyfres gyfan – Olwen Chislett!

Gallwch wrando ar stori Olwen yn ei geiriau ei hun ar bodlediad Tidy people neu drwy’r gyfres Tidy people ar youtube.

 

Olwen yn y Neuadd Les yn Beddau

Yn 90 oed, mae Olwen Chislett yn dal i fynd o nerth i nerth – yn trefnu, yn annog ac yn dod â phobl at ei gilydd yn union fel y mae hi wedi gwneud gydol ei hoes. Ganed Olwen ym 1934 yn Milford Street, Tŷ-nant, ac fe’i magwyd mewn cartref lle’r oedd haelioni ac ysbryd cymunedol yn ffordd o fyw. Gallai ei thad, cyn-filwr rhyfel a gweithiwr pwll glo, drwsio bron unrhyw beth – o glociau i esgidiau plant – yn aml gan ddefnyddio tuniau i wneud sbringiau neu wadnau, gan wneud yn siŵr bod hyd yn oed y plant tlotaf yn cerdded gyda  balchder.  Roedd gan ei mam, a arferai weithio mewn ffatri yn Henffordd yn ystod y rhyfel, wastad fabi yn ei breichiau a drws agored i unrhyw un mewn angen.

Mae’r cynhesrwydd drws agored hwnnw yn wythïen gref drwy stori Olwen.

Er gwaethaf brwydro yn erbyn polio fel plentyn, daeth Olwen o hyd i gryfder trwy symudiad – dysgodd ei hun i nofio yn yr afon leol, cyn mentro i Faddonau Pontypridd. Creodd ei phenderfyniad argraff ar y Loteri Genedlaethol, a’i ffilmiodd fel rhan o ddathliad o wydnwch a hanes lleol.

Roedd llyfrau yn ddihangfa arall. Diolch i Lyfrgell Carnegie ym Mhentre’r Eglwys gerllaw, darganfu Tarzan, Enid Blyton, a byd ‘pen pals’ – a dechreuodd ohebu â phobl o’r Almaen i Seland Newydd, gyda llawer ohonyn nhw’n dod yn ffrindiau gydol oes. Mae ei chariad at ysgrifennu yn amlwg hyd heddiw.

Yn broffesiynol, cerfiodd Olwen lwybr ym maes addysg a gweinyddiaeth, gan weithio fel clerc, yna bwrsar, ac yn y pen draw fel pennaeth staff cymorth yn ei hysgol leol. Aeth ei hawch academaidd â hi i’r Brifysgol Agored lle bu’n astudio popeth o athroniaeth wleidyddol i Almaeneg. Fe wnaeth hi hyd yn oed ymweld â Rwsia gyda Phrifysgol Caerdydd a chroesawodd weinidog gyda’r Bedyddwyr o Moscow i’w chymuned.

Ond ei greddf i ddod â phobl at ei gilydd sy’n ei diffinio mewn gwirionedd. O helpu i sefydlu “Mothers in Hospital” i lansio canghennau lleol o’r WI a Chymdeithas y Celfyddydau, a chadw ei U3A a’i llyfrgell leol yn fywiog, mae Olwen bob amser wedi gweld y potensial mewn pobl – ac wedi eu helpu i weld y potensial hwnnw drostyn nhw eu hunain hefyd. Dydy hi ddim yn honni ei bod yn “glyfar,” dim ond yn dda am sylwi ar dalent a chysylltu’r dotiau: “Byddwn i’n darganfod pa mor dda oeddech chi’n gwneud rhywbeth… a byddwn i’n dechrau grŵp bach.”

Mae ei chartref yn parhau i fod yn fwrlwm o weithgaredd – ei Rayburn dibynadwy yn gynnes, ei thegell bob amser yn mudferwi, ac mae ei chacennau blasus yn boblogaidd yn y llyfrgell. “Mae’n dda bod yn brysur,” meddai, ac i Olwen, mae prysur yn golygu adeiladu – cymuned, cysylltiadau, a llawenydd.

Mae Olwen Chislett yn fwy na threfnydd. Mae hi’n esiampl fyw o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn berson ‘tidy’ – nid yn yr ystyr caboledig, ond yn y ffordd ddofn Gymreig honno o fod yn ddibynadwy, yn hael, ac wedi’i hymwreiddio mewn lle a phobl. Ac yn 90 oed, mae hi’n dal i fod mor brysur ag erioed.