Fy Trivallis i

Meddyliwch Cyn Rhannu: Creu Cymunedau Cryfach

3 February 2025

Mae’n Wythnos Cydraddoldeb Hil ac mae’n gyfle i bob un ohonom ni bwyso a mesur sut y gallwn ni greu cymunedau tecach, mwy cynhwysol.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi newid y ffordd rydyn ni’n cysylltu â’n gilydd. Mae’n ein helpu i gadw mewn cysylltiad, rhannu syniadau, a dysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd yn ein cymunedau. Ond weithiau, yn ddiarwybod i ni, fe allwn ni ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffyrdd sy’n gwneud mwy o ddrwg nag o les.

Yn Trivallis, rydyn ni wedi gweld hyn yn digwydd mewn sgyrsiau ar-lein. Er enghraifft, pan fyddwn ni’n cyhoeddi datblygiad tai newydd, rydyn ni’n aml yn gweld sylwadau lle mae pobl yn dyfalu ac yn damcaniaethu. Cwestiynau fel: “Ar gyfer pwy fydd hwn?” neu ddatganiadau fel, “Fe ddylai fod ar gyfer pobl leol yn unig.” Weithiau, mae’r sylwadau hyn yn cael eu gwneud oherwydd chwilfrydedd, ond yn gyflym iawn gall y sylwadau hyn droi’n rhagdybiaethau am bobl yn seiliedig ar bethau fel o le maen nhw’n dod, yn hytrach na phwy ydyn nhw.

Pam mae Wythnos Cydraddoldeb Hil yn Bwysig

Mae’n Wythnos Cydraddoldeb Hil ac mae’n gyfle i bob un ohonom ni bwyso a mesur sut y gallwn ni greu cymunedau tecach, mwy cynhwysol. Un ffordd o wneud hynny yw drwy ystyried sut rydyn ni’n rhannu gwybodaeth ar-lein.

Rydyn ni i gyd wedi gweld negeseuon neu sylwadau sy’n gwneud datganiadau cyffredinol ysgubol neu’n lledaenu camwybodaeth. Efallai ein bod ni’n eu rhannu nhw ein hunain hyd yn oed, heb feddwl. Ond trwy oedi am eiliad, fe allwn ni sicrhau bod y pethau rydyn ni’n eu dweud ac yn eu rhannu ar-lein yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth yn hytrach na chreu rhaniadau.

Sut i Feddwl Cyn Rhannu

Dyma dri cham syml y gallwch chi eu cymryd i wneud y cyfryngau cymdeithasol yn ofod mwy cadarnhaol:

  1. Meddyliwch am y ffynhonnell. Ydy’r wybodaeth yn gywir? Os yw’n ymwneud â thai, polisïau’r llywodraeth, neu brosiectau cymunedol, chwiliwch am ffynonellau dibynadwy, fel gwefannau swyddogol neu awdurdodau lleol.
  2. Meddyliwch am yr effaith. A allai’r sylw neu’r neges, os nad yw’n wir, frifo rhywun? Ydy’r neges neu’r sylw yn stereoteipio neu’n gwneud rhagdybiaethau annheg?
  3. Ceisiwch gychwyn sgwrs gadarnhaol. Yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau, cofiwch ofyn cwestiynau neu rannu’ch meddyliau mewn ffordd adeiladol.

Er enghraifft, os ydych chi’n chwilfrydig am ddatblygiad tai newydd, gofynnwch am ragor o wybodaeth yn hytrach na neidio i gasgliadau. Fe all sgyrsiau fel hyn ein helpu i ddysgu a thyfu gyda’n gilydd.

Adnoddau i’ch Helpu i gael y Wybodaeth Ddiweddaraf

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut i adnabod camwybodaeth neu feithrin sgyrsiau cynhwysol, dyma rai adnoddau defnyddiol:

  • Full Fact: Elusen gwirio ffeithiau yn y DU sy’n eich helpu i wirio gwybodaeth.
  • Race Equality Foundation: Gwybodaeth sy’n mynd i lygad y ffynnon a chyngor ar hyrwyddo cydraddoldeb hiliol mewn cymunedau.

Gadewch i ni Weithio Gyda’n Gilydd i Greu Cymunedau Cryfach

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arf pwerus, ond ein lle ni yw eu defnyddio’n ddoeth. Trwy feddwl cyn rhannu a chanolbwyntio ar degwch a chynhwysiant, fe allwn ni helpu i wneud ein cymunedau’n fwy croesawgar i bawb.

Yn ystod Wythnos Cydraddoldeb Hil, gadewch i ni ymrwymo i greu gofod—ar-lein ac all-lein—sy’n ein dangos ni ar ein gorau. Gyda’n gilydd, fe allwn ni greu dyfodol lle mae pawb yn teimlo’n gartrefol.