Fy Trivallis i

Fframwaith ar gyfer cymdeithasau tai Llywodraeth Cymru

Ar hyn o bryd mae 4 lefel cydymffurfio, a ddiffinnir gan Lywodraeth Cymru fel:

  1. GWYRDD – Cydymffurfio: Mae’r gymdeithas yn bodloni’r safonau rheoleiddio a bydd yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd arferol.
  2. MELYN – Cydymffurfio: Mae’r gymdeithas yn bodloni’r safonau rheoleiddio yn rhannol ac mae ganddi’r potensial i allu cyflawni’r gwelliannau gofynnol gyda mwy o oruchwyliaeth reoleiddiol.
  3. OREN – Heb gydymffurfio: Mae’r gymdeithas yn bodloni’r safonau rheoleiddio yn rhannol ac yn annhebygol o allu cyflawni’r gwelliannau gofynnol heb ymyrraeth reoleiddiol.
  4. COCH – Heb gydymffurfio: Nid yw’r gymdeithas yn bodloni’r safonau rheoleiddio’n rhannol nac yn llwyr ac mae’n angenrheidiol i’r rheoleiddiwr gymryd camau gweithredu statudol.

Er mwyn deall beth yw barn tenantiaid am ein perfformiad yn erbyn y safonau, cynhaliwyd gweithdy gyda’n tenantiaid dan sylw ym mis Mehefin er mwyn cael eu barn ar eu profiad gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn wedi’n helpu i roi camau gweithredu ar waith ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Canlyniadau safonau rheoleiddio

1. Arweinyddiaeth

GWYRDD – CYDYMFFURFIO

Mae gan y sefydliad arweinwyr da a chynlluniau i’w helpu i gyflawni ei nodau. Tystiolaeth o gynnydd da i ddatblygu amrywiaeth o ran cydraddoldeb a chynhwysiant gyda chynllun clir ar gyfer y flwyddyn i ddod.

2. Rheoli risg

GWYRDD – CYDYMFFURFIO

Mae systemau cryf ar waith i reoli risgiau a gwirio cynnydd. Tystiolaeth dda ar gyfer 2023/24 a chamau gweithredu wedi’u cytuno ar gyfer 2024/25.

3. Gwasanaethau o ansawdd uchel

GWYRDD – CYDYMFFURFIO

Mae tenantiaid yn derbyn gwasanaethau o ansawdd uchel. Tystiolaeth dda ar gyfer 2023/24 a chamau gweithredu wedi’u cytuno ar gyfer 2024/25.

4. Grymuso tenantiaid

GWYRDD – CYDYMFFURFIO

Cefnogir tenantiaid i ddweud eu dweud am sut mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u rhedeg. Tystiolaeth o gynnydd da drwy gyfranogiad tenantiaid dros y flwyddyn ddiwethaf. Camau gweithredu wedi’u cytuno mewn ymateb i adborth tenantiaid am wahanol fathau o ymgysylltu a’r broses gwyno.

5. Rhenti a thaliadau gwasanaeth

GWYRDD – CYDYMFFURFIO

Mae rhenti a thaliadau gwasanaeth yn fforddiadwy nawr ac yn y dyfodol. Tystiolaeth dda ar gyfer 2023/24 a chamau gweithredu wedi’u cytuno i sefydlu gweithgor tenantiaid ar gyfer taliadau gwasanaeth.

6. Gwerth am arian

GWYRDD – CYDYMFFURFIO

Mae’r sefydliad yn cynllunio’n ofalus i gael gwerth da am arian ym mhopeth y mae’n ei wneud. Tystiolaeth dda ar gyfer 2023/24 a chamau gweithredu wedi’u cytuno ar gyfer 2024/25.

7. Cynllunio ariannol

Mae arian yn cael ei gynllunio a’i reoli’n dda. Tystiolaeth dda ar gyfer 2023/24 a chamau gweithredu wedi’u cytuno ar gyfer 2024/25.

8. Asedau a rhwymedigaethau

GWYRDD – CYDYMFFURFIO

Mae’r sefydliad yn gofalu am ei adeiladau a’i ddyledion yn gyfrifol. Tystiolaeth dda ar gyfer 2023/24 a chamau gweithredu wedi’u cytuno gyda’r tenantiaid dan sylw yn dilyn eu hadborth.

9. Llety o ansawdd uchel

GWYRDD – CYDYMFFURFIO

Mae’r sefydliad yn darparu cartrefi o ansawdd da. Tystiolaeth dda ar gyfer 2023/24 a chamau gweithredu wedi’u cytuno ar gyfer 2024/25.

Yn gyffredinol, mae’r safonau rheoleiddio yn cael eu hasesu fel rhai sy’n cydymffurfio / gwyrdd. Mae hon yn sefyllfa well nag yn 2023 pan aseswyd RS1 ac RS4 fel oren am nad oedden nhw’n cydymffurfio.

Y prif feysydd ffocws ar gyfer y flwyddyn i ddod yw:

  • Cyhoeddi ein Strategaeth Gorfforaethol a gefnogir gan strategaethau sy’n ymwneud â Thenantiaid, Cartrefi, Cymunedau, Cyllid, TG a Data a Phobl.
  • Gweithredu ein Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’n Cynllun Gweithredu ar yr Iaith Gymraeg i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion amrywiol ein holl denantiaid.

Crëwyd gyda Notebook LM

Gwrandewch ar bodlediad byr am ein cydymffurfiaeth reoleiddiol

Trivallis Housing Landlord Wales A person with long hair smiles while speaking into a microphone, protected by a pop filter, with a white brick wall in the background for a podcast.