Fy Trivallis i

Dweud diolch a rhannu caredigrwydd

14 February 2025

Mae'n Ddiwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell yn digwydd eleni ar 17 Chwefror, felly pa well ffordd o nodi'r achlysur na thrwy rannu gair o ddiolch i rywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth.

Mae’n Ddiwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell yn digwydd eleni ar 17 Chwefror, felly pa well ffordd o nodi’r achlysur na thrwy rannu gair o ddiolch i rywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth.

Does dim teimlad gwell na phan fydd rhywun yn dweud diolch am y pethau lleiaf, felly hoffem eich helpu i rannu’r teimlad braf hwnnw.

Byddem wrth ein bodd yn clywed am bwy hoffech chi ddweud diolch wrthyn nhw, a pham. Boed yn aelod o’r staff, rhywun yn eich cymuned, cymydog neu anwylyn, hoffem eich helpu i rannu’r caredigrwydd hwnnw.

Beth rydyn ni’n gofyn amdano?

Ewch ati i recordio’ch hun yn dweud diolch wrth y sawl yr hoffech ei ddathlu, gan ddweud pam yn y fideo.

Cofiwch wneud y canlynol wrth ffilmio:

  • Dal eich ffôn o bellter addas, fel y gallwn eich gweld o’ch ysgwyddau lan, gan sicrhau bod eich wyneb yn y fideo ac nad ydych chi’n torri eich hun mas.
  • Ffilmio yn y modd portread (portrait mode) .
  • Ffilmio mewn lle tawel, fel y gallwn glywed eich llais yn glir.
  • Cadw eich neges o ddiolch yn gryno.
  • Cofio bod yn ystyriol o ran pa fanylion rydych chi’n eu rhannu yn eich neges.

Rhannu eich diolch

Anfonwch eich fideo atom trwy neges uniongyrchol ar Facebook neu Instagram, a byddwn yn eu rhannu ar ein straeon ar y Diwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell.

Ry’n ni’n edrych ymlaen at glywed eich holl negeseuon.

Hoffem ddechrau pethau drwy ddweud diolch wrth bawb sy’n cymryd rhan.

DIOLCH!